Sut mae datblygu ac annog creadigrwydd ac arloesedd
Postiwyd ar: Gorffennaf 19, 2021gan Ruth Brooks
Mae creadigrwydd ac arloesedd yn hanfodol i oroesiad a thwf unrhyw fusnes. Er eu bod yn swnio fel yr un peth, maent yn wahanol iawn ac mae pob un yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol, felly mae’n bwysig bod gan dîm o fewn gweithle sgiliau ar gyfer y ddau.
Er, mae’n debyg y bydd pob arweinydd yn nodi pwysigrwydd creadigrwydd ac arloesodd pan ofynnir iddynt beth sydd ei angen ar eu sefydliad i oroesi, sut ydych chi’n sicrhau bod y rhain yn bosibiliadau gweithredadwy yn hytrach na geiriau allweddol a daflir o gwmpas mewn sesiynau taflu syniadau?
Beth yw creadigrwydd ac arloesedd?
Diffinnir creadigrwydd fel y weithred o feddwl yn greadigol – meddwl am syniadau newydd ar gyfer cynnyrch newydd, gwella cynnyrch presennol, neu sefydlu dulliau newydd ar gyfer y ffordd o weithio a fydd yn gwella cynnig neu berfformiad cwmni. Mae’r broses greadigol yn cynnwys sgiliau datrys problemau a meddwl wysg eich ochr, er y daw hynny i ben pan ffurfir y syniad.
Pan gymerir a datblygir syniadau creadigol yn rhywbeth cadarn, y mae gwir arloesi yn digwydd. Mae’r broses arloesi yn cynnwys datblygu cynnyrch neu greu proses newydd ac fe’i cyflawnir pan fydd y canlyniad terfynol yn gwbl weithredol yn y byd go iawn.
Creu syniad neu gysyniad newydd yw dyfeisio, ar y llaw arall. Mae’n mynnu meddwl yn greadigol a dyfeiswyr i’w ddwyn i fodolaeth, ond dyma’r broses o ddatblygu syniadau cwbl wreiddiol yn gynhyrchion neu wasanaethau cadarn nad ydynt yn bodoli yn unman arall eto.
Sut mae datblygu creadigrwydd
Creda nifer o bobl fod creadigrwydd yn rhywbeth y cewch eich geni ag ef. O ganlyniad i ymchwil a gynhaliwyd yn y 1960au, mae’r syniad o bobl ag ymennydd chwith ac yn canolbwyntio mwy ar resymeg, dadansoddeg a gwyddoniaeth, neu ag ymennydd de ac yn fwy creadigol ac artistig wedi teyrnasu.
Er bod y syniad yn parhau i gael ei ddefnyddio heddiw, ni chrybwyllir yn aml fod y rhaniad hwn wedi’i greu yn artiffisial. Pan ddaeth hi’n bosibl gweld ymenyddiau cysylltiedig, iach drwy sganio fMRI yn y 1990au, darganfuwyd mai’r bont rhwng hemisfferau’r ymennydd, y corpus callosum, sy’n gyfrifol am syniadau creadigol. Yr allwedd i greadigrwydd yw integreiddio ochr chwith ac ochr dde’r ymennydd, a thanio cysylltiadau ochrol, cryf rhwng y ddwy.
Os ydych erioed wedi meddwl nad ydych yn unigolyn creadigol, mae’n debyg oherwydd nad ydych yn dda am arlunio’n draddodiadol, y newyddion da yw bod gennych greadigrwydd ynoch a gallwch ddysgu i ddatblygu meddylfryd creadigol.
Ar ôl i chi annog eich ymennydd i feddwl yn greadigol unwaith, bydd yn dod yn arferiad y gallwch ei fabwysiadu yn eich bywyd personol a phroffesiynol. Gallwch ymarfer drwy eistedd mewn man tawel a gadael eich meddwl i grwydro – ewch ati i herio eich hun i feddwl am sawl syniad ynghylch problem a pheidio â diystyru unrhyw beth a ddaw i’ch meddwl, cael gwared ar bethau sy’n tynnu eich sylw drwy roi popeth digidol o’r neilltu a chymryd seibiant o’ch sgriniau neu sgrolio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, sicrhau bod gennych weithfan neu le byw taclus, ac ymarfer myfyrio. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod gweithgareddau diwylliannol fel mynd i’r theatr neu ddarllen ffuglen yn cryfhau’r cysylltiad rhwng dwy ochr yr ymennydd, gan annog proses meddwl yn greadigol.
Sut mae annog arloesedd a chreadigrwydd yn y gweithle
Mae gan nifer o gwmnïau yn y byd heddiw ffyrdd diddorol o feithrin arloesedd a chreadigrwydd yn eu gweithleoedd. I rai, yn cynnwys Google a Nike, mae cymryd ymagwedd o annog llesiant yn eu staff ar gyfer lefelau cynhyrchiant uwch wedi’u gweld yn cyflwyno podiau cysgu neu le i bendwmpian yn eu swyddfeydd.
Er nad yw mannau cysgu yn bosibl i bob busnes, mae sawl ffordd arall y gall cwmni annog syniadau creadigol ymysg eu staff serch hynny. Mae cael amgylchedd lle croesawir syniadau newydd gan staff ar bob lefel a chlywir ac ystyrir pob syniad yn creu lle diogel i staff gynnig awgrymiadau, fel y mae bod yn agored i gymryd risgiau pan ddaw syniad newydd a chyffrous i’r fei. Mewn rhai achosion, gall annog entrepreneuriaeth fod yn ddatrysiad cadarnhaol.
Gall unigolion creadigol sy’n dymuno cynyddu eu gallu i arloesi gael budd o gyfaill yn cydweithio â nhw, boed hynny i daflu syniadau gyda’i gilydd neu annog y naill a’r llall i roi cynnig ar bethau newydd. Nid oes rhaid i weithredu creadigrwydd ac arloesedd olygu newid radical mawr ychwaith, mae dewis prosiectau bach i’w gwella yn arwain at ganlyniadau mawr, boed hynny’n syniadau newydd am ymarferoldeb cynnyrch neu’n gwella prosesau, gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr yn gyffredinol.
Mabwysiadu model arloesi newydd
Model arloesi sydd wedi’i brofi droeon yw dull arloesi torfol – gofyn i bobl allanol am bâr ffres o lygaid i ddatblygu datrysiad i broblem.
Fodd bynnag, dim ond pan mae pob gweithiwr yn cefnogi’r model hwn y mae’n gweithio. Fel yr amlinellir yn Harvard Business Review, pan geisiodd NASA arbrofi gyda dull arloesi torfol allanol, nid oedd rhai o’r gwyddonwyr yn cefnogi’r syniad gan eu bod wedi ymuno â NASA i fynd i’r afael â heriau diddorol eu hunain. Enghraifft arall o ddull arloesi torfol yn methu yw hwnnw gan VDMA – cymdeithas ddiwydiannol yn cynrychioli 3,200 o gwmnïau peirianneg fecanyddol yn yr Almaen. Er y cynigwyd sawl syniad creadigol dichonadwy i’r heriau technegol a gyflwynwyd, gwrthododd pob cwmni fabwysiadu unrhyw ddatrysiadau na chrëwyd yn fewnol.
Enghraifft o ddull arloesi torfol llwyddiannus yw’r prosiect Enable Makeathon gan Bwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch. Nod y prosiect yw cynhyrchu syniadau da ar gyfer cynnyrch newydd i helpu pobl sydd ag anableddau ac mae ganddo gynllun hefyd i wneud yn siŵr bod y syniadau hynny yn cael eu gwireddu ac yn cyrraedd y farchnad. Maent yn cydweithio â sefydliadau eraill i lenwi bylchau o ran adnoddau ac arbenigedd i sicrhau bod syniadau yn cael eu gwireddu.
Gweithredu newid a syniadau newydd
Mae gan fodel busnes llwyddiannus greadigrwydd ac arloesedd wraidd ei wraidd bob amser, ond yr allwedd i symud busnes ymlaen yw annog meddwl yn greadigol ymhlith staff a’u cynnwys yn y broses arloesi. Pan fabwysiadir amgylchedd meddwl agored ac mae cyfathrebu rhwng rhengoedd yn gryf, gall creadigrwydd ac arloesedd ffynnu. Pan fydd y gwrthwyneb yn wir, gall gweithredu newid a syniadau newydd greu tensiynau ac amrywiadau o ran perfformiad.
Gallwch ddysgu sut mae bod yn rym cadarnhaol ar gyfer rheoli creadigrwydd ac arloesedd o fewn busnes drwy astudio’r MBA mewn Marchnata yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Gyda ni, byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau a galluoedd meddwl wysg eich ochr i greu cwmni llwyddiannus, p’un a yw eich cynlluniau gyrfa yn canolbwyntio ar sefydlu busnes newydd neu ddatblygu eich gyrfa o fewn busnes sefydledig.