Os ydych yn breuddwydio am greu egin fusnes neu fusnes newydd, bydd cynllun busnes a saernïwyd yn gelfydd yn hanfodol o ran deall pa mor hyfyw yw eich syniad a pha un a ellir ei gyflawni. Hefyd, bydd cynllun busnes yn eich helpu i ddeall maint yr elw y gallwch ei ddisgwyl, y cerrig milltir y gallwch ddisgwyl eu cyrraedd (a phryd), a ble yn union y mae eich cynulleidfaoedd targed er mwyn ichi allu eu cyrraedd yn fwy effeithiol.
Mae’r arweiniad ‘gam wrth gam’ hwn yn esbonio beth yw cynllun busnes a pham rydych angen un, a hefyd mae’n nodi’r elfennau y dylech eu cynnwys yn eich cynllun busnes er mwyn cael busnes llwyddiannus.
Beth yw cynllun busnes?
Mae cynllun busnes traddodiadol yn nodi strategaeth eich busnes trwy esbonio ac archwilio trywydd, amcanion a nodau eich egin fusnes, ynghyd â’r cerrig milltir yr anelwch at eu cyflawni. Mae cynllun busnes yn berthnasol i fusnesau o bob math, a chynghorir perchnogion busnesau bach i lunio cynllun busnes er mwyn sicrhau bod ganddynt syniad clir ynglŷn â’r hyn a wnânt a bod modd iddynt gadw ar y trywydd iawn.
Pam ydych angen cynllun busnes?
Os ydych yn dechrau eich busnes eich hun ac os ydych yn awyddus i gael arian gan ddarpar fuddsoddwyr, mae hi’n hanfodol ichi gael cynllun busnes da.
Cyn rhoi unrhyw bartneriaeth swyddogol ar waith, bydd buddsoddwyr neu roddwyr benthyciadau eisiau gweld cynllun busnes llawn er mwyn teimlo’n hyderus bod perchennog y busnes yn gwybod beth yn union y mae’n ei wneud, ei fod yn deall yr hyn a gaiff ei werthu a phwy yw’r cwsmeriaid a dargedir, ei fod yn adnabod y farchnad, a’i fod yn meddu ar dystiolaeth ar gyfer llwyddiant hirdymor ar ffurf adroddiadau dadansoddi cystadleuwyr ac adroddiadau dadansoddi’r farchnad. Bydd pobl sy’n buddsoddi mewn mentrau newydd yn dymuno cael gwybod a fyddant yn cael adenillion. Bydd cynllun busnes yn rhoi sicrwydd iddynt ynglŷn â hyn oll.
Hyd yn oed os na fyddwch yn chwilio am gyllid, mae llunio cynllun busnes yn syniad gwerth chweil oherwydd bydd yn cynnig templed a chyfeiriad clir y gallwch eu dilyn wrth lansio eich egin fusnes.
Elfennau hollbwysig y dylech eu cynnwys yn eich cynllun busnes
Bydd cynllun busnes yn cynnig cipolwg cynhwysfawr ar eich cwmni, gan gynnig darlun cyflawn o’ch allbwn yn allanol yn ogystal â’r modd y caiff y cwmni ei redeg yn fewnol. Bydd yn cynnwys disgrifiad manwl o’ch cwmni o bob ongl, gan nodi’n glir yr hyn rydych yn ceisio’i wneud a sut rydych am fynd ati.
Isod, rydym yn trafod pob rhan o’ch cynllun busnes a’r pethau y dylech eu cynnwys.
Crynodeb gweithredol
Bydd y crynodeb gweithredol yn cynnwys disgrifiad manwl o’ch cwmni, gan esbonio eich busnes a’i nodau. Yn y crynodeb gweithredol, dylech gynnwys eich datganiad cenhadaeth, lle dylech nodi diben eich cwmni a pham yr aethoch ati i’w greu.
Hefyd, dylech gynnwys trosolwg byr o’ch cwmni, manylion am y problemau neu’r anghenion rydych yn ceisio mynd i’r afael â nhw, disgrifiad o’ch cynhyrchion neu eich gwasanaethau, gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol bresennol, a sut y bwriadwch dyfu.
Strwythur y sefydliad a’r tîm rheoli
Bydd darpar fuddsoddwyr yn dymuno cael manylion am y tîm sy’n gysylltiedig â’ch busnes, oherwydd eich rhanddeiliaid mewnol yw’r rhai a fydd yn gyrru’r busnes yn ei flaen.
Nodwch pwy yw aelodau eich tîm rheoli, beth yw eu profiad, ac unrhyw gynlluniau ar gyfer creu rolau newydd ar ôl sicrhau cyllid.
Dadansoddi’r farchnad a chyfleoedd
Trwy ymchwilio i’r diwydiant rydych yn ceisio lansio eich busnes ynddo, bydd modd casglu tystiolaeth ynglŷn â dilysrwydd eich model busnes a’r llwyddiant rhagamcanol y gallech ei gyflawni gyda’ch cynnyrch neu eich gwasanaeth newydd.
Trwy ddeall y diwydiant, bydd modd ichi ddeall demograffeg eich marchnad darged, a dylech gynnwys hyn yn eich cynllun busnes. Trwy wybod ble yn union y mae eich marchnad, bydd yn haws ichi ddod o hyd iddi gyda’ch brand.
Y cynhyrchion neu’r gwasanaethau a werthwch
Dylai eich cynllun busnes gynnwys esboniad manwl o’r cynhyrchion neu’r gwasanaethau y bwriadwch eu gwerthu. Dylech nodi pam y mae eich arlwy yn unigryw a pha anghenion y bydd yr arlwy hwnnw yn eu diwallu. Hefyd, dylech nodi unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflwyno gwelliannau neu arlwy ychwanegol yn y dyfodol.
Yn yr adran hon, dylech nodi eich strategaeth brisio, y pethau rydych eu hangen er mwyn dechrau dosbarthu eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau, a pha un a ydych yn meddu ar batent (neu ar ganol sicrhau patent).
Dadansoddi’r gystadleuaeth
Trwy ddeall cynhyrchion a gweithrediadau busnes eich cystadleuwyr, bydd modd ichi ddatblygu mantais gystadleuol yn y farchnad. Dylech anelu at eich gwahaniaethu eich hun, eich brand neu eich arlwy, er mwyn perswadio cwsmeriaid i symud atoch chi.
Trwy ddadansoddi’r gystadleuaeth, bydd modd ichi weld ble y ceir bylchau yn y farchnad, a bydd hynny’n eich galluogi i greu cynlluniau ar gyfer sicrhau mai chi yw’r un a fydd yn llenwi’r bylchau hynny.
Strategaethau marchnata a gwerthu
Mae hi’n hanfodol ichi hyrwyddo eich busnes gyda strategaeth farchnata, oherwydd bydd hyn yn galluogi darpar gwsmeriaid i gysylltu â’ch brand. Mae sawl opsiwn ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y gorau o’ch cyllideb gyfredol, gan sicrhau y bydd unrhyw fuddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial.
Gallwch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddatblygu hunaniaeth brand ac i rannu eich datganiad gwerth, gallwch lunio datganiadau i’r wasg a’u dosbarthu ymhlith safleoedd newyddion yn eich diwydiant, neu gallwch gynnal cyfres o weminarau addysgol. Bydd gwahanol weithgareddau’n gweddu’n well i wahanol gynhyrchion.
Cynlluniau ariannol a dadansoddiad ariannol
Bydd darpar fuddsoddwyr eisiau gwybod y byddant yn cael eu harian yn ôl, a mwy, trwy fuddsoddi yn eich syniad newydd.
Yn yr adran hon, dylech gynnwys amcanestyniad ariannol manwl, yn ogystal â mantolen, datganiadau llif arian a datganiadau incwm, os oes gennych rai yn barod. Dylai eich datganiadau ariannol nodi eich mewndaliadau a’ch alldaliadau’n glir.
Dysgu sut i droi eich syniad busnes yn gynllun cadarn
Os ydych yn lansio busnes bach neu gynnyrch newydd mewn busnes presennol, bydd cwrs MBA Marchnata Prifysgol Wrecsam, a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Yn y cwrs hwn, cewch sylfaen dda mewn egwyddorion busnes a byddwch yn deall beth yn union y mae pob rhan o’r busnes yn ei wneud. Cewch eich cymhwyso â’r gallu i gynnal dadansoddiad SWOT ar syniad newydd a chreu rhagolygon ariannol manwl, a hefyd cewch gymryd rhan mewn gwaith cynllunio strategol ar gyfer lansio egin fusnes neu gynnyrch newydd. Gan elwa ar arbenigedd mewn marchnata, byddwch yn deall pa mor bwysig yw cynllun marchnata da a byddwch yn dysgu sut i bennu cyfleoedd hollbwysig ar gyfer sicrhau y bydd eich brand yn cyrraedd eich cynulleidfa darged.
Cwrs rhan-amser yw hwn, felly bydd modd ichi barhau i weithio wrth astudio. Byddwch yn graddio o fewn 24 mis – felly bydd modd ichi gamu ymlaen yn eich gyrfa ynghynt na’r disgwyl.