Manteision allweddol
- MBA Seiberddiogelwch cyfan gwbl ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Wrth i seiberdroseddwyr ddod yn fwyfwy medrus ac yn fygythiad cynyddol i fusnesau a sefydliadau ledled y byd, mae galw cyflogwyr am sgiliau seiberddiogelwch wedi cynyddu’n esbonyddol. Mae wedi cael ei adrodd erbyn 2021 y bydd tua 3.5 miliwn o swyddi heb eu llenwi mewn seiberddiogelwch (New York Times, 2018).
Mae’r radd MBA Seiberddiogelwch cyfan gwbl ar-lein hon wedi’i chreu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wella eu rhagolygon trwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau seiberddiogelwch y mae galw mawr amdanynt yn ogystal â chyfres gynhwysfawr o sgiliau mewn meysydd busnes allweddol.