Manteision bod yn entrepreneur technegol deallus
Postiwyd ar: Ebrill 1, 2020gan Ruth Brooks
Mae’n anodd dychmygu cychwyn busnes modern heb ddefnyddio technoleg o unrhyw fath; yn wir, ‘technegol’ fu’r catalydd am don o entrepreneuriaeth yn y degawdau diweddar. Mae cychwyn busnes rŵan yn fwy cyraeddadwy, gyda nifer o gwmnïau yn cychwyn ac yn tyfu o 440,660 i ragor na 650,000 yn y pum mlynedd hyd 2017.
Mae datblygu syniadau newydd, cynhyrchion a gwasanaethau yn hanfodol i greu cyfleoedd entrepreneuraidd, ac er mwyn gallu g wneud hyn yn effeithiol, mae gwybodaeth yn hanfodol. Mae’r rheini a chanddynt ddyheadau cychwyn eu busnes eu hunain angen gwybod a yw eu syniadau yn hyfyw; gall yr hyn sy’n arwydd o syniad gwych i grŵp bychan o ffrindiau sydd â barn debyg fod heb apêl ehangach. Yr allwedd i ennill ymddiriedaeth rhanddeiliaid fel buddsoddwyr neu gyfalafwyr mentrus yw cynnal gwaith ymchwil trylwyr.
Cymhwyso technoleg yn y cam syniadaeth
Yn ystod y 90au, yn aml cyfeiriwyd at y fewnrwyd fel ‘traffordd wybodaeth’, ac mae’n hawdd gweld pam. Gyda dim ond ychydig o gliciau neu dermau chwilio, gallwn ganfod mwy o wybodaeth am ymron i rywbeth. Ynghyd â dyfodiad poblogeiddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae’r we yn cynnig cyfoeth o ddata i entrepreneuriaid y gellir ei ddefnyddio i ddeall hyfywedd cysyniadau a chanfod cynulleidfaoedd i’w targedu.
Er, mae’n stryd ddwyffordd, mae gwefannau crowdfunding bellach yn gyffredin. Gall entrepreneuriaid werthu eu syniad i gynulleidfa a thafoli diddordeb cyn buddsoddi amser ag arian yn y cynnyrch neu wasanaeth, gael cipolwg hanfodol a chymryd y cam i lansio eu busnes – llai o risg nag yr oedd o’r blaen.
Technoleg yn y camau cynnar
Yn aml bydd sefydlu a chynnal busnes yn y cyfnodau cynnar yn aml yn weithred o jyglio, gydag ond un neu ddau o bobl yn jyglio. Dyma lle gall bod yn ddeallus yn dechnegol wneud gwahaniaeth. Golyga defnyddio technoleg debyg i ddysgu peirianyddol (ffurf ar ddeallusrwydd artiffisial lle mae cyfrifiaduron yn dysgu ac yn gwella prosesau yn awtomatig y gall entrepreneuriaid cyflawni mwy gyda llawer yn llai. Mae prosesau awtomatig TG tebyg i fonitro diogelwch, rheoli data ac adrodd yn lleihau’r angen am arbenigwyr TG a’r baich sydd ar berchnogion busnes, ac yn rhoi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar ofalu bod eu cwmni yn llwyddo.
Bellach mae Prifysgol Wrecsam Wrecsam yn cynnig Entrepreneuriaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes 100% ar-lein, sy’n rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol feithrin y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i lansio menter newydd. Mae’r rhaglen yn cynnwys modiwlau tebyg i feddwl entrepreneuraidd, rheolaeth adnoddau dynol, gweithredu strategaethau a newid creadigol, nid yn unig i ddarpar berchnogion busnes perthnasol, ond hefyd i’r rheini sy’n tyfu a datblygu busnesau bach neu dimau entrepreneuraidd sy’n canolbwyntio ar arloesedd mewn cwmnïau mwy.
Darperir y rhaglen yn gyfan gwbl ar-lein, felly gall myfyrwyr astudio unrhyw bryd ar amrywiaeth o ddyfeisiadau, a rhoi’r gallu i entrepreneuriaid yfory ddysgu’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt a chael gradd Meistr neb fod angen cymryd toriad gyrfa, gyda’r hyblygrwydd i weddu astudio o gwmpas eu gwaith a’u hymrwymiadau teulu. Ceir dewis o chwe dyddiad cychwyn y flwyddyn, felly gall astudio gychwyn unrhyw bryd ar adeg sy’n fwyaf cyfleus. Gallwch dalu fesul modiwl, heb fod angen buddsoddiad mawr ymlaen llawn.
Am fwy o wybodaeth a dechrau eich cais, ewch at: https://online.wrexham.ac.uk/mba-entrepreneurship/