Mae gan sector nid-er-elw y DU rôl hanfodol o ran mynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, hyrwyddo achosion a meithrin datblygu cymunedol.
Fodd bynnag, fel yn achos unrhyw sector arall, mae sefydliadau nid-er-elw yn wynebu nifer o heriau. Caiff gwaith nid-er-elw ei nodweddu fel arfer gan adnoddau prin ac amcanion sy’n seiliedig ar genhadaeth, felly rhaid cael arweinyddiaeth effeithiol er mwyn gallu delio â’r heriau hyn – a bachu ar gyfleoedd pan fo modd. Yn gryno, os yw arweinwyr sefydliadau nid-er-elw yn dymuno esgor ar wahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau a wasanaethant, rhaid iddynt fod yn arloesol ac yn hyblyg a rhaid iddynt ymrwymo’n llwyr i greu effaith gymdeithasol.
Cipolwg ar sector nid-er-elw y DU
Mae sector nid-er-elw y DU yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau, gan amrywio o fentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol bach i elusennau rhyngwladol mawr, ac maent yn gweithredu ar draws amryfal feysydd, yn cynnwys iechyd, addysg, yr amgylchedd a gwasanaethau cymdeithasol. Ond caiff pob un ohonynt eu huno gan eu hymrwymiad i hyrwyddo cenhadaeth gymdeithasol neu amgylcheddol, yn hytrach na chynhyrchu elw ar gyfer rhanddeiliaid. Bydd incwm y sefydliadau hyn yn dibynnu ar bethau fel codi arian, rhoddion, grantiau, cyfraniadau gan y llywodraeth a ffynonellau tebyg i gynnal eu gweithrediadau ac ysgogi eu gwaith.
Yn ôl PolicyBee mewn erthygl sy’n sôn am ystadegau’r sector nid-er-elw: “Over 168,000 charities appeared on the Charity Commission’s register as of March 2023. And between March 2023 and January 2024, another 1,000 charities have been registered. However, the full size of the sector is unknown, since only not-for-profits with a gross annual income of £5,000 or more have to register.”
Sefydliadau nid-er-elw – tueddiadau a heriau cyfredol
Ar hyn o bryd, mae cymysgedd cymhleth o dueddiadau a heriau’n dod i ran sefydliadau nid-er-elw, ac mae nifer o’r tueddiadau a’r heriau hyn wedi cael eu gwaethygu gan ffactorau fel y pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw a’r dirwasgiad dilynol, ac anghenion a disgwyliadau cyfnewidiol y gymdeithas.
Gan fod llai o bobl yn gallu cyfrannu rhoddion a chan fod mwy o bobl yn troi at sefydliadau nid-er-elw am gymorth, gwelir bod y tirlun ‘codi arian’ yn fwyfwy cystadleuol – ac yn fwyfwy dibynnol ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar blatfformau ar-lein eraill i ymgysylltu â rhanddeiliaid a sicrhau cyllid. O’r herwydd, mae sefydliadau nid-er-elw wedi gorfod delio â phrinder adnoddau tra’n ymlafnio i gynnal gweledigaeth eu sefydliad.
Yn ychwanegol at hyn, mae problemau fel lludded ymhlith y staff, yn ogystal â bygythiadau seiberddiogelwch a’r angen cynyddol am raglenni trawsnewid digidol, yn bryderon taer i arweinwyr sefydliadau nid-er-elw.
Arweinyddiaeth yn sector nid-er-elw y DU
Mae arweinyddiaeth mewn sefydliadau nid-er-elw yn cwmpasu amrywiaeth eang o rolau, o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau bwrdd i brif swyddogion ariannol a phrif swyddogion gweithredu, ac mae pob un ohonynt yn cyfrannu at gyfeiriad strategol eu sefydliadau, gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros effeithiolrwydd gweithredol.
Yn wahanol i sefydliadau sy’n anelu at wneud elw, lle mae’r dull arwain yn aml yn hierarchaidd ac yn cael ei ysgogi gan elw, rhaid i arweinwyr sefydliadau nid-er-elw gydbwyso stiwardiaeth ariannol ag ymrwymiad pwysicach a mwy cydweithredol i greu effaith gymdeithasol. Rhaid i’r arweinwyr hyn feddu ar set sgiliau strategol, ond hefyd rhaid iddynt fod yn danbaid dros eu cenhadaeth a rhaid iddynt fod yn ddigon gwydn i wynebu heriau.
Strwythurau arwain sefydliadau nid-er-elw
Fel arfer, mae strwythurau arwain sefydliadau nid-er-elw yn cynnwys bwrdd cyfarwyddwyr a chyfarwyddwr gweithredol neu brif swyddog gweithredol. Bydd y bwrdd yn llywodraethu ac yn goruchwylio cyfeiriad strategol ac iechyd ariannol y sefydliad, a bydd y cyfarwyddwr gweithredol yn rheoli gwaith cynllunio strategol a gweithgareddau beunyddiol er mwyn cyflawni diben y sefydliad. Er mwyn i’r ddynameg hon lwyddo, rhaid cael cydberthnasau gweithio cydweithredol rhwng aelodau’r bwrdd a swyddogion gweithredol nid-er-elw er mwyn sicrhau y bydd y nodau strategol yn cyd-fynd â’r penderfyniadau a’r realiti gweithredol.
Deall pwysigrwydd arweinyddiaeth dda mewn sefydliadau nid-er-elw
Mae arweinyddiaeth effeithiol yn hanfodol i gryfder a llwyddiant unrhyw fusnes; ond i sefydliadau nid-er-elw, mae gan arweinyddiaeth dda ail bwrpas, hefyd – mae’n effeithio’n uniongyrchol ar allu’r sefydliad i feithrin cynaliadwyedd ac ymddiriedaeth y cyhoedd a’i allu i greu effaith barhaus, a’r cwbl yn enw achos da.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng rheolaeth strategol mewn sefydliadau sy’n anelu at wneud elw a rheolaeth strategol mewn sefydliadau nid-er-elw?
Yn naturiol, mae rheolaeth strategol mewn sefydliadau nid-er-elw yn wahanol i reolaeth strategol mewn busnesau sy’n anelu at wneud elw, oherwydd mae sefydliadau nid-er-elw yn rhoi pwyslais ar effaith gymdeithasol yn hytrach nag ar enillion ariannol. Er enghraifft, efallai y bydd busnesau sy’n anelu at wneud elw yn fwy bodlon cymryd risgiau ariannol, neu efallai y byddant yn canolbwyntio mwy ar gynhyrchion neu fetrigau gwerthu.
Ond bydd arweinwyr sefydliadau nid-er-elw wastad yn rhoi blaenoriaeth i fentrau a phartneriaethau sy’n sbarduno eu nodau cymdeithasol. Byddant yn canolbwyntio ar yr effeithiau yn y tymor hir yn hytrach nag ar yr enillion yn y tymor byr, a byddant yn mynd ati i gynllunio’n strategol gyda golwg ar gyflawni amcanion cymdeithasol, gan ategu gweithgareddau codi arian a meithrin ymwybyddiaeth yn ehangach.
Y modd y gall arweinyddiaeth ymdrin â heriau mewn sefydliadau nid-er-elw
Gall arweinwyr y sector nid-er-elw ddilyn sawl llwybr gwahanol ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau unigryw sy’n eu hwynebu.
Er enghraifft, trwy adeiladu sefydliadau ar sail nodweddion fel hyblygrwydd a gwytnwch, gellir helpu i ddiogelu darparwyr nid-er-elw rhag pwysau a thueddiadau allanol; a gall arloesi a chydweithredu greu sefydliadau sy’n canolbwyntio mwy ar y dyfodol – sefydliadau a fydd wedi ymbaratoi’n well i fanteisio ar gyfleoedd a ddaw i’r amlwg.
Yng ngoleuni’r tueddiadau a welir yn y sector nid-er-elw ar hyn o bryd, mae’n bwysig hefyd i sefydliadau nid-er-elw roi strategaethau effeithiol ar waith ar gyfer codi arian, a dylent hyd yn oed ystyried datblygu partneriaethau gyda sefydliadau eraill – yn cynnwys sefydliadau yn y sector preifat – er mwyn cryfhau eu sefyllfa. Hefyd, yn yr oes fwyfwy digidol sydd ohoni, mae’n bwysig i sefydliadau nid-er-elw ddatblygu ochr yn ochr â sefydliadau yn y sector preifat er mwyn iddynt allu diogelu eu gweithrediadau ar-lein a gwella’u gallu i wasanaethu cymunedau.
Archwilio cyfleoedd arwain unigryw yn y sector nid-er-elw
Mae’r cyfleoedd sydd ar gael i arweinwyr sefydliadau nid-er-elw yn wahanol i unrhyw gyfle arall.
Mewn sefydliadau nid-er-elw, gall arweinwyr lywio newid cymdeithasol, dylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae ganddynt gyfle i ddefnyddio grym gweithredu ar y cyd a chreu mentrau arloesol a fydd yn mynd i’r afael â materion cymdeithasol taer, o newid hinsawdd i annhegwch cymdeithasol.
Mae’n amlwg bod gwaith sefydliadau nid-er-elw yn cynnig cyfle prin i hyrwyddo newid cymdeithasol – yn ogystal â thwf personol a phroffesiynol – mewn amgylchedd sy’n llawn cymorth, mentoriaid a chyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth.
Arwain a llwyddo mewn rheoli gofal iechyd nid-er-elw
Camwch ymlaen yn eich gyrfa yn y sector gofal iechyd nid-er-elw gyda chwrs MBA Rheoli Gofal Iechyd a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, sy’n rhan o Brifysgol Wrecsam. Lluniwyd y cwrs gradd MBA hyblyg hwn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol uchelgeisiol a darpar arweinwyr gofal iechyd sy’n dymuno camu ymlaen ymhellach ac yn gyflymach trwy ddatblygu eu dealltwriaeth o reoli ac arwain.
Byddwch yn archwilio heriau – ac atebion – sy’n ymwneud yn benodol ag arwain yn y sector gofal iechyd, yn ogystal â phynciau hanfodol eraill fel ymarfer proffesiynol a gweithredu strategol mewn gofal iechyd, rheoli perfformiad yn effeithiol, ac arloesi a newid creadigol.