Manteision allweddol
- MBA Cyllid 100% Ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Trawsnewidiwch eich gyrfa gyda chwrs MBA Cyllid ar-lein yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae’r cwrs MBA Cyllid wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr cyllid proffesiynol ac uchelgeisiol sydd eisiau uwchsgilio, cael dyrchafiadau yn gyflym a dod yn arweinydd cyllid, yn ogystal ag ar gyfer unigolion hynod frwdfrydig sydd am lansio gyrfa newydd mewn cyllid neu gyfrifyddu.
Mae ein gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) -Cyllid unigryw a hyblyg yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol prysur drawsnewid eu rhagolygon gyrfa ac yn galluogi iddynt ffitio eu hastudiaethau o amgylch eu hymrwymiadau teulu a gwaith.