Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw diogelwch dyfais symudol?

Postiwyd ar: Chwefror 22, 2022
gan
Mobile phone with a padlock icon on the screen

Yn y byd gwaith heddiw, mae llawer o’r dyfeisiau a ddefnyddir ar gyfer gweithdrefnau o ddydd i ddydd yn ddyfeisiau symudol – gliniaduron, ffonau clyfar, llechi, dyfeisiau gwisgadwy, ac unrhyw ddyfais symudol arall.

Wrth i natur y dyfeisiau hyn alluogi’r defnyddwyr – gweithwyr cwmnïau – i weithio’n fwy hyblyg ac o unrhyw leoliad, mae diogelwch digidol yn her y mae’n rhaid delio ag o. Mae’r defnydd o ddyfeisiau digidol yn gwneud cwmnïau’n agored i ymosodiad seiber, gyda bygythiadau i ddyfeisiau symudol yn codi o appiau maleisus, sgamiau gwe-rwydo, datgeliadau data, ysbïwedd a rhwydweithiau Wi-Fi anniogel.

Mae diogelwch dyfais symudol yn bwysig er mwyn cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol a rhwydwaith busnes yn ddiogel.

Defnyddiwch ddulliau diogelwch dyfais symudol effeithiol

Er mwyn sicrhau bod dyfeisiau symudol yn ddiogel ac anhreiddiadwy i droseddwyr seiber, cynghorir cwmnïau i fuddsoddi mewn dull amlhaenog o ddelio â diogelwch seiber. Drwy gael gweithwyr proffesiynol o fewn tîm TG sy’n gallu creu rhwydwaith strwythuredig o bolisïau a chynnig mesurau diogelwch ar draws busnes, bydd data sensitif yn fwy tebygol o aros yn ddiogel.

Mae yna nifer o arferion gorau diogelwch symudol y gall cwmnïau eu gweithredu.

Crëwch a gorfodwch bolisïau a phrosesau clir

Gan fod y rhan fwyaf o ymosodiadau seiber yn digwydd o ganlyniad i gamgymeriad dynol, gall cael canllawiau clir ar sut i gadw dyfeisiau’n ddiogel a sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hyfforddi i adnabod a bod yn ymwybodol o ymosodiadau, beth i’w wneud a ble i adrodd amdanynt pan fo ymgais i ymosod, leihau’r risg.

Dylai cwmnïau ei gwneud hi’n glir pa ddyfeisiau a ganiateir (p’un ai a ddefnyddir dyfeisiau sy’n eiddo’r cwmni’n unig, neu a ganiateir defnyddio dyfeisiau personol (BYOD)), beth y gall gweithwyr gael mynediad ato a ddim cael mynediad ato ar eu dyfeisiau personol, ac a oes gan TG y gallu i lanhau dyfais o bell.

Defnyddiwch gyfrineiriau cryf

Mae cyfrinair diogelu a dilysiad dau ffactor yn gam syml sy’n gallu cadw dyfeisiau’n ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig, ond cyfrineiriau gwan sy’n bennaf gyfrifol am haciau data.

Gall annog gweithwyr i greu cyfrineiriau cryf ac unigryw ar gyfer eu dyfeisiau a phob cyfrif sy’n ymwneud â gwaith, gan greu cyfrineiriau gwahanol at wahanol ddefnydd – defnyddio un cod i gael mynediad i ddyfais a chod arall i gael mynediad i e-bost, er enghraifft – gadw’r ddyfais a’r rhwydwaith yn ddiogel.

Cyflwynwch y defnydd o fiometreg

Mae dilysu biometreg yn defnyddio marciau biometreg i ddatgloi dyfais. Gall hyn fod yn wyneb, ôl bys, llais neu adnabyddiad iris, ac mae’n nodwedd sy’n dod gyda nifer o beiriannu cyfoes.

Os nad yw gliniadur yn datgloi heb adnabod wyneb y perchennog, neu ffôn symudol yn gwrthod mynediad os nad yw’n adnabod ôl bys ei berchennog, petai’r dyfeisiau hyn yn mynd i ddwylo dieithr mae’r posibilrwydd o allu mynd tu hwnt i’r diogelwch biometig hwn yn isel iawn.

Glynwch wrth rwydweithiau Wi-Fi dibynadwy

Er bod Wi-Fi cyhoeddus yn gallu bod yn gyfleus mewn sawl achos, nid yw’r rhwydweithiau hyn yn ddiogel bob tro ac mae cysylltu dyfais iddynt yn gallu gwneud y defnyddiwr yn agored i ymosodiadau haciwr.

Drwy rwydweithiau Wi-Fi anniogel, gall haciwr gael mynediad i ddyfais, gael mynediad i rwydwaith cwmni, a dwyn data personol ohono.

Cyfyngwch ar lawrlwytho apiau

Petai gweithiwr yn lawrlwytho app maleisus i’w dyfais Android neu iPhone yn ddiarwybod, bydd mynediad anawdurdodedig i rwydwaith a data’r cwmni yn cael ei ganiatáu.  Mae’r math yma o ymosodiad seiber ar ddyfeisiau symudol yn un o’r bygythiadau sy’n tyfu gyflymaf, ac felly fe ddylai busnesau fod yn wyliadwrus o’r rheolau sy’n ymwneud â lawrlwytho ap ar offer cwmni.

I amddiffyn dyfeisiau symudol, gall cwmni un ai hyfforddi gweithwyr ar beryglon lawrlwytho apiau maleisus a’u dysgu sut i’w hadnabod, neu wahardd yn llwyr lawrlwytho unrhyw apiau sydd ddim ar restr a gymeradwywyd gan y cwmni cyfan.

Amgryptiwch ddyfeisiau symudol

Mae gan ddyfeisiau symudol nodwedd amgryptio mewnol, y gall defnyddwyr ei ddefnyddio drwy nodi cyfrinair.

Pan mae dyfeisiau wedi eu hamgryptio, mae’r holl ddata ar y ddyfais yn cael ei droi i god y gellir cael mynediad ato drwy fynediad awdurdodedig yn unig. Mae defnyddio amgryptio yn cadw gwybodaeth sensitif yn ddiogel pe bai’r ddyfais yn cael ei cholli neu ei dwyn.

Cyflwynwch lwyfan Rheolaeth Symudol Menter (EMM)

Mae EMM yn llwyfan sydd wedi ei gynllunio i ddiogelu data ar ddyfais symudol gweithiwr. Mae’r llwyfannau hyn yn galluogi tîm TG i feithrin dealltwriaeth yn syth a dal unrhyw fygythiadau posib.

Mae yna ystod eang o lwyfannau, ac mae pob un yn cynnig manylebau gwahanol ar gyfer gwahanol anghenion. Mae rhai llwyfannau yn galluogi dyfais sydd wedi cael ei hacio gael ei glanhau o bell, tra bod eraill yn canolbwyntio ar fonitro a diogelu apiau penodol ar ddyfais.

Diogelu e-bost

Y dull hawsaf i haciwr ledaenu meddalwedd wystlo a maleiswedd ar rwydwaith cwmni yw drwy sgamiau e-bost ac ymosodiadau gwe-rwydo.

Bydd gallu canfod, rhwystro a mynd i’r afael ag e-bost amheus yn cadw rhwydwaith yn ddiogel, a gellir gwneud hyn drwy feddalwedd diogelu e-bost uwch yn ogystal â hyfforddiant parhaus i staff ar bwysigrwydd peidio clicio ar ddolenni neu agor atodiadau mewn negeseuon e-bost gan ffynonellau dieithr neu heb eu dilysu.

Defnyddiwch ddiogelwch endpoint

Gellir diogelu rhwydweithiau menter, y mae modd cael mynediad iddynt o bell drwy ddyfeisiau symudol, drwy ddefnyddio diogelwch endpoint.

Mae’r feddalwedd hon yn sicrhau bod pob dyfais sydd wedi ei chysylltu yn dilyn safonau diogelwch, bod timau diogelwch yn cael rhybudd o unrhyw fygythiad, ac mae’n galluogi gweinyddwyr i fonitro swyddogaethau gweithredu a strategaethau copi o ddata wrth gefn.

Sicrhewch fod gennych rwydwaith breifat rithiol (VPN)

Drwy ddefnyddio technoleg amgryptio, mae VPN yn galluogi defnyddwyr o bell a swyddfeydd canghennau eraill i gael mynediad diogel i appiau ac adnoddau corfforaethol.

Mae VPM yn ymestyn rhwydwaith breifat ar draws rhwydwaith gyhoeddus, gan alluogi defnyddwyr i anfon a derbyn data fel petai eu cyfrifiaduron wedi eu cysylltu’n uniongyrchol i rwydwaith breifat.

Sicrhewch fod y cwmwl yn ddiogel

Mae porth gwe ddiogel yn bwysig ar gyfer diogelwch y cwmwl gan ei fod yn adnabod lleoliadau unigol sydd angen eu hamddiffyn rhag ymosodiadau ar-lein a rhwystro bygythiadau diogelwch rhag treiddio i leoliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith. Mae’n gorfodi mesuriadau diogelwch ac yn canfod sgamiau gwe-rwydo a maleiswedd yn syth.

Mae defnyddio adnodd brocer diogelwch mynediad i’r cwmwl (CASB), datrysiadau diogelwch, polisïau llywodraethu a chydymffurfiaeth yn cael ei orfodi.

Dewch yn bencampwr diogelwch dyfais symudol

Fel mae ymosodiadau seiber yn parhau i godi a dod yn glyfrach, mae’r angen am weithwyr proffesiynol sy’n gallu creu a rheoli protocolau diogelwch seiber cwmni’n parhau i godi.

Drwy astudio gyda Diogelwch 100% Seiber MBA ar-lein gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, bydd gennych yr adnoddau yr ydych eu hangen i gadw gwybodaeth sensitif yn ddiogel ar draws y busnes. Paratowch ar gyfer dilyniant gyrfa yn y maes prysur hwn wrth ichi astudio’n rhan amser a chymhwyso’ch dysgu i’ch swydd bresennol.