Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

B2B Marchnata Busnes-i-fusnes; llai apelgar ond yr un mor bwysig

Postiwyd ar: Awst 24, 2019
gan
B2B marketing; less appealing just as important

Mae marchnata busnes-i-fusnes yn ymwneud â gwerthiant cynnyrch un cwmni neu wasanaethau i gwmni arall. Yn wahanol i farchnata busnes-i-ddefnyddiwr, fe’i defnyddir yn bennaf gan gwmnïau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda busnesau eraill, nid gyda’r cyhoedd yn gyffredinol.

Er bod ei dechnegau’n dibynnu ar yr un egwyddorion sylfaenol â marchnata cwsmer, mae marchnata busnes-i-fusnes yn greiddiol yn ymwneud â datblygu perthnasau i sicrhau y bydd cwsmeriaid yn aros, tra bydd cwsmeriaid yn dewis cynnyrch sy’n seiliedig ar bris ac ar sbardunwyr emosiynol fel poblogrwydd a statws. Wrth gwrs, bydd prynwyr busnes-i-fusnes yn ystyried brand ac enw da, ond mae pris ac elw posibl hefyd yn sbarduno penderfyniadau allweddol.

Ym maes marchnata cwsmer, gall hysbyseb brand effeithiol gael ei farchnata drwy amryw o sianelau. O ganlyniad, bydd canran o gwsmeriaid yn cael eu sbarduno i brynu’r cynnyrch. Gan fod marchnata busnes-i-fusnes gymaint yn fwy arbenigol, mae marchnatwyr mewn perygl o ymddieithrio eu darpar gwsmeriaid penodol os nad ydynt yn teilwra eu gwasanaethau i fodloni eu hanghenion yn union. Felly, mae’n hanfodol bod marchnatwyr busnes-i-fusnes yn deall yr anghenion hyn cyn gweithredu unrhyw dacteg marchnata neu hysbysebu.

Ystyr ‘cynhyrchu arweiniad’ busnes-i-fusnes yw cael manylion y cwsmeriaid hynny a chanddynt ddiddordeb efallai mewn dysgu mwy. Wedi i chi gael yr arweiniad yma, gallwch ei  drosi drwy eich triongl gwerthiant nes y dônt yn gwsmeriaid ac yna’n eiriolwyr dros eich brand. A chithau’n gwmni busnes-i-fusnes, mwy na thebyg y bydd eich triongl gwerthiant yn fwy cymhleth nag un busnes-i-ddefnyddiwr. Efallai bod gennych sawl triongl gwerthu gwahanol, neu hwyrach eich bod yn targedu gwahanol ddiwydiannau a bod gennych drionglau wedi’u personoli ar gyfer pob un. Pa bynnag olwg sydd ar eich triongl(au) gwerthu, mae’n gwbl hanfodol eich bod ym mapio eich cylch gwerthu a nodi sut mae’n berthnasol i lwybr prynu eich cwsmeriaid.

Aiff tipyn o feddwl i’r penderfyniad prynu. Er enghraifft, pan fydd cwsmer yn penderfynu gweithio gyda chwmni marchnata, bydd ef yn gwneud ymchwil i’r cwmni, yn darllen adolygiadau ac yn gofyn i berchenogion busnes eraill am eu profiadau.

Gall marchnatwyr busnes ddatblygu a phenderfynu sut i ddefnyddio eu cynllun busnes-i-fusnes drwy adnabod a deall pwysigrwydd y testunau sy’n dilyn:

  • Y cynnych neu wasanaeth: Pan fyddwch chi’n marchnata i gwsmeriaid, mae’n cynnwys agwedd emosiynol. Yn aml, caiff unigolion eu denu at gynnyrch oherwydd sut maent yn gwneud iddynt deimlo. Gyda chwsmeriaid busnes-i-fusnes, mae’r prynwyr yn bobl broffesiynol hyfforddedig sy’n poeni mwy am safon cynnyrch, yr arbedion o ran costau a/neu refeniw sy’n cynhyrchu buddion, a gwasanaeth y cwmni lletya.
  • Y farchnad darged: Mae llawer o farchnatwyr busnes-i-fusnes yn canolbwyntio ar ddiwydiannau arbenigol iawn sy’n adlewyrchu anghenion arbenigol. Mae hyn yn gofyn am wybodaeth eang am y diwydiant y maent yn gweithredu ynddo – y tu hwnt i farchnata.
  • Hyrwyddo: Fel marchnatwyr busnes-i-ddefnyddiwr, mae angen i’r rheini sy’n gweithio mewn rolau busnes-i-fusnes fod yn arbenigwyr marchnata, hysbysebu, yn ogystal ag yn eu meysydd eu hunain, ac o bosibl i raddau mwy. Unwaith y bydd hyn yn digwydd, byddant yn dysgu’r ffyrdd gorau i farchnata i’r diwydiant dan sylw, boed hynny drwy flogiau, cylchgronau, sioeau masnach neu ar sail argymhellion cwsmeriaid.

Unwaith y bydd gennych gwsmer sy’n ystyried eich busnes, mae’n bryd codi stêm gyda’ch strategaeth farchnata ddigidol. Yn ystod y cam hwn, bydd eich busnes yn anfon e-byst; yn cynhyrchu cynnwys gwych sy’n rhoi atebion rhag blaen i gwestiynau posibl cwsmeriaid. Bydd hyn yn ei dro yn ennyn ymddiriedaeth, yn adeiladu perthnasau ac yn amlygu eich busnes fel yr arbenigwr yn y diwydiant.

Hoffech chi ddysgu mwy am farchnata effeithiol busnes-i-fusnes? Mae gradd Marchnata unigryw Prifysgol Wrecsam Wrecsam yn cynnig mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) yn galluogi pobl broffesiynol i ddatblygu’r sgiliau pwysig y mae gofyn i farchnatwyr uwch feddu arnynt, yn cynnwys marchnata strategol, cynllunio at gyfathrebiadau integredig, creadigrwydd, arloesed a deall ymddygiad cwsmeriaid. Mae’n ymdrin â disgyblaethau busnes fel cyllid a rheolaeth adnoddau dynol at yn datblygu sgiliau ymarferol a  damcaniaethol ar sut i arwain busnes.

Mae’r MBA yn canolbwyntio ar yrfa a chaiff ei arwain gan ddiwydiant; mae ein perthnasau dwfn gyda phrif gyflogwyr yn bwydo i gynnwys y rhaglen i lunio MBA sy’n bwrpasol ar gyfer gwell gyrfa ledled amrywiaeth eang o sectorau yn y byd gwaith modern. Mae’n gwbl ar-lein, felly gallwch astudio yn eich pwysau eich hun. Gyda chwe chychwyn y flwyddyn , gallwch ddechrau ymhen wythnosau. Mae yna ddewisiadau talu hyblyg a benthyciadau llywodraeth ôl-radd i dalu am gostau’r rhaglen yn llawn, i’r rheini sy’n gymwys.

Os ydych am ddysgu mwy am sut gall marchnata ar-lein MBA eich helpu i adeiladau gyrfa farchnata busnes-i-fusnes llwyddiannus, ewch i https://online.wrexham.ac.uk/mba-marketing/ heddiw.