Yn y modiwl hwn, byddwch yn nodi, archwilio, a gwerthuso cysyniadau o ran dadansoddi a dylunio, yn ogystal ag amrywiaeth o fethodolegau traddodiadol a chyfoes er mwyn eich galluogi i werthfawrogi natur gwybodaeth a’i rôl yn nhrefn peirianneg systemau.
Mae’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i ddatblygu dull proffesiynol tuag at ymarfer a gwerthuso effaith dyluniad, datblygu a gweithredu systemau ar gymdeithas. Mae’n cynnwys ystyriaeth o faterion proffesiynol, moesegol, cyfreithiol, gwleidyddol, diwylliannol a chynaliadwyedd.