Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Sut mae seicoleg iechyd o fudd i gymdeithas

Postiwyd ar: Mawrth 19, 2024
gan
Hand holding green paper cut smile face on green background, positive thinking, mental health assessment , world mental health day concept

Mae seicoleg iechyd yn chwarae rhan bwysig o ran gwella llesiant pobl unigol, cymunedau a chymdeithas yn ei chyfanrwydd. Trwy ddeall y ffactorau seicolegol sy’n dylanwadu ar iechyd, a defnyddio ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth lle bo angen, gall seicolegwyr iechyd gyfrannu at ddatblygu strategaethau a pholisïau gofal iechyd effeithiol, a chreu newid ystyrlon ym mywydau pobl.

Beth yw seicoleg iechyd?

Mae Seicoleg Iechyd, neu seicoleg feddygol, yn faes seicoleg sy’n ymroddedig i ddeall y ffactorau seicolegol, ymddygiadol, emosiynol a diwylliannol sy’n effeithio ar iechyd, llesiant a salwch.

Fel gwyddor gymdeithasol, mae’n chwarae rhan hanfodol o ran siapio pobl – a chymdeithas – iachach a hapusach a gall gael effaith sylweddol ar sawl agwedd gan gynnwys:

  • ymyriadau seicolegol ar lefel unigol
  • mentrau yn y gymuned
  • integreiddio safbwyntiau seicolegol i systemau gofal iechyd
  • mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd
  • dylanwadu ar bolisïau gofal iechyd a gwella iechyd y cyhoedd yn gyffredinol.

Seicoleg iechyd ar lefel unigol

Ffocws allweddol seicoleg iechyd yw llesiant unigol. Mae seicolegwyr iechyd yn gweithio’n agos gyda chleifion i ddeall eu credoau iechyd, eu hymddygiadau a’r ffactorau seicolegol a allai gyfrannu at salwch corfforol neu broblemau iechyd yn gyffredinol. Trwy ddefnyddio theori ac ymyriadau seicolegol, gall seicolegwyr iechyd hyrwyddo newid ymddygiad, hwyluso rheoli poen, a gwella ansawdd bywyd pobl yn gyffredinol.

Mae enghreifftiau cyffredin o ymyriadau seicoleg iechyd ar lefel unigol yn cynnwys:

Ar y lefel unigol hon, cyfeirir at seicoleg iechyd weithiau fel seicoleg glinigol.

Seicoleg iechyd ar lefel gymunedol

Mae seicolegwyr iechyd yn aml yn gweithio o fewn cymunedau i fynd i’r afael â materion iechyd ehangach sy’n effeithio – neu a allai effeithio – ar bocedi o fewn eu cymunedau.

Er enghraifft, efallai y byddant:

  • yn ystyried ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol a allai gyfrannu at heriau iechyd o fewn ardal neu ranbarth penodol.
  • yn datblygu ymyriadau iechyd, mentrau neu raglenni sy’n targedu poblogaethau cyfan o bobl.
  • yn gweithio gyda sefydliadau gofal iechyd cymunedol lleol, darparwyr gofal iechyd – o fewn y GIG ac yn y sector preifat – a llunwyr polisi i hyrwyddo ymddygiad iach.

Enghraifft gyffredin o seicoleg iechyd ar lefel gymunedol yw hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff. Mae seicolegwyr iechyd yn aml yn cydweithio ag ysgolion, gweithleoedd, a chanolfannau a hybiau cymunedol i ddylunio a gweithredu rhaglenni sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff yn rheolaidd. Maent hefyd yn cydweithio’n aml â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, fel meddygon, nyrsys a seicolegwyr iechyd clinigol.

Trwy fynd i’r afael â rhwystrau seicolegol, fel cymhelliant, gall yr ymyriadau hyn gynyddu’r tebygolrwydd y bydd pobl yn mabwysiadu ac yn cynnal ffordd iach o fyw. Mae’r mentrau hyn yn cael effaith y tu hwnt i iechyd corfforol hefyd: mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn aml yn gysylltiedig â gwell llesiant meddyliol.

Maes cyffredin arall o seicoleg iechyd yn y gymuned yw datblygu ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus. Trwy gymhwyso damcaniaethau ac egwyddorion seicolegol, gall seicolegwyr iechyd ddylunio mentrau ymgyrchu sy’n gwella hybu iechyd, yn cefnogi atal afiechydon, a lleihau ffactorau risg fel defnydd gormodol o alcohol neu gyffuriau. Mae’r ymgyrchoedd hyn wedi’u teilwra i gymunedau penodol, gan ystyried ffactorau diwylliannol, cymdeithasol a seicolegol a all ddylanwadu ar ymddygiadau iechyd.

Seicoleg iechyd ar lefel gymdeithasol

Mae seicolegwyr iechyd yn cefnogi ac yn siapio datblygiad systemau a pholisïau gofal iechyd yn rheolaidd – rhywbeth sy’n cael effaith aruthrol ar iechyd cyffredinol cymdeithas ehangach.

Trwy ymchwil a chydweithio, gall seicolegwyr iechyd roi mewnwelediadau gwerthfawr i’r prosesau seicolegol sy’n sail i benderfyniadau ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd, ac mae eu gwaith yn dylanwadu ar lunwyr polisi pan maent yn ysgrifennu polisïau iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod ystyriaethau seicolegol – a thriniaethau – yn cael eu hintegreiddio i’r ddarpariaeth gofal iechyd.

Er enghraifft, mae seicoleg iechyd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol tuag at bolisïau iechyd meddwl mwy cadarn, ac mae seicolegwyr iechyd wedi bod yn allweddol wrth eiriol dros integreiddio gwasanaethau iechyd meddwl i leoliadau gofal sylfaenol. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod gan bobl fynediad at gymorth iechyd corfforol a meddyliol o fewn y system gofal iechyd.

Mae seicolegwyr iechyd hefyd wedi helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethau o ran iechyd cymdeithasol. Mae’r rhain yn wahaniaethau mewn canlyniadau iechyd tebygol yn seiliedig ar nodweddion cymdeithasol unigolyn, a elwir hefyd yn benderfynyddion cymdeithasol iechyd. Er enghraifft, mae seicolegwyr iechyd wedi cynnal ymchwil sy’n cysylltu ffactorau cymdeithasol a seicolegol penodol ag anghydraddoldebau iechyd. Trwy dynnu sylw at y ffactorau cymdeithasol sy’n dylanwadu ar iechyd – fel statws economaidd-gymdeithasol, addysg, a systemau cymorth cymdeithasol – mae seicolegwyr iechyd wedi gallu gweithio gyda llunwyr polisi i helpu i leihau’r gwahaniaethau hyn a chreu system gofal iechyd mwy teg a chynhwysol.

Mesur effeithiolrwydd seicoleg iechyd

Er mwyn gwerthuso effaith eu hymyriadau, mae seicolegwyr iechyd yn dibynnu ar wahanol adnoddau, megis arolygon, asesiadau, ac ymchwil ansoddol, er mwyn pennu eu heffeithiolrwydd. Mae’r gwerthusiadau hyn yn asesu canlyniadau ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, gan ystyried ansawdd bywyd, ymddygiadau iechyd, boddhad cleifion, ac yn y blaen.

Er enghraifft, wrth adolygu rhaglenni rhoi’r gorau i ysmygu, gall seicolegwyr iechyd fesur cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu, gostyngiadau yn y defnydd o sigaréts, a newidiadau mewn agweddau tuag at ysmygu. Efallai y byddant hefyd yn gwerthuso effeithiau hirdymor ymyriadau trwy archwilio cyfraddau ailwaelu ac ymatal parhaus. A thrwy gasglu a dadansoddi’r data hwn, mae seicolegwyr iechyd yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth ehangach seicoleg iechyd.

Dylanwad seicoleg iechyd ar ofal iechyd

Mae seicoleg iechyd yn cael dylanwad sylweddol ar y maes gofal iechyd ehangach. Wrth gydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, mae seicolegwyr iechyd yn darparu persbectif unigryw sy’n integreiddio egwyddorion seicolegol mewn ymarfer meddygol. Maent hefyd yn cyfrannu at hyfforddi darparwyr gofal iechyd ac yn cynyddu eu cymwyseddau yn yr  agweddau seicolegol sy’n gysylltiedig ag iechyd a salwch.

Mae seicolegwyr iechyd hefyd yn:

  • Gwella gofal cleifion. Mae seicolegwyr iechyd yn cefnogi gofal cleifion trwy fynd i’r afael ag anghenion seicolegol pobl. Trwy sefydlu cyfathrebu effeithiol rhwng cleifion a darparwyr, gall seicolegwyr iechyd wella profiad y claf, cynyddu ymlyniad i driniaeth, a hwyluso prosesau gwneud penderfyniadau a rennir wrth ddosbarthu triniaeth neu gyngor meddygol.
  • Integreiddio meddygaeth ymddygiadol i ofal iechyd. Mae seicolegwyr iechyd yn cydnabod dylanwad ffactorau seicolegol ar ganlyniadau iechyd corfforol, a thrwy driniaethau seicolegol, fel rheoli straen, gallant wella ymateb unigolion i’w cynlluniau triniaeth ehangach.

Adnoddau pellach

Archwilio seicoleg iechyd yn fanylach

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o seicoleg iechyd ochr yn ochr â seicoleg addysg gyda chwrs MSc Seicoleg Addysgol, cwrs dysgu o bell 100% ar-lein o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, sy’n rhan o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae’r radd Meistr hyblyg hon yn archwilio’r cysyniadau seicolegol craidd sy’n sail i ymarfer mewn seicoleg addysg, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol mewn ystod eang o rolau yn y maes addysg.

Mae un o’r modiwlau allweddol ar y rhaglen hon yn archwilio pynciau sy’n gysylltiedig â seicoleg iechyd, gyda’r nod o’ch cyfarparu â gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol ar iechyd corfforol a meddyliol, salwch a llesiant yng nghyd-destun y gymdeithas unigol a chyfoes. Mae’r modiwl hefyd yn annog datblygu dealltwriaeth feirniadol o ddamcaniaethau a modelau perthnasol o newid ymddygiadol. Byddwch yn ymdrin â phynciau sy’n ymwneud â hybu iechyd, effaith cyfryngau cymdeithasol, ac effaith a rheolaeth straen a salwch cronig, y gellir eu cymhwyso at arferion rheoli strategol a gwybodus mewn busnes.