Mae hi’n hanfodol i bob busnes fod â phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Heddiw, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae defnyddwyr yn cysylltu â’r brandiau sy’n mynd â’u bryd ar y cyfryngau cymdeithasol ac maent yn defnyddio’r cyfrwng hwnnw i chwilio am gynhyrchion a gwasanaethau newydd. Trwy fod yn weithgar ar y platfformau a ddefnyddir gan eich cwsmeriaid, bydd modd ichi helpu i adeiladu ymwybyddiaeth o’ch brand a chasglu prawf cymdeithasol – sef tystiolaeth sy’n dangos bod pobl eraill yn gweld gwerth yn yr hyn sydd gennych i’w gynnig.

 

Ond gan fod llu o fusnesau bach a mawr yn buddsoddi llawer o amser ac arian yn y dasg o greu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r gystadleuaeth yn chwyrn. Os defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol, nid yw hynny’n golygu y bydd pobl yn eich dilyn o angenrheidrwydd. Yn hytrach, rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod yn serennu ymhlith y dorf. Yr unig ffordd y gallwch wneud hyn yw trwy ymgorffori’r cyfryngau cymdeithasol yn eich ymdrechion marchnata ac ymdrechu o ddifrif i gynnal eich proffiliau, gan gynhyrchu cynnwys gwerthfawr er mwyn elwa ar y manteision.

 

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio pa fanteision a ddaw i ran eich busnes trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, byddwn yn archwilio pa sianeli cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael a’r strategaethau gorau y gallwch eu rhoi ar waith ar y cyfryngau cymdeithasol.

Pa fanteision sy’n perthyn i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?

Y nod eithaf i bob busnes yw creu elw ac ysgogi gwerthiannau. Mewn un arolwg a gynhaliwyd gan Curalate, gwelwyd bod 76% o ddefnyddwyr wedi prynu cynnyrch a welsant yn un o bostiadau rhyw frand ar y cyfryngau cymdeithasol. Prynodd 11% o’r rhain y cynnyrch yn syth, prynodd 44% ohonynt y cynnyrch ar-lein yn ddiweddarach, a phrynodd 21% ohonynt y cynnyrch mewn siop yn ddiweddarach.

 

Mae yna fanteision eraill sy’n cyfrannu at ehangu ystod eich cwsmeriaid ac ysgogi gwerthiannau yn y tymor hir, yn cynnwys:

 

  • Denu cwsmeriaid newydd
  • Creu ffyddlondeb ac ymddiriedaeth yn eich brand
  • Denu traffig at eich gwefan
  • Gwella ymwybyddiaeth o’ch brand
  • Gweld yr hyn y mae pobl yn ei ddweud am eich busnes
  • Rhyngweithio’n uniongyrchol â’ch cwsmeriaid mewn amser real

Beth yw ‘cyfryngau a enillir’ mewn marchnata cyfryngau cymdeithasol?

‘Cyfryngau a enillir’ yw amlygrwydd a ddaw i ran busnesau yn sgil dulliau ac eithrio ‘cyfryngau y telir amdanynt’ neu ‘gyfryngau a berchnogir’ (h.y. marchnata a wneir yn fewnol ar sianeli sy’n berchen i’r busnes).

 

Mae cyfryngau a enillir yn cynnwys crybwyllion, postiadau a rennir, postiadau a gaiff eu hailbostio, ac adolygiadau a gaiff eu postio gan gwsmeriaid ar eu sianelu eu hunain, gan dynnu sylw eu cynulleidfaoedd at eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau.

Pa blatfformau y dylech eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol?

Mae yna lu o wahanol blatfformau ar gael. Mae’n bosibl na fydd gan eich busnes amser i greu strategaethau effeithiol ar gyfer pob un; felly isod, rydym wedi cynnwys manylion am y platfformau mwyaf poblogaidd er mwyn ichi allu penderfynu pa rai a all ddiwallu eich anghenion a ble yn union rydych yn fwyaf tebygol o ddod o hyd i’ch cynulleidfa darged.

Facebook:

X (Twitter gynt):

  • Y wefan fwyaf poblogaidd ond 4 yr ymwelir â hi drwy’r byd
  • 541 miliwn o ddefnyddwyr bob mis
  • Y grŵp oedran mwyaf ar y platfform yw pobl 25-34 oed
  • Mae’r cynllun ‘Verified Organizations’ yn costio $1000 y mis, a dim ond ar ôl ymuno â’r cynllun hwn y gall busnesau gynnal ymgyrchoedd y telir amdanynt
  • Mae’n cynnal cynnwys ysgrifenedig, delweddau llonydd, fideos a dulliau pleidleisio rhyngweithiol

Instagram:

  • 2 biliwn o ddefnyddwyr bob mis
  • Y grŵp oedran mwyaf ar y platfform yw pobl ifanc 18-24 oed
  • Mae’n cynnal delweddau llonydd a fideos, ynghyd â nodweddion mwy rhyngweithiol ar y swyddogaeth ‘Instagram Stories’

TikTok:

  • Rhagwelir mai TikTok a fydd yn gweld y twf mwyaf o ran defnyddwyr drwy’r byd o blith yr holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol o 2024 ymlaen
  • 1.7 biliwn o ddefnyddwyr bob mis
  • Y grŵp oedran mwyaf ar y platfform yw pobl ifanc 18-24 oed
  • Mae’n cynnal fideos byr

LinkedIn:

  • 1 biliwn o aelodau
  • Y grŵp oedran mwyaf ar y platfform yw pobl 25-34 oed
  • Fe’i defnyddir yn bennaf ar gyfer marchnata B2B
  • Mae’n cynnal cynnwys ysgrifenedig, delweddau llonydd a fideos

YouTube:

  • 2.491 biliwn o ddefnyddwyr bob mis
  • Y grŵp oedran mwyaf ar y platfform yw pobl 25-34 oed
  • Dim ond fideos a gaiff eu cynnal ganddo

Y strategaethau marchnata gorau ar y cyfryngau cymdeithasol

Dyma rai strategaethau hysbysebu effeithiol y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich busnes ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dewis y platfformau sydd fwyaf priodol i’ch busnes

Dewiswch y platfformau cymdeithasol gorau ar gyfer eich busnes a buddsoddwch amser ac ymdrech yn y rheini. Dyma rai ffactorau a all eich helpu i benderfynu ble y dylech ganolbwyntio eich sylw: sut fath o gynnwys a gaiff ei gynnal arnynt; a allwch greu cynnwys o’r fath; ble y mae eich cynulleidfa’n fwyaf tebygol o fod; ble y mae eich cystadleuwyr.

Creu calendr cynnwys cyson

Fel yn achos y rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, mae cysondeb yn hollbwysig pan ddaw hi’n fater o farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Ewch ati i lunio calendr ar gyfer creu cynnwys a threfnwch bostiadau o ansawdd da er mwyn sicrhau bod gennych gynllun ar gyfer beth yn union a fydd yn cael ei gyhoeddi, a phryd. Hefyd, bydd y fformat gweledol hwn yn eich galluogi i sicrhau bod eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn taro cydbwysedd rhwng cynnwys hyrwyddo a chynnwys addysgu – rhywbeth sy’n hanfodol wrth ymgysylltu â’ch cynulleidfa.

 

Rhoi blaenoriaeth i ymgysylltu

Y ffordd orau o ddenu dilynwyr yw trwy ddilyn darpar gwsmeriaid a rhyngweithio gyda nhw. Yn ogystal â chael calendr ar gyfer anfon postiadau ar eich platfform, mae’n bwysig ichi neilltuo amser i ryngweithio â’ch dilynwyr a dod o hyd i bobl a allai fod â diddordeb yn yr hyn a werthwch.

Defnyddio marchnata dylanwadwyr

Rhowch samplau am ddim o’ch cynhyrchion neu eich gwasanaethau i ddylanwadwyr er mwyn iddynt bostio amdanoch. Mewn ambell achos, efallai y bydd yn rhaid talu ffi. Gwnewch yn siŵr bod y dylanwadwyr y cydweithiwch â nhw yn fodlon tagio eich cyfrifon pan fyddwch yn gweithio gyda nhw, er mwyn i’w cynulleidfaoedd allu eich dilyn.

Hybu postiadau er mwyn ymestyn eich cyrhaeddiad

Os ydych wedi neilltuo arian ar gyfer hyn yn eich cyllideb, gallwch ddefnyddio hysbysebion y telir amdanynt ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol i hybu eich postiadau ymhellach, gan osgoi algorithmau sy’n pennu pa mor llwyddiannus yw eich postiadau organig. Yn y mwyafrif o achosion, bydd modd ichi nodi elfennau demograffig er mwyn sicrhau y bydd eich hysbysebion yn cyrraedd y bobl iawn, gan gryfhau ymwybyddiaeth o’ch brand a chynyddu eich siawns o gyrraedd eich nodau busnes.

Adeiladu cymuned

Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i adeiladu cymuned ymhlith eich dilynwyr trwy rannu rhoddion am ddim, cynigion arbennig, codau gostyngiad neu ddolenni atgyfeirio. Trwy gynnwys y rhain ar eich platfformau, byddwch yn creu ffyddlondeb ymhlith eich cwsmeriaid a byddant yn fwy tebygol o ryngweithio gyda chi’n amlach.

Dadansoddi ac optimeiddio

Ceir dangosfwrdd ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol lle gallwch gasglu mewnwelediadau gwerthfawr trwy gyfrwng data a metrigau – sef mewnwelediadau ynglŷn â sut y mae eich postiadau’n perfformio a pha bostiadau sy’n debygol o arwain at sgyrsiau. Ymgorfforwch ddadansoddeg cyfryngau cymdeithasol yn eich strategaeth marchnata digidol i adolygu’r data hwn yn aml ac optimeiddiwch eich cynnwys er mwyn sicrhau bod eich cynulleidfa’n mwynhau’r pethau a ddarllenant ac a wyliant, gan beri iddynt ymgysylltu mwy.

Dysgu sut i ymgorffori dulliau rheoli effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol yn eich ymgyrchoedd marchnata

Pa un a ydych yn lansio cynnyrch newydd neu’n gweithio ar arlwy sy’n bodoli eisoes, gall y cyfryngau cymdeithasol esgor ar adenillion sylweddol ar fuddsoddi. Trwy eu defnyddio’n effeithiol a thrwy wneud defnydd llwyr o’u hoffer dadansoddi, gall busnesau ddenu mwy o draffig at eu gwefannau a gwerthu mwy o bethau.

 

Hogwch eich sgiliau marchnata trwy astudio cwrs MBA Marchnata, a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, gyda Phrifysgol Wrecsam. Cwrs rhan-amser yw hwn, felly bydd modd ichi gymhwyso’r pethau a ddysgwch at eich rôl bresennol tra byddwch yn dysgu, gan eich rhoi mewn sefyllfa dda i gamu ymlaen yn eich gyrfa ar ôl graddio.