Manteision allweddol
- MBA Rheoli Gofal Iechyd 100% Ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Cyflymwch eich gyrfa yn y sector gofal iechyd gyda chwrs MBA Rheoli Gofal Iechyd o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae’r rhaglen MBA 100% ar-lein hon wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd uchelgeisiol ac arweinwyr sy’n dod i’r amlwg yn y maes gofal iechyd sydd eisiau symud ymlaen yn bellach ac yn gyflymach trwy ddatblygu eu dealltwriaeth a’u defnydd o reoli ac arweinyddiaeth.
Rhaglen MBA ar-lein hyblyg ac unigryw, mae’n arfogi myfyrwyr yn benodol â’r offer, y cysyniadau a’r technegau ymarferol i lwyddo mewn swyddi arwain yn y sector gofal iechyd. Yn ogystal, mae’n darparu dealltwriaeth eang, gynhwysfawr o fusnes – yn archwilio disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys strategaeth, rheoli adnoddau dynol a marchnata.