Y tu ôl i bob brand llwyddiannus ceir cynnyrch da, gweithlu gwych a chynulleidfa darged sydd â diddordeb yn y cynnyrch. Ond er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus, rhaid i frandiau feithrin eu cysylltiadau â defnyddwyr – ac mae naratif brand cryf yn ffordd wych o gyflawni’r nod hwn.
Mae adrodd straeon yn creu cysylltiadau emosiynol gyda chwsmeriaid trwy greu darlun o’r problemau neu’r pryderon a wynebant a thrwy nodi sut y gall eich brand chi helpu i ddatrys y problemau neu’r pryderon hynny. Wrth fynd ati i blethu naratif cyson trwy eich holl ymdrechion marchnata, gan aros yn driw i werthoedd craidd y cwmni, gellir sicrhau bod y cysylltiadau hynny’n ddyfnach ac yn fwy parhaol.
Naratif brand – mwy na stori
Er mwyn troi stori gymhellol yn naratif brand, rhaid ymwreiddio’r naratif hwnnw ym mhob agwedd ar y busnes, gan gydweddu personoliaeth a negeseuon y brand â’ch strategaeth farchnata. Trwy gynnal un strategaeth frand ac un hunaniaeth brand cyson, a thrwy ddilyn yr un naratif yn y ffordd hon, gellir meithrin ymddiriedaeth darpar gwsmeriaid a’u hannog i greu cysylltiad dyfnach â’ch cwmni ar draul eich cystadleuwyr.
Mewn e-fasnach, er enghraifft, efallai y bydd y naratif brand yn canolbwyntio ar y modd y bydd eich cynnyrch yn helpu’r prynwr yn ei fywyd beunyddiol. Efallai y bydd y cwmpas yn eang er mwyn apelio at bawb a ddaw ar draws y cynnyrch. Ar y llaw arall, yn achos brand sy’n gwerthu cynnyrch arbenigol (er enghraifft microffonau), efallai y bydd cwmpas y naratif yn gyfyng er mwyn creu cysylltiad emosiynol â chynulleidfa arbenigol (fel cynhyrchwyr podlediadau), gan ganolbwyntio ar y tueddiadau yn y diwydiant a chan obeithio taro tant gydag entrepreneuriaid.
Creu straeon unigol sy’n cyfleu negeseuon y brand – dyna yw adrodd stori’r brand. Ond mae naratif y brand yn naratif ehangach a mwy strategol sy’n diffinio hunaniaeth y brand, gan arwain yr holl ymdrechion o ran adrodd y stori.
Bydd datblygu naratif llwyddiannus yn broses barhaus i unrhyw fusnes, a bydd angen mynd ati’n barhaus i gynllunio a monitro’r naratif yn erbyn nodau clir er mwyn sicrhau y bydd yn cyd-fynd â chenhadaeth y brand.
Trwy sicrhau bod gwerthoedd y brand wrth galon a chraidd y stori wrth i’r cwmni esblygu, bydd delwedd o frand dilys yn datblygu dros amser – bydd hyn yn helpu i gynyddu ffyddlondeb cwsmeriaid a gall fod yn hollbwysig ar gyfer creu brand gwych, fel Apple neu Nike sydd wedi dod o hyd i ffyrdd o gysylltu â’u rhanddeiliaid ar lefel ddyfnach a chreu argraff barhaus ar gwsmeriaid.
Awgrymiadau ardderchog ar gyfer creu naratif brand effeithiol
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod eich cynulleidfa – Er mwyn denu darpar gwsmeriaid sy’n clywed neu’n darllen eich stori, mae’n bwysig gwybod pwy ydynt er mwyn ichi allu cysylltu’n fwy effeithiol gyda nhw ar lefel emosiynol a dechrau ennyn eu hymddiriedaeth.
- Soniwch am eich gwreiddiau – Bydd tarddiad pob brand yn wahanol, felly soniwch am eich tarddiad chi. Trwy sôn am eich cyfnod fel egin fusnes, gallwch fod yn agored ac yn onest a gallwch greu cysylltiad ag entrepreneuriaid neu fusnesau bach a all ddefnyddio eich gwasanaethau.
- Adroddwch eich stori yn eich ymgyrchoedd marchnata – Mae marchnata digidol ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol, o Instagram i LinkedIn, yn ddull pwerus ac yn gyfle da i greu ffilmiau byr neu naratifau ysgrifenedig lle gallwch adrodd eich stori chi fel busnes ynghyd â straeon pobl rydych wedi eu helpu, gan fynd ati ar yr un pryd i farchnata cynnwys a chynyddu ymwybyddiaeth o’ch brand.
- Dangoswch ffyddlondeb brand – Os gallwch ddangos bod eich cynnyrch wedi sefyll prawf amser a bod pobl yn dal i ddychwelyd ato, bydd hyn yn denu rhagor o gwsmeriaid a bydd yn helpu’r cwsmeriaid hynny i ddychwelyd. Gall stori gymhellol olygu’r gwahaniaeth rhwng cwsmeriaid sy’n prynu unwaith a chwsmeriaid sy’n dychwelyd i brynu dro ar ôl tro – sef cwsmeriaid a all ledaenu’r gair am y cynnyrch a’r brand.
- Defnyddiwch elfennau gweledol – Yn ychwanegol at hysbysebion a chlipiau fideo, gall ffeithluniau helpu i ddelweddu stori a naratif y brand, a gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol i ddangos cryfderau eich cwmni chi o gymharu â chwmnïau eraill.
Bydd hyn oll yn helpu i sicrhau y bydd eich brand yn serennu ymhlith marchnad orlawn, gan roi rhywfaint o bersonoliaeth i’r cwmni. Pa un a fyddwch yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynaliadwyedd wrth gynllunio’r camau nesaf, neu’n canolbwyntio ar rymuso gweithwyr a chwsmeriaid, mae’n bwysig i bobl allu gwahaniaethu rhwng eich brand chi a’r farchnad ehangach.
Beth sy’n gwneud brand yn gofiadwy?
Nid yw brand cofiadwy yn ddibynnol ar unrhyw nodwedd arbennig, ond dyma enghreifftiau o’r modd y mae brandiau wedi datblygu eu naratif brand yn llwyddiannus:
John Lewis
Mae John Lewis a’i ymgyrchoedd hysbysebu dros gyfnod y Nadolig yn un o’r enghreifftiau enwocaf o frand Prydeinig yn defnyddio naratifau i ennill cwsmeriaid. Bob blwyddyn, mae’r cwmni’n creu fideo teimladwy a didwyll sydd, fe ymddengys, heb unrhyw beth i’w wneud â’r cwmni ei hun. Mae’r ffilm fer, a gaiff ei rhannu ar y teledu ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn cyfleu cenhadaeth y busnes, gan anelu at greu cysylltiad emosiynol â’r gwylwyr. Mae’r brand yn adeiladu ar y disgwyl brwd am ei hysbysebion Nadolig, ac mae’n defnyddio rhagflasau a hashnodau ar y cyfryngau cymdeithasol i annog sgyrsiau, gan helpu i ledaenu’r syniad mai pwrpas John Lewis yw helpu ei gwsmeriaid gyda heriau bywyd a’u cynorthwyo i ddathlu cyfnodau llawn llawenydd.
Airbnb
Mae Airbnb yn enghraifft wych o’r modd yr addaswyd stori’r brand i ddygymod â newidiadau yn y brand, gan barhau i ddefnyddio naratif cyson. Newidiodd Airbnb ei slogan o ‘A place to stay’ i ‘Belong anywhere’. Roedd y cwmni’n tyfu, ac yn amlwg roedd angen ffordd newydd o gyfleu’r brand – nid oedd y slogan wreiddiol yn ddigon emosiynol ac nid oedd yn serennu. Trwy anelu at greu teimlad dyfnach, mae’r cwmni bellach yn canolbwyntio ar ‘fod yn perthyn’ – sef emosiwn dynol – yn hytrach na dim ond aros yn rhywle. Newid syml sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gwella eich sgiliau marchnata a rheoli
Os ydych yn weithiwr marchnata proffesiynol sy’n awyddus i ymestyn eich gwybodaeth fusnes a’ch sgiliau arwain yn y byd marchnata a thu hwnt, beth am ystyried astudio gradd MBA Marchnata, a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae’r cwrs hyblyg hwn yn defnyddio cynnwys a gaiff ei arwain gan y diwydiant ac mae’n adlewyrchu statws Wrecsam fel prifysgol sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd a phrifysgol sydd ymhlith y goreuon am baratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith. Gallwch astudio ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw le. Ceir chwech o ddyddiadau dechrau bob blwyddyn, felly gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.