Cwrs MBA 100% ar-lein

Paratoi i lwyddo. Enillwch radd MBA o ansawdd uchel o brifysgol sy'n cael ei harwain gan ddiwydiant ac sy'n canolbwyntio ar yrfa

  • Apply By: 28 August 2025
  • Apply By: 08 September 2025

100% online

Accelerated degrees

Flexible payment options

Manteision allweddol

[key_benefits first=”MBA 100% Ar-lein o fewn 24 mis”]

 

Mae’r radd MBA cyfan gwbl ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer gweithiwyr proffesiynol sydd eisiau datblygu gwybodaeth fusnes a sgiliau arwain i symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa neu newid cyfeiriad yn llwyr.

Gyda’r rhaglen hon gallwch nawr ffitio astudio o gwmpas eich bywyd – ar unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais. I gynnig hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, mae yna chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, opsiwn i dalu fesul modiwl ac mae’r llywodraeth yn cynnig benthyciadau ôl-raddedig i ymgeiswyr cymwys.

Fel rhan o Brifysgol Wrecsam, yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru rydym yn ymfalchïo yn ein sgoriau uchaf am gyflogadwyedd a’n harbenigedd mewn dysgu rhan amser a hyblyg.

Ynghylch y rhaglen MBA hon

Mae’r rhaglen MBA hon yn cael ei chyflwyno yn gyfan gwbl ar-lein ac fe’i cynlluniwyd i ddatblygu dealltwriaeth eang o fusnes gyda set o sgiliau busnes ymarferol sy’n darparu’r sylfaen i yrfa gyflym a llwyddiannus yn eich cyfeiriad dewisol. Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys strategaeth, marchnata, Rheoli Adnoddau Dynol a Chyllid, ac yn datblygu sgiliau megis creadigrwydd, arloesedd ac ystod o dechnegau dadansoddol.

Rhaglen MBA sy'n canolbwyntio ar yrfa i'ch paratoi i lwyddo yn y byd sydd ohoni heddiw