Cynyddu’r gymhareb ar gyfer codiad cyflog: manteision gradd MBA ar-lein
Postiwyd ar: Gorffennaf 3, 2024gan Ruth Brooks
Mae olrhain MBA wedi cael ei ystyried fel porth dibynadwy i ddatblygu gyrfa a deilliannau cyflog ôl-MBA proffidiol ers tro, ond mae’r cynnydd mewn addysg ar-lein ddiweddar nawr yn rhoi dewis newydd i ddarpar fyfyrwyr MBA: graddau MBA ar-lein.
Mae’r rhaglenni ar-lein hyn wedi dod yn ddewis cynyddol boblogaidd ymysg pobl broffesiynol sy’n ceisio gwella eu gyrfaoedd – mewn sawl achos, maent hyd yn oed yn fwy poblogaidd na’r dewisiadau MBA wyneb yn wyneb llawn amser, traddodiadol.
Er enghraifft, nododd erthygl Forbes yn 2022 fod yna fwy o fyfyrwyr MBA ar-lein bellach yn yr Unol Daleithiau na rhai MBA llawn amser, ac mae tuedd tebyg yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, gyda’r Financial Times yn nodi cynnydd o 43.5% mewn ceisiadau ar gyfer rhaglenni MBA ar-lein yn y DU:
“Nid gweithgaredd arbenigol mo’r cyrsiau MBA ar-lein bellach, ond maent yr un mor ddethol a phoblogaidd â’r cyrsiau cyfatebol a addysgir ar y campws.”
Y gwahaniaethau rhwng graddau MBA traddodiadol ac ar-lein
Mae rhaglenni MBA traddodiadol a MBA gweithredol fel arfer ar y campws, wyneb yn wyneb, yn ymrwymiadau llawn amser, ac yn aml yn gofyn i fyfyrwyr gymryd toriad MBA mewn gyrfa. Mae strwythur cadarn y rhaglenni hyn o fudd i rai myfyrwyr, ond fe allant fod yn her i eraill, megis pobl broffesiynol sydd angen mwy o hyblygrwydd.
Dyma lle mae graddau MBA ar-lein wedi gallu amharu ar y model addysg busnes traddodiadol, gan ddarparu llwybr amgen i unigolion sy’n canolbwyntio ar yrfa. Mae’r fformat ar-lein yn galluogi myfyrwyr i gwblhau gwaith cwrs o unrhyw le yn y byd – heb beryglu ansawdd yr addysg – ac yn eu galluogi i gael cydbwysedd rhwng gofynion gwaith ac addysg yn ddidrafferth.
Rhesymau dros ddewis gradd MBA ar-lein
Hyblygrwydd a hygyrchedd
Un o brif fanteision y rhaglenni MBA ar-lein yw eu hyblygrwydd, oherwydd mae’n golygu y gall pobl broffesiynol ddilyn eu hastudiaethau heb orfod aberthu eu swydd neu orfod adleoli.
Ni ellir gorbwysleisio’r fantais hon. Mae cael cydbwysedd rhwng swydd llawn amser a llymder rhaglen MBA yn gallu bod yn heriol tu hwnt, gyda MBA rhan amser gyda dysgu ar-lein yn darparu’r ymreolaeth i allu ymdopi â’r ddau gyfrifoldeb yn effeithiol.
Mae MBA ar-lein hefyd yn golygu y gall myfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth newydd yn syth i’w swyddi presennol, gan ddatblygu eu twf gyrfa a chynnydd mewn cyflog.
Natur addasol ac arbenigol
Mae rhaglenni MBA ar-lein yn aml yn darparu ystod eang o arbenigedd sy’n darparu ar gyfer llwybrau gyrfa amrywiol. P’un ai oes gan rywun ddiddordeb mewn dadansoddeg busnes, gofal iechyd, entrepreneuriaeth, neu dechnoleg gwybodaeth, mae’r gallu i deilwra modiwlau neu ymchwil ar gyfer nodau personol neu i ddiddordebau yn gwella’r profiad dysgu a cyn paratoi’r graddedigion ar gyfer llwyddiant pellach yn y meysydd o’u dewis.
Gall dewis arbenigedd hefyd effeithio ar ddeilliannau cyflog ar gyfer graddedigion MBA. Gall gwybodaeth arbenigol mewn meysydd megis rheoli prosiect neu adnoddau dynol, er enghraifft, gynorthwyo graddedigion i ddenu cyflogwyr a recriwtwyr.
Cyfleoedd rhwydweithio byd-eang a chysylltiadau cyn-fyfyrwyr
Yn groes i gamdybiaethau cyffredin, mae rhaglenni MBA ar-lein yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio cadarn. Mae digwyddiadau rhwydweithio rhithiol, fforymau trafod, a phrosiectau ar y cyd yn hwyluso cysylltiadau gyda chyfoedion a rhwydweithiau â chyn-fyfyrwyr byd-eang, gyda’r cyfan yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau cyfleoedd gwaith neu ennill mewnwelediad i ddiwydiannau penodol a rôl graddio hyd yn oed.
Gall sefydlu a meithrin y cysylltiadau proffesiynol hyn fod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu gyrfa, a chreu profiad MBA sy’n ymestyn ymhell tu hwnt i gyfyngiadau ystafell ddosbarth rithiol.
Y gallu i addasu a chyflogadwyedd
Pwysleisiodd pandemig COVID-19 bwysigrwydd sgiliau digidol a’r gallu i addasu yn y gweithlu, ac mae gan y graddedigion MBA ar-lein, sydd eisoes yn gyfarwydd â chydweithio rhithiol, y sgiliau addas i lywio’r cyfnod ôl-bandemig o drefniadau gwaith o bell a gweithio hyblyg. Ac mae’r gallu i addasu hwn yn cael ei gydnabod fwyfwy gan gyflogwyr, felly mae gan raddedigion MBA sydd â sylfaen mewn dysgu ar-lein ac sy’n gallu cydweithio’n ddidrafferth ar draws llwyfannau digidol fantais.
Y berthynas rhwng MBA ar-lein a chynnydd mewn cyflog
Mae cynnydd mewn cyflog yn rhywbeth sy’n ysgogi ceisiadau ar gyfer MBA yn sylweddol, gyda’r chyfartaled cyflog i raddedigion MBA yn y DU yn £55,000 y flwyddyn. Ond mae myth o hyd nad yw cyrsiau gradd MBA ar-lein yn rhoi’r un bri neu, yn hanfodol, yr un cyflog cychwynnol neu gynnydd mewn cyflog â’r cyrsiau traddodiadol cyfatebol.
Fodd bynnag, mae data diweddar yn awgrymu fel arall. Nododd graddedigion MBA ar-lein gyflog sylfaenol cystadleuol neu gynnydd mewn cyflog yn y farchnad swyddi, gan herio’r syniad fod y dull addysgu’n cael effaith ar werth y radd yn y farchnad swyddi.
Nododd y cylchrawn Fortune, er enghraifft, fod busnesau “yn gweld yr un gwerth mewn gradd MBA, waeth pa fodd y mynychodd myfyriwr y dosbarthiadau” ac mai enw da’r sefydliad yw’r hyn sy’n bwysig yn nhermau datblygu gyrfa ac ennill y cyflog uchaf, yn hytrach na’r dull o astudio.
Pethau i’w hystyried wrth ddewis rhaglen MBA ar-lein:
Gall amser a chost dilyn MBA ar-lein fod yn sylweddol, ac wrth i’r enillion posibl ar fuddsoddiadau – yn nhermau cynnydd mewn cyflog cyfartalog a photensial ennill cyflog, datblygu gyrfa, ehangu rhwydweithiau proffesiynol, ac ati – ei wneud yn ddewis doeth, mae hefyd yn golygu y gall darpar fyfyrwyr allweddol gynnal ymchwil drylwyr, ystyried amcanion gyrfa hir dymor, ac ystyried eu dewisiadau’n llawn i wneud eu MBA yn werth chweil.
Mae’r cyngor hwn yn fwy perthnasol o ystyried y cynnydd yn y nifer o raglenni MBA ar-lein y gellir eu dewis, gyda phob un yn cynnwys gwahanol fanteision, o’u sgôr ac achrediad MBA i arbenigedd posib a chryfderau ymchwil y sefydliad.
Gall ystyried enw da’r sefydliad gynorthwyo i wneud y broses ddewis yn haws, felly hefyd strwythur a fformat y rhaglen. Cofiwch nad yw pob rhaglen MBA ar-lein yn cael eu creu’n gyfartal. Dylai darpar fyfyrwyr ystyried y cymorth y byddant yn ei dderbyn yn ystod y rhaglen hefyd, a’r lefel o ryngweithio gyda staff academaidd a myfyrwyr eraill mae’n ei gynnig, oherwydd mae cydbwyso ymreolaeth dysgu ar-lein gydag ymgysylltu ystyriol – drwy drafodaethau rhithiol, prosiectau grŵp, a digwyddiadau rhwydweithio – yn hanfodol er mwyn cael profiad addysgol cynhwysfawr.
Yn olaf, dylai ystyriaethau fod yn ffactor mewn gofynion mynediad, p’un ai yw’n brofiad gwaith sydd eisoes yn bodoli neu leoliadau, sgôr Prawf Mynediad Rheoli Graddedigion (PMRhG) – a weinyddir gan y Cyngor Rheoli Mynediad Graddedigion (CRhMG) neu ofynion mewn Saesneg.
Mynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf gyda MBA ar-lein.
Dysgwch sut i feddwl yn feirniadol, cynllunio’n effeithiol a rhoi cynlluniau strategol ar waith i gael yr effaith fwyaf posib gyda Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) 100% ar-lein yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, sy’n rhan o Brifysgol Wrecsam. Mae’r cwrs gradd MBA hyblyg hwn wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a brwdfrydig sydd eisiau datblygu eu gyrfa’n gyflym gyda dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arwain, ac mae ganddo’r fantais ychwanegol o fod wedi cyrraedd 10 Uchaf yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu yn Good University Guide The Times a The Sunday Times 2024.
Mae cwricwlwm cynhwysfawr y rhaglen yn cwmpasu disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn:
- dod o hyd i atebion i heriau busnes cymhleth
- creadigrwydd a chynhyrchu syniadau
- sgiliau cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid
- technegau dadansoddol – troi data yn fewnwelediadau y gellir eu rhoi ar waith
- deall ac ysgogi macro-dueddiadau
Byddwch hefyd yn derbyn cymorth academaidd llawn a cyn dysgu mewn amgylchedd dysgu ar-lein rhyngweithiol lle byddwch yn rhyngweithio â chyd-fyfyrwyr MBA ledled y byd a cyn ehangu eich rhwydwaith byd-eang.