Fel entrepreneur, mae yna wastad lu o bethau i feddwl amdanynt: o ble y daw’r buddsoddiad nesaf, beth yw’r ffordd orau o dyfu yn ystod y cam nesaf, a yw’r strategaeth farchnata yn gweithio, beth fydd cam nesaf ein gwrthwynebwyr? Ochr yn ochr â’r ffactorau ‘bob dydd’ hyn, ceir ystyriaeth hollbwysig arall – un a fydd, yn y pen draw, yn penderfynu ar dynged y busnes, sef: beth yw ein strategaeth ymadael?
Pa un a ydych yn entrepreneur gydag egin fusnes sydd newydd gael ei lansio, neu’n Brif Swyddog Gweithredol profiadol sy’n rhedeg menter fyd-eang sydd wedi hen ennill ei phlwyf, byddai’n syniad da ichi fuddsoddi amser ac ymdrech yn y dasg o gynllunio eich strategaeth ymadael.
Beth yw strategaeth ymadael – a pham y mae egin fusnesau angen un?
Ystyr strategaeth ymadael yw cynllun a roddir ar waith gan berchnogion busnesau, buddsoddwyr, masnachwyr neu gyfalafwyr menter ar gyfer diddymu eu cysylltiad ag ased ariannol ar ôl bodloni meini prawf arbennig. Hynny yw, y modd y gall buddsoddwyr ymddatod oddi wrth eu buddsoddiad.
Trwy gynllunio a gweithredu strategaethau ymadael, gall egin fusnesau fod ar eu hennill mewn llu o wahanol ffyrdd:
- Bydd strategaeth ymadael yn cynnig ‘map trywydd’ o ganlyniadau a cherrig milltir realistig
- Bydd yn eich galluogi i gyfrifo adenillion ar fuddsoddi – rhywbeth sy’n hanfodol ar gyfer denu buddsoddiad a threfniadau pryniant
- Gall helpu i leihau’r risgiau pe na bai’r busnes yn llwyddo yn ôl y disgwyl
- Bydd yn esgor ar benderfyniadau cytbwys – er enghraifft, penderfyniadau’n ymwneud â dyrannu adnoddau, recriwtio a thyfu yn unol â’r anghenion
- Bydd yn arwain at allu manteisio ar amodau ffafriol y farchnad.
Fodd bynnag, er gwaethaf y gwerth amlwg a chynhenid sy’n perthyn i strategaethau ymadael, dim ond 24% o arweinwyr busnes y DU sydd â strategaeth o’r fath ar waith.
Gwahanol fathau o strategaethau ymadael
Fel sylfaenydd egin fusnes, bydd y strategaeth ymadael orau yn dibynnu ar eich nodau busnes, eich nodau personol a’ch nodau ariannol unigol. Ac er bod nifer o strategaethau ymadael cyffredin i’w cael, mae manteision ac anfanteision yn perthyn i bob un, felly cofiwch fynd trwy’r broses diwydrwydd dyladwy.
Mae gwahanol fathau o strategaethau ymadael sy’n arbennig o berthnasol i egin fusnesau yn cynnwys:
- Cynnig Cyhoeddus Cychwynnol (IPO) – sef ‘mynd yn gyhoeddus’. Mae IPO yn cyfeirio at restru eich busnes ar y gyfnewidfa stoc a gwerthu cyfranddaliadau i gyfranddalwyr. Er y gall hyn arwain at elw enfawr – ymhell uwchlaw unrhyw adenillion ar fuddsoddi y gall strategaethau eraill esgor arnynt – gall fod yn broses anodd. Er enghraifft, mae costau rheoleiddio mawr, craffu a phwysau o du cyfranddalwyr, croeso llugoer gan y diwydiant ehangach, a phrosesau hynod lafurus yn ffactorau y dylid eu hystyried.
- Cynigion uno a chaffael. Mae cynigion uno a chaffael yn golygu gwerthu eich busnes i rywrai eraill a fydd yn elwa ar fantais gystadleuol, megis caffael cynhyrchion, talent, eiddo deallusol a seilwaith, gan gynyddu eu cyfran o’r farchnad neu leihau’r gystadleuaeth. Fel entrepreneur, bydd modd i chi reoli trafodaethau ynglŷn â’r pris, gallwch osod eich telerau eich hun a gallwch ystyried amryfal geisiadau. Ond yn aml, mae cynigion o’r fath yn tueddu i chwalu a gallant fod yn ddrud ac yn llafurus.
- Pryniant gan y rheolwyr neu bryniant gan y gweithwyr. Mae pryniant gan y rheolwyr neu bryniant gan y gweithwyr yn golygu y bydd aelodau presennol y tîm yn symud i uwch-swyddi er mwyn llenwi bylchau arwain. Fel perchennog, cewch dawelwch meddwl y bydd y busnes mewn dwylo medrus a phrofiadol, ac mae’r broses drosglwyddo yn gymharol syml. Ond rhaid i rywun fod â diddordeb yn y broses, a bod yn fodlon camu i’r adwy, a hefyd gall effeithio ar barhad busnes.
Ceir llu o strategaethau ymadael eraill hefyd:
- Dilyniant teuluol. Mae cadw’r busnes o fewn y teulu – a elwir hefyd yn ymadael etifeddol – yn opsiwn deniadol i nifer o berchnogion busnesau. Mae’r manteision yn cynnwys digon o amser i hyfforddi’r teulu, yr wybodaeth a’r ymrwymiad y maent yn debygol o feddu arnynt, a’r posibilrwydd o gadw mewn cysylltiad agos a chynnig cyngor neu gymorth. Gall yr anfanteision gynnwys straen emosiynol neu ariannol i’r uned deuluol, neu brinder aelodau teuluol sy’n fodlon, neu sy’n gallu, camu i’r adwy.
- Diddymu. Fel arfer, bydd busnes yn cael ei ddiddymu pan fo’n fusnes diffygiol. Mae’n golygu dirwyn y busnes i ben a gwerthu’r asedau, gan ddefnyddio unrhyw elw i dalu dyledion a/neu gyfranddalwyr. Gall fod yn ffordd syml a chyflym o ddirwyn busnes i ben, ond go brin y bydd yn esgor ar lawer o arian (os o gwbl) a gallai arwain at gydberthnasau gwael gydag aelodau’r tîm, partneriaid busnes a chwsmeriaid.
- Gwerthu eich budd i bartneriaid neu fuddsoddwyr. Os ydych yn berchen ar y busnes, gallwch werthu’r budd sydd gennych ynddo – fel arfer i rywun rydych yn ei adnabod a rhywun rydych yn ymddiried ynddo – tra mae’r busnes yn dal i weithredu, gan achosi cyn lleied o drafferthion â phosibl. Ond efallai y byddwch yn gwerthu eich budd am bris llai (oherwydd eich cysylltiad â’r prynwr), a hefyd mae dod o hyd i brynwr yn gallu bod yn dasg anodd.
- Prynu’r cyfalaf dynol. Mae’r strategaeth ymadael hon yn canolbwyntio’n unswydd ar brynu talent. Mae’n hynod fuddiol i weithwyr profiadol a medrus, oherwydd bydd angen gweithwyr o’r fath ar ôl i’r busnes newid dwylo. Mae’r manteision yn cynnwys y gallu i drafod telerau da a sicrhau y bydd rhywun yn gofalu am y gweithlu; mae’r anfanteision yn cynnwys anhawster i ddod o hyd i’r prynwr iawn, ac yn aml gall fod yn broses faith, ddrud a phoenus.
- Methdaliad. Nid oes unrhyw gynllun busnes ynghlwm wrth fethdaliad mewn gwirionedd. Bydd holl asedau’r busnes yn cael eu hatafaelu; ac er y bydd y mwyafrif o’ch cyfrifoldebau ariannol a’ch dyledion yn cael eu dileu, bydd methdaliad yn effeithio ar eich credyd yn y dyfodol.
Sut y gallaf ddewis y strategaeth ymadael iawn ar gyfer fy musnes?
Er mwyn lleihau nifer yr opsiynau a dod o hyd i’r strategaeth ymadael iawn, bydd angen ichi bwyso a mesur eich opsiynau a cheisio cyngor proffesiynol. Mae hyn yn bwysig dros ben os mai dyma’r tro cyntaf ichi reoli busnes newydd trwy ei brynu, ei ad-drefnu neu ei gymryd drosodd.
Yn ogystal â deall y manteision a’r anfanteision sy’n perthyn i bob strategaeth, bydd angen cadarnhau ffactorau pwysig fel prisiad y cwmni, materion cyfreithiol, strwythur y cynnig, a’r telerau trafod. Byddai’n werth sicrhau bod eich egin fusnes yn y cyflwr gorau posibl cyn iddo gael ei werthu neu ei drosglwyddo; bydd hyn yn golygu canolbwyntio ar symleiddio gweithrediadau, gwella perfformiad ariannol, dogfennu eich model, eich prosesau a’ch systemau, a diogelu eich eiddo deallusol.
Ar gyfer unrhyw strategaeth ymadael, mae’n hollbwysig ichi gyfathrebu’n glir gyda rhanddeiliaid hollbwysig – sef darpar brynwyr a buddsoddwyr, cwsmeriaid, gweithwyr a chyflenwyr.
Cymerwch amser i lunio eich cynllun ymadael a rhoi’r siawns orau i’ch busnes lwyddo
Ymunwch ag arweinwyr busnes ysbrydoledig y genhedlaeth nesaf gyda rhaglen MBA Entrepreneuriaeth ar-lein Prifysgol Wrecsam.
Os ydych yn entrepreneur â syniad cyfnod cynnar neu’n fusnes bach, neu os ydych yn dymuno defnyddio sgiliau entrepreneuraidd i ysgogi twf mewn cwmni mawr sydd wedi ennill ei blwyf, rydym yma i’ch helpu i wireddu eich nodau proffesiynol. Cewch gyfle i ddeall y siwrnai entrepreneuraidd drwyddi draw, yn ogystal â chyfle i hogi eich sgiliau mewn meysydd fel arwain, creadigrwydd, rheoli a strategaethau. Gallwch ddewis rhaglen 100% ar-lein hynod hyblyg a luniwyd gydag anghenion y byd diwydiant go iawn mewn cof, gan ragori fel entrepreneur ac arweinydd busnes y dyfodol.