Tirwedd wleidyddol ac addysgeg plentyndod cynnar yn y DU
Postiwyd ar: Gorffennaf 3, 2024gan Ben Nancholas
Mae addysg a gofal plentyndod cynnar (AGPC) yn cyfeirio at ddarpariaeth ac ariannu addysg a gofal plant y llywodraeth a ddarperir mewn lleoliadau a reoleiddir – megis ysgolion meithrin, canolfannau dysgu cynnar, darparwyr gofal dydd, a chanolfannau plant – o enedigaeth hyd at ddechrau mewn ysgol gynradd.
Gall AGPC o ansawdd uchel gael effaith cadarnhaol ar ddatblygiad gwybyddol plant a’u deilliannau emosiynol cymdeithasol, ymddygiadol ac addysgol, yn y tymor byr a hirdymor. Mae o gymorth i hyrwyddo parodrwydd ar gyfer ysgol, codi lefelau cyrhaeddiad, cau’r bwlch canlyniadau rhwng plant difreintiedig a phlant eraill, a pharatoi’r ffordd ar gyfer dysgu gydol oes.
Mae AGPC yn Lloegr fodd bynnag, yn wynebu sawl her bwysig – a phandemig COVID-19 heb helpu’r un ohonynt
- Mae darparwyr blynyddoedd cynnar yn cau yn gyflym iawn, a hynny oherwydd toriadau mewn cyllidebau a chynnydd mewn costau gweithredu.
- Mae heriau recriwtio’n bla yn y sector – yn cynnwys gofalwyr plant.
- Mae rhieni a gofalwyr yn ei chael hi’n anodd bodloni costau gofal plant sydd fwyfwy yn cymryd rhan fawr o incwm net teulu.
- Mae plant yn dioddef o anghysondeb mewn addysg a gofal.
Os na fydd modd mynd i’r afael â’r heriau hyn yn ystyrlon, a bod ymyrraeth gynnar ac effeithiol mewn deilliannau ac addysg plant yn cael blaenoriaeth, bydd cyfleoedd dysgu plant – a datblygiad plant ar raddfa ehangach – yn parhau i ddioddef.
Sut mae bywyd plant ifanc wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf?
Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae’r cyd-destun lle darperir AGPC wedi newid yn sylweddol, o ganlyniad i dwf sector a darpariaeth fwy cyffredinol – sydd wedi cael effaith ar fywydau plant ledled y DU.
Mae ‘The Changing Face of Early Childhood in the UK’, cyfres o astudiaethau wedi eu hariannu gan Sefydliad Nuffield, wedi nodi bod dwy thema allweddol i blant ifanc: natur newidiol bywyd teuluol a strwythur teuluol a bod y goblygiadau gaiff hyn ar ddiogelwch economaidd, datblygiad a llesiant, a’r anghydraddoldeb rhwng plant a phobl ifanc. Mae’n rhaid i’r AGPC, sy’n ganolog i’r themâu hyn, ddarparu ar sail ansawdd, effeithiolrwydd a chynaliadwyedd.
Mae’r astudiaethau’n rhannu’r prif wersi canlynol.
- Mae bron i bob plentyn bellach yn cael profiad o ryw gyfuniad o AGPC ffurfiol ac anffurfiol ymhell cyn iddynt ddechrau’r ysgol.
- Er gwaethaf cryn fuddsoddiad, nid oes yna weledigaeth genedlaethol gydlynol ar gyfer AGPC
- Mae anghydraddoldeb yn bodoli o ran yr hawl, y nifer sy’n hawlio a’r deilliannau.
- Er gwaethaf twf sylweddol yn y nifer o blant sy’n ceisio AGPC yn y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau wedi cael trafferth datrys y cyfnewid rhwng ansawdd ac ansawdd gofal ac addysg.
- Mae ansawdd y gweithlu AGPC yn allweddol i wella deilliannau i blant ifanc.
Mae strwythurau tameidiog, amrywiadau daearyddol sy’n peri pryder, newid mewn polisi ac arfer addysgu, diffyg dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd mewn rhai cymunedau, wedi ei gwneud hi’n hanfodol i lunwyr polisi, awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill adolygu’r system gyfan.
Beth yw safbwynt presennol llywodraeth y DU ar addysg a gofal plentyndod cynnar
Nododd yr Adran Addysg fod disgwyl i’r llywodraeth wario mwy nag £8 biliwn bob blwyddyn, erbyn 2028, i ariannu 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos i blant dros naw mis oed. Dyma’r ‘buddsoddiad unigol mwyaf mewn gofal plant yn Lloegr erioed’.
Nod y newidiadau mewn polisi hyn sy’n ymwneud â darpariaeth blynyddoedd cynnar yw grymuso rhieni a chaniatáu iddynt ganolbwyntio ar eu gyrfa, law yn llaw â chynorthwyo eu teuluoedd ifanc. Mae disgwyl i’r hawliadau newydd gael eu cyflwyno mewn cyfnodau:
- O fis Ebrill 2024, bydd gan bob rhiant i blentyn dyflwydd oed sy’n gweithio yr hawl i 15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos.
- O fis Medi 2024, bydd gan bob rhiant i blentyn naw mis hyd at dair oed sy’n gweithio yr hawl i 15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos.
- O fis Medi 2025, bydd gan bob rhiant i blentyn naw mis hyd at dair oed sy’n gweithio yr hawl i 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos.
Wrth i’r buddsoddiad hwn gael ei groesawu, mae dal angen mentrau a diwygio strwythurol o fewn y system AGPC os yw’r gweithredu’n mynd i fod yn wirioneddol effeithiol. Gall dyrannu arian a chynaliadwyedd, yn enwedig, effeithio’n anghyfartal ar rieni a phlant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig – problem benodol pan mai demograffeg y plant hyn all elw fwyaf o AGPC effeithiol. Yn ogystal â phryder addysgol beirniadol, mae hefyd yn broblem o gyfiawnder cymdeithasol.
Beth yw’r prif ddulliau addysgeg mewn addysg plentyndod cynnar?
All arferion addysgeg penodol ysgogi datblygiad plentyndod cynnar yn well? Sur mae’r system addysg yn Lloegr a gofal plentyndod cynnar yn llwyddo yn nhermau ei dull addysgeg?
Mae dull addysgeg Lloegr i addysg gynnar a chyn ysgol yn pwysleisio dysgu seiliedig ar chwarae a pherthnasedd oedran, ac yn annog y defnydd hyblyg o wahanol ddulliau ac arferion sy’n cyd-fynd. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygiad parhaus plentyn sy’n rhychwantu AGPC a thu hwnt, ac yn cynnwys cymarebau staff ffafriol. Mewn gwirionedd, mae cymhareb staff-plentyn Lloegr o 1:8 hyd at 1:13 ar gyfer plant tair oed a hŷn cyn-ysgol (yn ddibynol ar gymwysterau staff) yn well chyfartaledd OECD.
Mae’r prif ddulliau addysgeg mewn addysg blynyddoedd cynnar yn cynnwys:
- Dull yn seiliedig ar chwarae. Mae dysgu drwy chwarae yn galluogi plant i wneud synnwyr o’r byd ac ymgysylltu’n weithredol gyda phobl, gwrthrychau a syniadau. Mae chwarae yn caniatáu iddynt arwain, gwneud eu penderfyniadau eu hunain mewn amgylchedd diogel (lle nad oes atebion anghywir na goblygiadau), a gwneud camgymeriadau. Mae’n aml yn cynnwys chware rôl, chware dychmygol, chwarae byd bach, a chwarae archwiliadol a chorfforol.
- Dull seiliedig ar thema Mae’r dull hwn yn trefnu gweithgareddau chwarae a dysgu – gan gwmpasu pob pwnc a sgiliau – o gylch testun penodol neu thema gwricwlaidd. Er enghraifft, mae themâu poblogaidd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn cynnwys ‘bwystfilod bychan’, ‘y fforest law’, ‘tebygrwydd a gwahaniaethau’ ac ‘o dan y môr’.
- Dull seiliedig ar weithgaredd Nod dysgu seiliedig ar weithgaredd yw dysgu sgiliau a gwybodaeth drwy weithgareddau a thasgau creadigol (er enghraifft, sgiliau allweddol llythrennedd a rhifedd), gan eu galluogi i amsugno gwybodaeth a datblygu eu hyder a gallu mewn ffyrdd gweithredol ac ymgysylltiol.
- Dull seiliedig ar ymchwil/prosiect Mae plant yn cael eu hannog i greu cysylltiadau byd go iawn drwy archwilio, dysgu arbrofol, datrys problemau a chwestiynu. Mae’n gosod plentyn yng nghanol y broses ddysgu ac yn meithrin chwilfrydedd cynhenid.
Mae gan y pedair cenedl yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru) bolisi a chwricwlwm unigryw mewn perthynas ag AGPC. I’r rhai sydd â diddordeb, mae ‘Understanding Early Years Education across the UK’ (Routledge, 2016, Llundain/Efrog Newydd) yn archwilio cymariaethau rhwng y DU gyfan yn nhermau cyd-destunau cymdeithasol, addysgeg a pholisi.
Hyrwyddo datblygu plentyndod cynnar trawsnewidiol, fforddiadwy a hylaw
Ydych chi’n frwdfrydig dros wella profiadau a deilliannau plentyndod ifanc? Ydych chi eisiau gwella ansawdd AGPC cyn i blant ddechrau addysg gynradd ffurfiol?
Dewiswch gwrs meistr, 100% ar-lein, sy’n canolbwyntio ar yrfa ac wedi ei ddylunio i’ch cynorthwyo i ragori mewn arfer addysgol, gyda’r rhaglen MA Addysg a Phlentyndod Cynnar ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru.
Datblygwch ddealltwriaeth fanwl o ddamcaniaeth ac arfer addysgol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar amgylcheddau dysgu cyfnod sylfaen a phrofiadau a chyd-destunau profiadau plentyndod cynnar. Byddwch yn archwilio sut mae ymchwil addysgol, damcaniaeth, polisi, a chymhwysedd ymarferol yn cydblethu gyda chyd-destunau proffesiynol a diwylliannol, gan wella eich rôl addysgol a datblygiad proffesiynol eich hun. Byddwch yn ennill mewnwelediad manwl i faterion cyfoes a’r heriau sy’n wynebu’r sector drwy ystod o destunau ymgysylltiol, hynod o hyblyg: arfer cynhwysol a chynorthwyo plant gydag anawsterau dysgu, datblygiad cynnar plant, problemau plentyndod cynnar cyfoes, llesiant a gwytnwch, mentora a hyfforddi, datblygiadau polisi cyhoeddus, technolegau addysgol, ac addysgeg feirniadol.