Paratoi i lwyddo. Enillwch radd MBA o ansawdd uchel o brifysgol sy'n cael ei harwain gan ddiwydiant ac sy'n canolbwyntio ar yrfa
- 180 credyd •
- 2 flynedd yn rhan-amser •
- Cyfanswm ffioedd £6,000
Manteision allweddol
- MBA 100% Ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Mae’r radd MBA cyfan gwbl ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer gweithiwyr proffesiynol sydd eisiau datblygu gwybodaeth fusnes a sgiliau arwain i symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa neu newid cyfeiriad yn llwyr.
Gyda’r rhaglen hon gallwch nawr ffitio astudio o gwmpas eich bywyd – ar unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais. I gynnig hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, mae yna chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, opsiwn i dalu fesul modiwl ac mae’r llywodraeth yn cynnig benthyciadau ôl-raddedig i ymgeiswyr cymwys.
Fel rhan o Brifysgol Wrecsam, yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru rydym yn ymfalchïo yn ein sgoriau uchaf am gyflogadwyedd a’n harbenigedd mewn dysgu rhan amser a hyblyg.
Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
- Dyluniad hyblyg ‘ennill-wrth-ddysgu’ ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur
- Gallwch ennill eich cymhwyster MBA o fewn dwy flynedd
- Rhaglenni wedi’u hadolygu gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)
- Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd* *(o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser) Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
- Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
- Talu fesul modiwl gyda rhandaliadau o £500 bob wyth wythnos
- Diwylliant prifysgol amrywiol a chroesawgar gyda gwasanaeth cymorth myfyrwyr pwrpasol
- Mae’r chwe dyddiad dechrau’r flwyddyn yn golygu y gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau ac astudio ar eich cyflymder eich hun.
Ynghylch y rhaglen MBA hon
Mae’r rhaglen MBA hon yn cael ei chyflwyno yn gyfan gwbl ar-lein ac fe’i cynlluniwyd i ddatblygu dealltwriaeth eang o fusnes gyda set o sgiliau busnes ymarferol sy’n darparu’r sylfaen i yrfa gyflym a llwyddiannus yn eich cyfeiriad dewisol. Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys strategaeth, marchnata, Rheoli Adnoddau Dynol a Chyllid, ac yn datblygu sgiliau megis creadigrwydd, arloesedd ac ystod o dechnegau dadansoddol.