Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Camu ymlaen: Cyflwyno cwrs MBA ar-lein ym Mhrifysgol Wrexham Wrecsam

Postiwyd ar: Mawrth 14, 2019
gan
Get ahead: Introducing online MBA’s at Wrexham

Ers y flwyddyn 2000 mae nifer y busnesau yn y DU wedi cynyddu 63%, yn ol ffigurau’r llywodraeth. Cynnydd mewn entrepreneuriaid a busnesau newydd sydd wrth wraidd llawer o hyn, gyda datblygiadau mewn technoleg o gymorth. Wrth gwrs, golyga’r twf hwn fod yna lawer mwy o gyfleoedd i bobl gamu ymlaen mewn cwmnïau, ynghyd â galw am weithwyr a chanddynt ddealltwriaeth dda o fusnes – yn enwedig mewn busnesau llai.

Dyna pam y mae Prifysgol Wrecsam wedi cyflwyno tair o raglenni MBA (Meistr mewn Gweinyddu Busnes) ar-lein newydd, sy’n cynnig cyfle i unigolion uchelgeisiol ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i dywys busnes at lwyddiant.

Canolbwyntio ar yrfaoedd

Mae gan y brifysgol eisoes lawer iawn o arbenigedd mewn cyrsiau hyblyg sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, gyda mwy na hanner y myfyrwyr yn astudio’n rhan amser. Bydd y cymwysterau newydd hyn yn cael eu cyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, gan roi cyfle i weithwyr proffesiynol trwy’r DU a gweddill y byd ennill MBA hyblyg o Brifysgol Wrecsam – unrhyw adeg, unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Mae dysgu ar-lein yn gyfle gwych i unigolion a chanddynt amgylchiadau ac ymrwymiadau bywyd amrywiol, gan gyd-fynd yn berffaith â diwylliant Prifysgol Wrecsam. Mae’r brifysgol wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad mewn Addysg Uwch, gan chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial.

Eisoes, mae cyrsiau dan arweiniad diwydiant wrth galon a chraidd yr hyn sydd gan y brifysgol i’w gynnig – rhywbeth sydd wedi ei helpu i ennill sgôr uchel o safbwynt cyflogadwyedd yn y blynyddoedd diwethaf*. Mae cysylltiadau gyda chyflogwyr lleol a rhanbarthol blaenllaw, fel Airbus, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC, yn ased gwych i’r myfyrwyr. Caiff eu gwybodaeth a’u harbenigedd eu bwydo’n ôl i raglen y brifysgol, gan sicrhau mai’r wybodaeth a’r sgiliau mwyaf perthnasol yn unig a gaiff eu cyflwyno i’r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dysgu hyblyg

Gall myfyrwyr ddewis o blith tri chwrs: MBA; MBA Rheoli Adnoddau Dynol; ac MBA Marchnata. Mae natur hyblyg y cyrsiau’n cynnig dewis o chwe dyddiad cychwyn bob blwyddyn, gan alluogi’r myfyrwyr i ddechrau astudio o fewn wythnosau. Ymhellach, mae’r dewis i ‘dalu fesul modiwl’ ar gael, fel y gellir ymestyn y gost dros gyfnod yr astudiaeth.

Gellir cael gafael ar gynnwys y cyrsiau unrhyw adeg ar amrywiaeth o ddyfeisiadau. Ni cheir amseroedd penodol ar gyfer darlithoedd ac ni fydd angen mynychu’r campws, sy’n golygu y gall myfyrwyr ennill MBA tra’n parhau i weithio a threfnu eu hastudiaeth o gwmpas ymrwymiadau teuluol ac ymrwymiadau eraill.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor yn awr. I gael mwy o wybodaeth neu i ymgeisio, ewch i: https://ww3.wrexham.ac.uk/applicationform/enquiryform.aspx

*Ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU o safbwynt cyflogadwyedd graddedigion yn y DU ar ôl astudio graddau cyntaf rhan amser (HESA PI E1b 2015/16)