Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell

Postiwyd ar: Mawrth 19, 2024
gan
Forensic Psychologist Showing Position Clinician And Shrink

Beth yw seicoleg fforensig, yn fras?

Mae seicoleg fforensig yn faes cymharol newydd o seicoleg sy’n archwilio ymddygiad bodau dynol mewn perthynas â’r gyfraith. Mae’n defnyddio adnoddau, gwaith ymchwil a syniadau o seicoleg mewn sefyllfaoedd cyfreithiol. Mae seicolegwyr fforensig yn gweithio gyda thwrneiod, barnwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill i ddeall ac egluro elfennau seicolegol mewn achosion cyfreithiol, cymryd rhan mewn ymchwiliadau troseddol, cynnal gwaith ymchwil seicolegol a dylunio rhaglenni ymyrraeth.

Beth yn union mae seicolegydd fforensig yn ei wneud?

Os ydych chi’n hoff o raglenni teledu megis CSI, gellir maddau i chi am feddwl bod seicolegwyr fforensig yn treulio llawer o’u hamser yn edrych drwy dystiolaeth mewn safleoedd trosedd, darllen meddyliau llofruddion cyfresol neu’n rhoi tystiolaeth arbenigol gynhyrfus yn y llys.

Mae’r realiti yn dra gwahanol, ond yr un mor ddiddorol. Mae seicolegwyr fforensig yn gweithio gyda phob agwedd ar y system gyfiawnder troseddol. Mae’r rhan fwyaf o’u gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â’r heddlu, y gwasanaethau prawf, sefydliadau troseddwyr ifanc, neu ysbytai iechyd meddwl diogel.

Mae rhai seicolegwyr fforensig yn gwasanaethu fel cynghorwyr a thystion arbenigol yn ystod achosion llys, ac maent yn dadansoddi tystiolaeth o safleoedd troseddau er mwyn datblygu proffiliau troseddol. Maent yn gallu cynnig mewnwelediad i gymhwysedd cleientiaid, dedfrydau a thriniaeth. Gan ddibynnu ar eu cyflogwyr a’u meysydd arbenigol, mae’n bosibl y byddant hefyd yn gwneud gwaith ymchwil o bell, gan helpu i well technegau holi, adsefydlu troseddwyr a dyluniad carchardai a chyfleusterau cywiro. Gall agweddau eraill ar eu gwaith gynnwys lleihau straen ar staff a throseddwyr mewn lleoliadau diogel, a chynghori byrddau parôl a thribiwnlysoedd iechyd meddwl.

“Mae’n ymwneud â phobl, tystiolaeth, risg, asesiadau personoliaeth, seicoleg ddatblygiadol a gwybyddol, ymchwil ystadegol – a chymhwysedd ymarferol, lle’r ydych chi’n gweld yn union sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio a sut mae’n gwneud gwahaniaeth,” meddai Elizabeth Gilchrist, Athro Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Caeredin.

Beth yw prif nod seicolegydd fforensig?

Yn ei hanfod, mae maes seicoleg fforensig yn ymwneud â phobl, sy’n ei wneud yn heriol yn ogystal â gwerth chweil.

“Mae seicoleg fforensig yn ymwneud â deall pobl, deall pam maen nhw wedi troseddu, a gweithio tuag at ffordd y gall y person hwnnw fyw bywyd gwell meddai Veronica Warn, Seicolegydd Fforensig siartredig a seicolegydd cofrestredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i fod yn seicolegydd fforensig?

Yn y DU, y man cychwyn ar gyfer gyrfa ym maes seicoleg fforensig yw cwblhau cwrs gradd israddedig achrededig mewn seicoleg. Y cam nesaf yw cwblhau gradd Meistr mewn seicoleg fforensig, wedi’i gymeradwyo gan Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Yn olaf, bydd angen y canlynol ar seicolegwyr fforensig:

  • tair blynedd neu fwy o ymarfer dan oruchwyliaeth gyda thystiolaeth lle gall yr hyfforddai ddarparu tystiolaeth o ddefnyddio seicoleg yn briodol mewn ymarfer fforensig; neu
  • rhaglen ddoethuriaeth wedi’i hachredu gan Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal sy’n cynnwys lleoliadau ymarferol a thraethawd ymchwil yn y drydedd flwyddyn.

Mae derbyn profiad yn hanfodol – boed hynny gyda thâl neu’n wirfoddol – wrth ymgeisio ar gyfer rhaglenni seicoleg fforensig. Y rhai sydd wedi cael profiad uniongyrchol o weithio o fewn lleoliad fforensig, e.e. carchardai, y gwasanaethau prawf neu wasanaeth troseddu’r ifanc, yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o lwyddo.

O ran rhinweddau personol, mae’n rhaid i seicolegydd fforensig fod yn berson trugarog sy’n dda iawn gyda phobl. Mae angen iddynt feddu ar sgiliau fforensig da iawn er mwyn gallu asesu unigolion yn seicolegol yn y system gyfreithiol, ac mae’n rhaid iddynt hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu llafar gwych ar gyfer asesiadau seicolegol, cyfweld, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno achosion.

Beth yw rhai o’r heriau?

“Mae rhai o’r heriau yn cynnwys gwrando ar ddeunydd trallodus iawn a helpu eraill i brosesu’r emosiynau sy’n gysylltiedig â hynny. Mae’n gallu bod yn anodd yn emosiynol, ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr,” meddai Dr Geraldine Akerman, seicolegydd fforensig yn Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl y GIG yn Barnet, Enfield a Haringey.

“Mae’n gallu bod yn anodd gweithio mewn lleoliadau megis carchardai, lle mae prinder cyllid, ac sy’n aml yn cael eu gweld mewn goleuni anffafriol gan y cyhoedd,” ychwanegodd.

Nid yw gyrfa Seicoleg Fforensig yn addas ar gyfer y rhai sy’n chwilio am swydd hawdd wrth ddesg rhwng 9 a 5, nag i’r rhai sy’n canolbwyntio ar ‘drwsio’ pobl. Wrth weithio ar ymyriadau gyda chleientiaid fforensig, mae’n gallu bod yn anodd derbyn yn aml mai dim ond lleihau’r risg sy’n bosibl, yn hytrach na’i waredu’n gyfan gwbl.

Eglurodd Carol A Ireland o Gymdeithas Seicoleg Prydain: “Mae lleihau’r risg yn cynyddu cyfleoedd cleient i ddychwelyd i’r gymuned, a gallai hynny wella ansawdd ei fywyd. Ond mae’n rhaid i’r gwelliannau hyn gael eu cydbwyso gyda sicrhau diogelwch y cyhoedd. Gall hwn fod yn un o’r gwersi mwyaf anodd ei ddysgu gan y rhai sy’n newydd i’r proffesiwn. Byddwch naill ai’n derbyn bod y gwaith yn gallu bod yn wirioneddol anodd, neu’n dadrithio a chwilio am yrfa mewn maes arall.”

Beth yw uchafbwyntiau gweithio fel seicolegydd fforensig?

Ceir nifer o gyfleoedd gyrfa ar gyfer seicolegwyr fforensig, yn y sector cyhoeddus ac yn y byd corfforaethol. Ond, p’un a ydych chi’n gweithio gyda throseddwyr neu ddioddefwyr, mae’r gwaith bob amser yn ymwneud â helpu rhywun i wella ei fywyd, sy’n dod â boddhad mawr yn eich gyrfa. At hynny, mae’n swydd gyffrous gydag elfen o risg a chwilfrydedd. Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, bydd galw mawr am eich sgiliau gan nad oes llawer o gystadleuaeth ar gyfer seicolegwyr fforensig, ac mae galw cynyddol am y math hwn o seicolegydd.

Mae’r Athro Elizabeth Gilchrist yn disgrifio faint o foddhad mae’r swydd yn gallu ei gynnig. Mae hi wedi gweithio ar raglen ymyrraeth rhianta i ddynion a oedd wedi eu cael yn euog o gam-drin partner yn bersonol. Roedden nhw eisiau torri’r cylch cenedliadol a newid eu hymddygiad i fod yn dadau da, ac i beidio â gwneud yr hyn yr oedd eu tadau wedi’i wneud iddyn nhw. Wrth siarad gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain, dywedodd:

“Bum mlynedd yn ddiweddarach, cawsom adborth gwych: roedd y plant yn gallu crïo a chadw sŵn o amgylch eu tadau heb fod yn ofnus. Bu 55 o deuluoedd yn rhan o’r prosiect hwn, felly 55 o bobl sy’n fwy diogel, gyda gwell profiadau, ac yn bwysicaf oll, 55 o blant lle nad oes ffactorau risg iddyn nhw fynd ymlaen i droseddu. Mae yna dda ym mhob person, ac os ydych chi’n gallu adnabod hynny a symud ymlaen, mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Pa fath o yrfaoedd y mae seicolegwyr fforensig yn eu dilyn?

Gallai rhywun sydd wedi graddio mewn seicoleg fforensig gyda’r profiad gofynnol fynd ymlaen i wneud y canlynol:

  • rhedeg adran seicoleg mewn carchar
  • symud i mewn i rôl polisi, strategaeth neu reolaeth
  • symud ymlaen i waith ymgynghori, er enghraifft fel tyst arbenigol.

Mae gyrfaoedd eraill posibl ar gyfer seicolegwyr fforensig yn cynnwys:

Swyddog carchar: mae’r rhain yn sicrhau diogelwch pob carcharor, yn cyfathrebu gyda charcharorion a swyddogion eraill mewn modd clir a digyffro, yn rhoi tystiolaeth mewn llysoedd ac yn gorfodi rheolau’r carchar, gan gynnwys cadw trefn o fewn y carchar.

Gweithiwr cymdeithasol fforensig: gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol traddodiadol, mae gweithwyr cymdeithasol fforensig yn gweithredu fel cyswllt rhwng y system gyfiawnder a dioddefwyr. Maen nhw’n gwneud argymhellion ar gyfer therapi sy’n briodol ar gyfer sefyllfa benodol; gwerthuso cyflwr meddyliol diffynyddion, rhoi tystiolaeth fel tystion arbenigol ac yn adnabod ymddygiad troseddol.

Dadansoddwr troseddau: mae’r rhain yn datblygu proffiliau troseddwyr i helpu i ddwyn troseddwyr i gyfrif; astudio troseddau er mwyn deall yr hyn sy’n cymell y troseddwr; ac yn astudio lledaeniad daearyddol troseddau i sefydlu ystadegau troseddu.

Seicolegydd ymchwil fforensig: mae seicolegwyr ymchwil fforensig yn aml yn arbenigo mewn un maes megis troseddau ariannol neu droseddau coler wen, ac maent yn holi’r rhai sy’n cael eu hamau am droseddu a dioddefwyr ac yn canfod meysydd y gallai swyddogion eraill sy’n gorfodi’r gyfraith fod wedi ei fethu yn eu hymchwiliad.

Ymgynghorydd Rheithgor: Mae’r rhain yn cynghori ac yn cynorthwyo ymgyfreithwyr drwy gydol achosion cyfreithiol, gan gyflawni tasgau megis: ymchwilio i bob aelod posibl o’r rheithgor i gasglu gwybodaeth amdanynt a’u hagweddau tebygol tuag at yr achos dan sylw; creu proffiliau ar gyfer rheithwyr; darparu awgrymiadau ynghylch sut y dylai’r twrnai gyflwyno ei ddadl i’r rheithgor; a chynnal cyfweliadau gyda rheithwyr yn dilyn achosion i ddysgu beth aeth o’i le.

Rheolwr achosion fforensig: mae pobl yn y swydd hon yn gyfrifol am sgrinio, trin a rheoli achosion troseddwyr gyda salwch meddwl a/neu’n camddefnyddio sylweddau. Y llwybr mwyaf cyffredin ar gyfer bod yn rheolwr achosion fforensig yw cwblhau gradd bagloriaeth mewn seicoleg, ac yna astudio gradd meistr mewn seicoleg fforensig neu gyfiawnder troseddol.

Datblygwch eich sgiliau i fod yn addysgwr ardderchog

O seicoleg fforensig i ddatblygiad plant a phobl ifanc, ymunwch â chwrs MSc Seicoleg Addysgol yn Ysgol Reoli Gogledd Cymru, i ddatblygu’r sgiliau i ddeall yr hyn sy’n ysgogi pobl ac i fod yn addysgwr ardderchog. Mae’r cwrs meistr hwn, sydd ar gael yn gyfan gwbl ar-lein, wedi’i lunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i weithwyr addysg proffesiynol – gan gynnwys athrawon, prifathrawon, rheolwyr ysgol, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, a staff cefnogi, ymysg eraill – o rôl seicolegwyr addysg, yn ogystal â chysyniadau seicolegol craidd sy’n sylfaen i ymarfer ym maes seicoleg addysg.

Byddwch yn datblygu gwybodaeth mewn meysydd pwnc allweddol sy’n gysylltiedig â gwaith seicolegwyr addysg, gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc yn eu harddegau, anhwylderau ymddygiad, ac anghenion arbennig a dawn.

Ac yn fwy na hynny, gallwch astudio’r rhaglen hon o unrhyw le yn y byd, ar unrhyw ddyfais. Mae dyluniad hyblyg y rhaglen yn sicrhau y gallwch gyflawni eich astudiaethau o amgylch eich gwaith llawn amser a’ch bywyd teuluol, a pharhau i ennill cyflog yn eich rôl bresennol.