Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Pwysigrwydd cymryd seiberddiogelwch yr un mor ddifrifol â diogelwch ffisegol

Postiwyd ar: Ionawr 26, 2022
gan
Hands on a laptop with a hologram of a padlock overlaying it

Mae pob busnes yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch ffisegol. Mewn amgylchedd manwerthu, byddwch yn aml yn gweld swyddogion diogelwch ar lawr siop, gorchuddion diogelwch metel dros y drws pan mae’r siop ar gau i atal lladron rhag cael mynediad, a chamerâu TCC tu mewn a thu allan i atal lladrad a fandaleiddio.

Mewn ardaloedd swyddfa, yn ogystal â staff diogelwch sydd wedi eu gosod yn y dderbynfa, fe welwch yn aml systemau goruchwylio fideo i gadw golwg ar bwy sy’n mynd i mewn ac allan, a rhwystrau ffisegol i fynd i mewn i fannau gwaith megis giatiau tro neu systemau rheoli mynediad sydd dim ond yn gweithio gyda chardiau adnabod neu god mynediad.

Wrth i fusnesau ddod yn gynyddol ddigidol, mae yna alw cynyddol ar bob sefydliad i amddiffyn, nid yn unig eu hardaloedd ffisegol, ond eu hardaloedd digidol a’u canolfan ddata ddigidol hefyd, lle cedwir gwybodaeth sensitif.

Ffurfiau cyffredin o ymosodiadau seiber

Torri rheolau data yw pan mae rhywun yn cael mynediad i wybodaeth sensitif neu gyfrinachol heb ganiatâd, a hynny’n aml gan haciwr sy’n dwyn y wybodaeth er mwyn ei werthu.

Mae’r torri rheolau’n digwydd drwy’r mathau canlynol o ymosodiadau seiber:

  • Mae meddalwedd wystlo yn ymosodiad aml-gam lle mae’r hacwyr fel arfer yn ymdreiddio a heintio rhwydwaith y targed, gan amgryptio cymaint o ddata â phosib, ac yna’n gyrru nodyn pridwerth yn dweud y byddant yn rhyddhau’r data am bris (ond yn aml iawn, ni fyddent yn rhyddhau’r data wedi i’r arian newid dwylo).
  • Meddalwedd, yn aml ar ffurf feirws, ydi maleiswedd sydd wedi’i gynllunio i gael mynediad i gyfrifiadur er mwyn dwyn data a dinistrio system y cyfrifiadur.
  • Sgam e-bost ydi gwe-rwydo ac mae hyn yn digwydd yn rhan fwyaf o’r achosion o dorri rheolau data. Mae negeseuon e-bost amheus yn cael eu hanfon at darged ac wrth iddyn nhw wedyn ddilyn dolen neu lawrlwytho atodiad bydd eu cyfrifiadur, a rhwydwaith cyfrifiadurol eu cwmni, mewn perygl.

Cynnydd mewn torri rheolau data yn ystod y pandemig

Cadarnhawyd bod dros 3,950 achos o dorri rheolau data wedi digwydd mewn busnesau ledled y byd yn ystod 2020, gan gynnwys 500,000 o gyfrifon telegynadleddau Zoom yn cael eu darganfod ar werth ar y we dywyll. Wrth i fwy o bobl weithio gartref yn ystod y pandemig, roedd mwy o bobl yn agored i niwed drwy ymosodiadau seiber wrth i lawer gwblhau tasgau dydd i ddydd a rhyngweithio gyda chydweithwyr yn gyfan gwbl ar-lein.

Roedd angen i 54% of sefydliadau weithio o bell mewn ymateb i Covid-19, ac fe gynyddodd costau torri rheolau data yn yr Unol Daleithiau $137,000 o ganlyniad i’r cynnydd mewn gweithio o bell. Yn ogystal, dywedodd 76% o gyfranogwyr Adroddiad Torri Rheolau Data IBM bod gweithio o bell wedi cynyddu’r amser yr oedd yn ei gymryd i adnabod ac atal achos o dorri rheolau data, gyda chwmnïau wedyn yn wynebu risg cynyddol. Tra bod gan adeiladau systemau larwm sy’n ymateb i fygythiadau diogelwch, mae bygythiadau digidol yn aml yn methu cael eu gweld hyd nes iddynt ddod yn broblem enfawr ac yna gael eu datrys.

Pam bod torri rheolau data yn digwydd?

Pan dargedir cwmni, cymhelliant ariannol sydd gan yr haciwr. Wrth gaffael gwybodaeth bersonol a data, gallant ei werthu am arian mawr. Mewn rhai achosion, bydd ymosodiad seiber yn gallu twyllo gweithiwr i anfon arian drwy drosglwyddiad banc wrth i’r haciwr gymryd arnynt eu bod yn rhywun uchel o fewn y cwmni.

Hyd yn oed mewn achosion pan nad yw arian yn cael ei gymryd yn uniongyrchol, gall torri rheolau diogelwch fod yn niweidiol iawn i enw da cwmni a chostio llawer o arian os yw systemau yn cael eu cymryd oddi ar-lein – byddant yn colli busnes dros dro ac yn wynebu costau atgyweirio.

Wrth i dorri rheolau o fewn busnesau barhau, mae’n amlwg nad yw llawer o gwmnïau’n barod neu wedi’u diogelu rhag y risg ddiogelwch ddigidol hon.

Mae’n bwysig bod pob cwmni yn cynnal asesiad risg o’u diogelwch gwybodaeth a’u hamddiffynfeydd digidol corfforaethol yn erbyn torri rheolau, a hynny’n rheolaidd. Yn union fel y mae timau diogelwch yn ymwybodol ac yn wyliadwrus o fannau gwan mewn mynediad i adeilad, dylai tîm TG wybod lle mae eu mannau gwan digidol er mwyn lliniaru ymosodiadau seiberddiogelwch cymaint â phosib.

Sut i wella mesurau diogelwch digidol

Gall cwmni wella eu mesurau diogelwch digidol mewn sawl ffordd gan rwystro ymosodiadau seiber rhag digwydd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lleihau mynediad i’r data mwyaf gwerthfawr – Gan fod data yn eithriadol o broffidiol i hacwyr, mae sicrhau mai dim ond staff allweddol sydd â mynediad iddo yn bwysig. Gellir gwneud hyn drwy amgryptio’r data a chael cyfrinair i’w ddiogelu, tra’n cadw golwg ar bwy sydd â mynediad iddo. Yn union fel mae cloi eitemau gwerthfawr yn ddiogel mewn cwpwrdd mewn ardaloedd ffisegol yn eu cadw’n ddiogel, gallwch gloi eich data digidol yn ddiogel fel nad oes modd cael mynediad hawdd iddo.
  • Hyfforddi eich gweithwyr ar ymwybyddiaeth diogelwch – Mae’r ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin a thorri rheolau data yn digwydd pan mae gweithwyr yn agor e-bost amheus, felly gall cael system hyfforddi ddibynadwy mewn lle i alluogi gweithwyr i weld, osgoi, a rhybuddio timau TG o hyn fynd ymhell i rwystro bygythiadau diogelwch.
  • Gwahardd y defnydd o ddyfeisiau symudol – Mae’r polisi diogelwch hwn mewn lle eisoes gan sawl cwmni, ond yn aml nid yw pobl yn ymwybodol bod defnyddio dyfeisiau symudol yn golygu risg uchel o ymosodiadau seiberddiogelwch. Drwy wahardd y defnydd ohonynt yn llwyr, mae modd i fusnesau sicrhau lefelau uwch o amddiffynfeydd.
  • Diweddaru meddalwedd yn rheolaidd – Pan nad yw rhwydwaith yn cael ei gyweirio a’i ddiweddaru’n rheolaidd, efallai y bydd yn agored i ddifrod gan ymosodiadau. Wrth gael tîm yn ei le i ofalu am hyn, mae’n ddull hawdd a chost effeithiol o wella dulliau diogelwch digidol.
  • Datblygu cynllun ymateb i dorri rheolau seiber – Pe byddai torri rheolau data yn digwydd yn eich man gwaith, rydych angen gwybod y bydd rhywun yn delio ag o yn gyflym ac effeithlon. Mae gallu cael cwmni nôl ar-lein yn bwysig, ac felly hefyd sicrhau ffydd ac ymddiriedaeth eich sylfaen cwsmeriaid bod eu gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac y byddwch yn delio â sefyllfaoedd yn gyflym mewn achos o dorri rheolau.

Dysgu sut i wneud busnes yn fwy diogel.

Gan fod torri rheolau data ar gynnydd, mae mwy o fusnesau nag erioed yn chwilio am weithwyr proffesiynol seiberddiogelwch medrus a all gadw eu gwybodaeth sensitif yn ddiogel a’i amddiffyn rhag ymosodiadau seiber.

Mae Seiberddiogelwch 100% ar-lein MBA Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn gwrs rhan amser fel bod modd iddo gyd-fynd â’ch ymrwymiadau presennol. Bydd y cwrs gradd hwn yn dysgu rheolaeth risg allweddol a mesurau rheolaeth seiberddiogelwch ichi, bydd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr o dechnolegau seiberddiogelwch, a’ch arfogi gyda thechnegau i ddiogelu technolegau busnes digidol y gallwch eu cymhwyso i fyd gwaith go iawn.

Gwthiwch eich gyrfa ymhellach gyda MBA arbenigol, a dewch yn fyfyriwr graddedig y mae gofyn amdanoch ym maes prysur seiberddiogelwch.