Mae rhwydweithio – sef creu a chynnal cydberthnasau gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn eich diwydiant neu mewn meysydd cysylltiedig – wastad wedi bod yn hollbwysig i fusnesau. Ond o gofio’r tirlun mwyfwy cystadleuol a mwyfwy rhithwyr sy’n berthnasol i’r byd sydd ohoni, mae rhwydweithio’n bwysicach nag erioed.
Pam y mae rhwydweithio a chreu cydberthnasau’n bwysig i fusnesau?
O hwyluso ymdrechion cydweithredol i greu cyfleoedd gyrfa newydd, gall rhwydweithio fod yn arf pwerus ar gyfer cyflawni eich nodau proffesiynol. Yn ôl ystadegau a rannwyd gan yr arbenigwyr recriwtio Apollo Technical, mae 80% o unigolion o’r farn bod rhwydweithio’n hanfodol i dwf eu gyrfa ac i’w datblygiad proffesiynol.
Dyma rai manteision sy’n perthyn i rwydweithio a chreu cydberthnasau:
- Cyfleoedd a chysylltiadau newydd – megis mentoriaeth, cyfleoedd swyddi, atgyfeirio cleientiaid, ffyrdd o gyfarfod â phobl, a chytundebau busnes.
- Y gallu i gael gafael ar gymorth, arweiniad ac adnoddau – yn cynnwys cyngor, cyllid, talent a thechnoleg (elfennau sy’n hanfodol i ehangu eich busnes a symleiddio gweithrediadau) a allai, fel arall, fod yn anodd cael gafael arnynt.
- Sicrhau eich bod yn dilyn y mewnwelediadau a’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant – mae rhwydwaith cadarn yn cynnig ffordd o siarad ag arbenigwyr yn y byd diwydiant, yn ogystal â ffordd o rannu gwybodaeth ac arferion gorau, a chael mewnwelediadau gwerthfawr.
- Cymorth i recriwtio a dethol – pa un a ydych yn rhywun sy’n chwilio am gyfleoedd gyrfa newydd neu’n rheolwr cyflogi, eich rhwydwaith yn aml yw’r lle gorau i ddechrau chwilio. Yn wir, mae 31% o bobl sy’n chwilio am swydd yn dod o hyd i swyddi trwy gyfrwng cysylltiadau proffesiynol.
- Gwell ymddiriedaeth a hygrededd – mae cleientiaid yn fwy tebygol o ddelio â brandiau ac unigolion y maent yn eu hadnabod ac y maent yn ymddiried ynddynt, ac mae creu cydberthnasau parhaol yn hollbwysig o ran gosod y sylfaen ar gyfer cysylltiadau hirdymor a denu cwsmeriaid dro ar ôl tro.
- Mwy o amlygrwydd a gwell enw da i’r brand – trwy fynychu sioeau masnach, digwyddiadau hollbwysig a fforymau diwydiant, gallwch roi hwb i’ch enw da a denu busnes.
- Gwasanaethau gwell trwy wella effeithlonrwydd – trwy gyfrwng prosesau fel cyfnewid data a chydweithredu, sef prosesau a welir yn amlwg iawn mewn diwydiannau fel gofal iechyd, cyllid ac addysg.
- Ymgysylltu â’r gweithwyr – yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan McKinsey, mae gweithwyr sy’n teimlo rhyw gysylltiad â’u rhwydweithiau unwaith a hanner yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt wir ddiddordeb yn eu gwaith.
- Partneriaethau a chydweithredu proffesiynol – gall rhwydweithio gydag unigolion o’r un meddylfryd esgor ar lu o drefniadau cydweithredu posibl a chydberthnasau sy’n fuddiol i’r naill ochr a’r llall.
Ni waeth ym mha ddiwydiant y gweithiwch na beth yw maes eich arbenigedd, pa un a ydych yn weithiwr neu’n berchennog busnes, gall sgiliau rhwydweithio da eich tywys ymhellach – ac yn gyflymach.
Beth yw’r ffyrdd gorau o gynnal ac ehangu eich rhwydwaith proffesiynol?
Yn ôl HubSpot, er mwyn creu cysylltiadau rhaid bod yn strategol, rhaid paratoi, rhaid cyfathrebu mor effeithiol â phosibl, rhaid sicrhau bod unrhyw ryngweithio’n ychwanegu gwerth a rhaid canolbwyntio ar gynnal cysylltiadau.
Dyma awgrymiadau rhwydweithio ardderchog ar gyfer rhoi hyn oll ar waith yn ymarferol:
- Er mai rhwydweithio wyneb yn wyneb yw’r ffordd fwyaf effeithiol, gall pobl sy’n brin o amser – neu bobl sy’n wynebu anawsterau ymarferol eraill – rwydweithio ar-lein trwy gyfrwng gweminarau, cymunedau ar-lein a chyfarfodydd rhithwir, oherwydd bydd y dulliau hyn yn arbed amser iddynt.
- Ewch ati i feithrin perthynas trwy ddod o hyd i dir cyffredin gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant, trwy ofyn cwestiynau perthnasol, trwy ymchwilio i arbenigedd a meysydd diddordeb pobl eraill ymlaen llaw, a thrwy hwyluso trafodaethau dwy ffordd diddorol a defnyddiol – a chofiwch fynd ar drywydd y pethau hyn i gyd wedyn.
- Meddyliwch yn strategol a manteisiwch i’r eithaf ar gyfleoedd rhwydweithio trwy fynd i gyfarfod â chysylltiadau newydd posibl. Mynychwch ddigwyddiadau rhwydweithio a digwyddiadau’r byd diwydiant, defnyddiwch broffiliau ar-lein a phlatfformau perthnasol ar y cyfryngau cymdeithasol, ymunwch â fforymau a chwiliwch am gyrff proffesiynol (gan ymaelodi â nhw os gallwch).
- Talwch yn ôl trwy gynnig eich gwasanaethau a’ch arbenigedd, trwy rannu cynnwys diddorol a gwerthfawr a thrwy gysylltu â phobl o fewn eich rhwydwaith.
- Trefnwch weminarau, cyfarfodydd anffurfiol, boreau coffi neu ddigwyddiadau eraill sy’n cynnig amgylchedd gwahanol lle gall pobl drafod cyfleoedd, cael sgwrs a chryfhau cydberthnasau.
Os hoffech gael rhagor o awgrymiadau effeithiol ar gyfer rhwydweithio er mwyn creu cysylltiadau â’r byd diwydiant, cymerwch gipolwg ar 10 awgrym ar gyfer creu rhwydweithiau, a luniwyd gan Indeed.
Beth yw’r heriau sy’n gysylltiedig â rhwydweithio?
Un o’r heriau mwyaf cyffredin sy’n gysylltiedig â rhwydweithio yw’r ffaith nad oes gan weithwyr proffesiynol ddigon o amser i ganolbwyntio ar gysylltu â hen gysylltiadau a meithrin cysylltiadau newydd. Er mwyn creu a chynnal cysylltiadau proffesiynol, ynghyd â manteisio i’r eithaf arnynt, mae angen amser, ymdrech a chysondeb.
Tasg flinedig yw cyfarfod â phobl newydd yn gyson (yn enwedig mân siarad gyda nhw) a mynd ar drywydd y cysylltiadau hynny wedyn. Mae ‘syrffed ar rwydweithio’ – lle mae gweithwyr proffesiynol yn ymlâdd ac yn cael eu llethu gan y broses barhaus o geisio creu cysylltiadau – yn gysyniad go iawn, a gall beri i bobl rwydweithio’n anamlach.
Nid yw pawb yn meddu ar y sgiliau i rwydweithio’n effeithiol. Felly, hyd yn oed os byddant yn mynychu’r digwyddiadau iawn ac yn cael eu cyflwyno i’r bobl iawn, cânt anhawster i greu cydberthnasau a chysylltiadau cryf. Hefyd, gall swildod a gorbryder cymdeithasol achosi straen i bobl wrth gychwyn sgyrsiau.
Mae heriau eraill yn cynnwys amharodrwydd i ddefnyddio technoleg newydd, cydbwyso safon gyda nifer, llywio hierarchiaethau a strwythurau sefydliadol, rhwystrau diwylliannol a rhwystrau cyfathrebu.
Sut y gellir defnyddio LinkedIn i greu cydberthnasau?
Yn aml, dywedir mai LinkedIn – sef rhwydwaith proffesiynol mwyaf y byd – yw’r cyfrwng cysylltu a ffefrir ymhlith gweithwyr proffesiynol; ac yn ddi-os, mae’n blatfform ac yn adnodd y dylid gwneud yn fawr ohono. Dyma blatfform a man digidol lle gall busnesau ymgysylltu, cysylltu, rhannu a chydweithredu, ac ar hyn o bryd mae ganddo fwy na biliwn o aelodau mewn mwy nag 20 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd.
Mae hi’n hanfodol i fusnesau gyflwyno proffil a saernïwyd yn ofalus, a dylid diweddaru’r proffil hwnnw’n rheolaidd. Dylai’r proffil arddangos eich profiad, eich set sgiliau, eich llwyddiannau, cerrig milltir pwysig yn eich gyrfa a meysydd o ddiddordeb proffesiynol. Bydd yn gweithredu fel rhyw fath o ‘gerdyn busnes’ rhithwyr. Hefyd, bydd yn sicrhau bod darpar gysylltiadau – yn cynnwys cyflogwyr, cymheiriaid yn y diwydiant, a chleientiaid – yn deall yn glir sut y gallech fod yn rhan o’u rhwydwaith, a’r gwerth y gallech ei gynnig.
Trwy rannu cynnwys o safon, ymhél â phostiadau a thrafodaethau, ac ymuno â grwpiau sy’n ymwneud â diwydiannau a sectorau penodol, bydd modd cynyddu rhwydweithio a chyfnewid ystyrlon, gan eich helpu i greu eich brand personol a sicrhau amlygrwydd a pherthnasedd. Y ffordd fwyaf uniongyrchol o gysylltu ag eraill yw cysylltu â nhw’n uniongyrchol trwy eu hychwanegu at eich rhwydwaith neu gychwyn sgwrs trwy ddefnyddio nodwedd negeseua LinkedIn.
Yn ogystal â bod yn werthfawr o ran gosod y sylfeini cychwynnol ar gyfer cydberthynas broffesiynol, mae negeseua uniongyrchol yn ffordd gyflym a hwylus o drefnu sgyrsiau a chysylltu â’ch cysylltiadau presennol.
Defnyddio grym rhwydweithio i greu cysylltiadau ystyrlon ac ysgogi datblygiad eich gyrfa
Beth am ragori fel arweinydd busnes arloesol ac uchelgeisiol – a defnyddio rhwydweithio i lwyddo yn eich gyrfa – gyda rhaglen MBA Entrepreneuriaeth ar-lein Prifysgol Wrecsam.
Os oes gennych egin fusnes mewn golwg yn barod, os ydych yn dymuno camu ymlaen yn eich rôl bresennol neu os ydych yn awyddus i feithrin sgiliau entrepreneuraidd i ategu eich gyrfa’n gyffredinol, dyma’r cwrs i chi. Trwy ddilyn cwrs a gaiff ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein ac y gallwch ei astudio o gwmpas eich ymrwymiadau presennol, cewch ddysgu’r grefft o fod yn entrepreneur, gan ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r mewnwelediadau sy’n angenrheidiol i lywio trwy’r amgylchedd busnes modern a’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil. Gallwch ddisgwyl astudio pynciau fel cyllido busnes, strategaeth, cynaliadwyedd a gweithrediadau, arweinyddiaeth, marchnata, rheoli pobl a mwy.