Mae sioeau siopa ar-lein yn dal i fod yn hynod boblogaidd. Yn ôl ymchwil a wnaed gan CapitalOne, amcangyfrifir bod gwerthiannau e-fasnach wedi cyrraedd $6.91 triliwn yn 2024 – sef cynnydd enfawr o 9.56% o gymharu â 2023.
Mae’r cynnydd hwn wedi esgor ar ddewis enfawr i gwsmeriaid, gan roi iddynt rym gwario a chyfleoedd i brynu beth bynnag sy’n mynd â’u bryd trwy glicio ar fotwm. Ond i fusnesau e-fasnach, mae’r gystadleuaeth yn fwy ffyrnig nag erioed.
Os ydych yn berchen ar fusnes e-fasnach neu os ydych yn rheoli busnes o’r fath, rhaid ichi serennu mewn marchnad orlawn er mwyn sicrhau y bydd eich cynulleidfa darged yn dod o hyd i’ch cynhyrchion. Er mwyn gwneud hyn, rhaid ichi ddefnyddio strategaethau marchnata’n effeithiol i ehangu eich cynhyrchion, eich poblogrwydd a’ch elw.
Yn y blog hwn, byddwn yn nodi rhai strategaethau marchnata e-fasnach hanfodol y bydd yn ofynnol i’ch busnes eu rhoi ar waith er mwyn llwyddo i’r eithaf.
Buddsoddi mewn ‘optimeiddio peiriannau chwilio’ (SEO)
Mewn perthynas ag e-fasnach, mae optimeiddio peiriannau chwilio yn golygu optimeiddio eich siop ar-lein ar gyfer peiriannau chwilio fel Google, Bing a Yahoo. O wneud hyn yn dda, dylai eich gwefan gael lle amlwg ar dudalennau canlyniadau’r peiriant chwilio, gan ddenu rhagor o draffig organig (yn hytrach na thraffig y telir amdano) at eich safle.
Dyma arfer marchnata hanfodol, yn enwedig gan fod Backlinko wedi canfod bod pobl ddeg gwaith yn fwy tebygol o glicio ar y canlyniad chwilio organig cyntaf ar y rhestr o gymharu â’r canlyniad a restrir yn ddegfed ar y rhestr. Buddsoddwch mewn optimeiddio peiriannau chwilio i ysgogi eich gwerthiannau.
Dyma rai ffyrdd o optimeiddio peiriannau chwilio yn effeithiol er budd eich siop e-fasnach:
- Allweddeiriau: Pennwch yr allweddeiriau a ddefnyddir gan eich cynulleidfa darged i chwilio am gynhyrchion tebyg a defnyddiwch yr allweddeiriau hynny’n naturiol ar dudalennau eich cynhyrchion mewn teitlau, metaddisgrifiadau, disgrifiadau o gynhyrchion, a thagiau amgen.
- Dolenni mewnol: Cysylltwch eich tudalennau er mwyn i beiriannau chwilio allu deall strwythur eich safle pan fyddant yn chwilio trwyddo.
- Optimeiddio peiriannau chwilio technegol: Defnyddiwch adnoddau fel Ahrefs neu Semrush i archwilio eich dull optimeiddio peiriannau chwilio technegol er mwyn cael safle e-fasnach cyflym sy’n gydnaws â dyfeisiau symudol ac sy’n cynnig profiad da i’r defnyddwyr.
Neilltuo amser i lunio strategaeth marchnata cynnwys
Yn aml, bydd strategaeth marchnata digidol a gaiff ei harwain gan gynnwys yn cyfrannu at y strategaeth gyffredinol ar gyfer optimeiddio peiriannau chwilio, oherwydd gallwch greu clystyrau cynnwys trwy ddefnyddio allweddeiriau poblogaidd i gryfhau eich awdurdod drostynt. Gwnewch hyn trwy lunio blogiau addysgol o’r radd flaenaf a nodwch eu dolenni ar dudalennau eich cynhyrchion.
Mewn strategaeth gynnwys, gallwch hefyd dreulio amser yn creu fideos a phodlediadau er mwyn bwrw eich rhwyd yn ehangach, gan esgor yn y pen draw ar ymwybyddiaeth o’ch brand mewn sawl rhan o’r rhyngrwyd.
Gallwch deilwra eich strategaeth marchnata cynnwys i gyd-fynd â gwahanol rannau o’r ‘twmffat’ marchnata. Ar frig y twmffat, bydd pobl yn dymuno cael cynnwys addysgol a fydd yn eu cyflwyno i’ch brand neu eich cynhyrchion. Yng nghanol y twmffat, efallai y bydd pobl yn ymwybodol ohonoch, felly byddant angen cael eu cymell i’ch dewis chi – cyflwynwch astudiaethau achos. Ar waelod y twmffat, bydd pobl eisoes yn barod i brynu eich cynhyrchion ond byddant angen cael eu ‘gwthio’ dros y llinell derfyn, felly defnyddiwch ddulliau hyrwyddo a galwadau cryf i weithredu er mwyn eu hannog.
Marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae yna lu o blatfformau cyfryngau cymdeithasol y gallwch ddewis o’u plith, yn cynnwys Facebook, X (Twitter gynt), Instagram, TikTok a LinkedIn. Byddwch angen llawer o amser i greu postiadau ar gyfer pob un o’r sianeli hyn; felly os nad oes gennych ddigon o amser i wneud hyn, ewch ati i wneud rhywfaint o ymchwil i weld pa blatfformau a ddefnyddir gan eich cynulleidfa a chanolbwyntiwch eich ymdrechion marchnata ar greu strategaethau ar gyfer y platfformau hynny.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol:
- Postiwch yn rheolaidd er mwyn parhau i ennyn diddordeb eich cwsmeriaid
- Ceisiwch ddenu dilynwyr newydd trwy rannu cynigion arbennig, gostyngiadau, codau atgyfeirio a rhoddion am ddim
- Ewch ati i greu cynnwys feirol trwy ymhél â thueddiadau
- Anogwch eirdaon a chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr (UGC) er mwyn ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid newydd
- Adeiladwch gymuned o gwsmeriaid ffyddlon sydd â diddordeb mewn cynhyrchion newydd
- Ewch ati i greu cynnwys rhyngweithiol fel fideos a ffeithluniau i dorri ar y testun
Hefyd, gallwch ddefnyddio swyddogaethau ‘talu’ ar rai platfformau cyfryngau cymdeithasol i gyflwyno eich neges gerbron cynulleidfa ehangach, er enghraifft trwy gyfrwng hysbysebion Facebook neu hysbysebion Instagram.
Ymhellach, mae rhai busnesau e-fasnach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer marchnata dylanwadwyr, gan roi cynhyrchion am ddim i ddylanwadwyr a fydd, wedyn, yn sôn am y cynhyrchion hynny ar eu cyfryngau cymdeithasol nhw.
Creu ymgyrchoedd marchnata trwy e-bost
Mae marchnata trwy e-bost yn hanfodol i bob busnes, yn enwedig gan fod 60% o gwsmeriaid yn dweud bod e-byst marchnata wedi dylanwadu ar y pethau a brynant. Gall marchnata trwy e-bost fod yn dacteg farchnata broffidiol, oherwydd ar gyfartaledd mae’r adenillion ar fuddsoddi sy’n deillio o farchnata trwy e-bost yn $36 i $40 am bob doler a gaiff ei gwario.
Ymhellach, gwaith hawdd yw rhoi ymgyrchoedd e-bost ar waith, oherwydd gellir awtomeiddio rhan helaeth o’r broses, gan roi rhagor o amser i chi ganolbwyntio ar dasgau mwy llafurus tra bydd y broses yn mynd rhagddi yn y cefndir.
Gallwch ddefnyddio e-byst i gyflwyno negeseuon penodol yn ystod gwahanol gyfnodau yn siwrnai’r cwsmer, yn cynnwys e-byst croesawu, hysbysu cwsmeriaid eu bod wedi gadael eitemau yn eu basgedi (a fydd yn eu hannog i gwblhau’r broses brynu), a chynigion hyrwyddo. Hefyd, gallwch ddefnyddio offeryn a fydd yn segmentu data eich cwsmeriaid yn rhestrau e-bost, gan eich galluogi i dargedu ambell ddemograffeg yn fwy effeithiol ar sail diddordebau eich cwsmeriaid.
Gellir mynd ati’n fynych i adolygu a mireinio’r strategaeth farchnata hon, oherwydd bydd platfformau yn eich galluogi i fesur metrigau hollbwysig fel cyfraddau agor, cyfraddau clicio a chyfraddau trosi.
Hysbysebion talu fesul clic (PPC)
Os byddwch wedi neilltuo arian ar gyfer hyn yn eich cyllideb, gall buddsoddi mewn ymgyrchoedd talu fesul clic esgor ar adenillion da ar fuddsoddi, oherwydd awgryma ymchwil fod talu fesul clic yn arwain at gyfraddau trosi sydd 50% yn uwch na thraffig organig.
Bydd prisiau’r hysbysebion cliciadwy hyn yn amrywio o blatfform i blatfform (hysbysebion Google a hysbysebion Amazon fel arfer) ac yn ôl pa allweddeiriau a dargedwch. Bob tro y bydd rhywun yn clicio ar hysbyseb, byddwch yn talu ffi – ond bydd cyllideb wedi cael ei threfnu ymlaen llaw ar gyfer yr ymgyrch a bydd y broses yn para hyd nes y daw’r arian i ben.
Os oes gennych gynhyrchion neu wasanaethau penodol yr hoffech dynnu sylw pobl atynt yn syth, byddai hysbyseb talu fesul clic sy’n gysylltiedig â thudalen lanio’r eitem dan sylw yn ddelfrydol. Yn wahanol i strategaethau organig sy’n adeiladu dros amser, bydd yr ymgyrchoedd hyrwyddo hyn yn cael eu cyflwyno gerbron eich cynulleidfa darged yn syth, gan arwain y traffig i’r union le.
Os bydd rhywun yn edrych ar ryw gynnyrch, ond yn penderfynu peidio â’i brynu, gallwch aildargedu ymgyrchoedd talu fesul clic a bydd hysbysebion yn ymddangos ar wefannau eraill er mwyn annog y cwsmer i ddychwelyd a phrynu.
Dysgu sut i lunio cynllun marchnata e-fasnach effeithiol
Os ydych yn gweithio yn y byd marchnata ar gyfer gwefan e-fasnach, dewch i ddysgu sut i greu ffyddlondeb ymhlith eich cwsmeriaid a sut i ddewis y sianeli marchnata mwyaf effeithiol trwy astudio MBA Marchnata, a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, gyda Phrifysgol Wrecsam.
Bydd y radd hon yn eich addysgu sut i ddatblygu profiad gwerth chweil ar gyfer eich cwsmeriaid a fydd yn eu hannog i ailbrynu, a chewch ddysgu pa adnoddau y byddwch eu hangen i reoli strategaeth e-fasnach effeithiol.
Cwrs rhan-amser yw hwn, felly gallwch ei astudio o gwmpas eich ymrwymiadau presennol a defnyddio holl ddeunyddiau’r cwrs trwy gyfrwng amgylchedd dysgu ar-lein, pa bryd bynnag a pha le bynnag y dymunwch.