Wrth lansio cynhyrchion newydd neu wrth geisio sefydlu ymwybyddiaeth o frand, mae hi’n hanfodol cael cynllun marchnata. Fel arfer, cyllideb farchnata eithaf cyfyngedig sydd gan entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau bach, felly rhaid iddynt wneud yn siŵr eu bod yn cynllunio’u hymdrechion yn fanwl er mwyn sicrhau y bydd y gyllideb yn mynd mor bell â phosibl ac y bydd pob ceiniog yn cael ei wario’n ddoeth.
Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio sut y gall egin fusnesau sicrhau adenillion ar fuddsoddi mewn perthynas â’u gwariant ar farchnata. Nodir tactegau marchnata cost-effeithiol a fydd, o’u gwneud yn dda, yn cyfleu eich neges gerbron eich marchnad darged ac yn ehangu ystod eich cwsmeriaid.
Llunio strategaeth ar gyfer marchnata cynnwys
Un ateb marchnata rhad a rhwydd ei weithredu yw creu cynnwys o’r radd flaenaf yn rheolaidd. Beth am gael calendr cynnwys a all gynllunio a threfnu blogiau i’w cyhoeddi ar eich gwefan.
Trwy bostio cynnwys o’r radd flaenaf ar eich gwefan, bydd modd rhoi gwybod i’ch cynulleidfa am eich cynhyrchion a bydd modd meithrin ymwybyddiaeth o’ch brand, oherwydd bydd y cynnwys yn eich helpu i optimeiddio peiriannau chwilio (SEO). Hefyd, gallwch gyhoeddi postiadau gan unrhyw bartneriaeth sydd gennych er mwyn ymestyn eich cyrhaeddiad, oherwydd yn ôl pob tebyg byddant yn rhannu eich blog ar eu platfformau cymdeithasol. Cofiwch gynnwys galwad i weithredu ar ddiwedd pob blog, gan arwain y defnyddwyr at ragor o wybodaeth am eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau, er mwyn ceisio troi cynulleidfaoedd newydd yn gwsmeriaid newydd.
Adeiladu eich brand trwy farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae yna lu o blatfformau cyfryngau cymdeithasol i’w cael erbyn hyn. Mae Facebook, Twitter (neu X), Instagram a TikTok ymhlith y platfformau mwyaf poblogaidd a ddefnyddir gan frandiau i ddod o hyd i gwsmeriaid ac i gysylltu â chwsmeriaid.
Os nad oes gennych y capasiti i lunio strategaethau ar gyfer pob platfform, gwnewch rywfaint o ymchwil farchnata i weld pa blatfformau a fydd yn fwyaf buddiol i’ch busnes neu eich cynnyrch, ac yna ewch ati i greu calendr ar gyfer postio’n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch rannu eich blogiau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chreu ffeithluniau trawiadol a defnyddio fideos. Hefyd, gallwch roi rhai o’ch cynhyrchion yn rhoddion i ddylanwadwyr – bydd modd i’r dylanwadwyr hyn ddenu rhagor o ddilynwyr ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol trwy bostio amdanoch a chynnwys eich tagiau.
Rhoi cymelliadau i gwsmeriaid ffyddlon
Un ymgyrch farchnata a all esgor ar ganlyniadau da yn weddol rad yw cynnig cymelliadau i’ch cwsmeriaid presennol. Yn ôl pob tebyg, bydd eich cwsmeriaid yn adnabod nifer o bobl a fydd yn perthyn i’ch cynulleidfa darged – pobl debyg iddyn nhw sydd â diddordeb yn eich cynnyrch neu eich gwasanaeth.
Gofynnwch i’ch cwsmeriaid gyflwyno eich brand i’w cyfeillion a’u teulu ar dafod leferydd neu trwy eu hatgyfeirio at eich brand, a chynigiwch rywbeth iddynt yn dâl am wneud hyn. Er enghraifft, am bob atgyfeiriad a fydd yn prynu eitem, cynigiwch daleb neu gynnyrch am ddim i’ch cwsmer.
Creu rhestr bostio
Pan fyddwch yn gwerthu i gwsmeriaid newydd, dylech gasglu eu data a’i ddefnyddio at ddibenion marchnata. Trwy greu siwrnai farchnata ar gyfer pobl sydd wedi prynu eich cynhyrchion, efallai y bydd modd ichi eu hannog i brynu eitemau drytach neu ategol trwy anfon negeseuon yn syth i’w mewnflwch e-bost.
Hefyd, gallwch greu ymgyrchoedd e-bost ar gyfer darpar gwsmeriaid a allai fod â diddordeb yn eich brand ond nad ydynt wedi prynu unrhyw beth eto. Casglwch eu cyfeiriad e-bost trwy gynnal gweminarau addysgol neu trwy bostio cynnwys adwyog lle mae’n rhaid i’r ymwelwyr nodi eu cyfeiriad e-bost yn unig i gael mynediad. O’i wneud yn dda, gall marchnata trwy e-bost fod yn hynod werth chweil a chost-effeithiol. Gwnewch yn siŵr nad yw’r e-byst a anfonwch yn debygol o gythruddo’r derbynwyr a pheri iddynt ddirwyn eu tanysgrifiad i ben, a chofiwch gyflwyno cynnwys o’r radd flaenaf, gwybodaeth ddefnyddiol neu gynigion gwerthfawr.
Hawlio proffiliau ar-lein
Fel rhan o’ch ymdrechion marchnata ar-lein, dylech fod yn ymwybodol o bobman lle mae gennych broffil ar-lein. Caiff rhai o’r proffiliau hyn eu sefydlu’n awtomatig a rhaid ichi eu ‘hawlio’, megis eich Proffil Busnes Google; ond yn achos proffiliau eraill, efallai y bydd yn rhaid ichi eu creu eich hun.
Mae yna sawl lle ar y rhyngrwyd lle gall pobl adael geirda ynglŷn â’ch cynhyrchion a’ch gwasanaethau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o bob un ohonynt, cysylltwch â chwsmeriaid ar ôl iddynt adael adolygiad a chofiwch ddelio ag unrhyw adborth negyddol yn ddi-oed er mwyn ei rwystro rhag dylanwadu ar ddarpar gwsmeriaid newydd a allai ei ddarllen heb weld unrhyw ymateb gennych chi.
Dosbarthu datganiadau i’r wasg
Pan fyddwch yn lansio busnes, cynnyrch neu wasanaeth newydd, lluniwch ddatganiad i’r wasg ac anfonwch ef at dimau perthnasol yn y wasg. Dyma ffordd gost-effeithiol o ledaenu eich enw ar hyd ac ar led a meithrin ymwybyddiaeth ohonoch ymhlith cynulleidfa eang.
Os ydych yn fusnes lleol, bach, cysylltwch â’r wasg leol a chymerwch ran yn y gymuned. Os oes gan eich diwydiant gylchgrawn neu wefannau sy’n rhannu newyddion a mewnwelediadau perthnasol, rhannwch eich datganiadau i’r wasg gyda nhw. Cofiwch gynnwys dyfyniad er mwyn creu ymdeimlad personol, a chofiwch gynnwys dolen ar gyfer eich gwefan er mwyn i gynulleidfaoedd newydd allu dod o hyd ichi’n rhwydd.
Y ffyrdd gorau o fesur strategaeth farchnata gost-effeithiol
Pan fyddwch yn rhoi cynllun marchnata ar waith, mae hi’n hanfodol ichi olrhain a mesur y canlyniadau’n rheolaidd. Er ichi gredu bod eich offer marchnata yn ddi-feth, fe fydd yna wastad ffordd o’u hoptimeiddio ymhellach pan ddaw’r mewnwelediadau’n gliriach.
Dadansoddwch ganlyniadau’r sianeli marchnata a ddefnyddiwch trwy greu proses ar gyfer gwirio, trefnu ac archwilio’r data a fydd yn deillio o bob un. Bydd dangosfyrddau data integredig i’w cael ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau marchnata trwy e-bost, a gallwch ddilyn cynnydd eich gwefan trwy ddefnyddio Google Analytics.
Ar ôl gwerthu rhywbeth, beth am ofyn i’ch cwsmeriaid newydd sut y clywsant amdanoch er mwyn casglu rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha un o’ch ymdrechion sydd fwyaf effeithiol.
Dysgu sut i sicrhau y bydd eich ymdrechion marchnata digidol yn taro’r nod
Pa un a ydych yn gweithio yn y byd marchnata ar hyn o bryd neu’n awyddus i ddysgu rhagor am y maes hwn sydd mor dyngedfennol i fusnesau, mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig cwrs MBA Marchnata a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein – cwrs a fydd yn siŵr o’ch arwain at lwyddiant.
Cwrs rhan-amser yw hwn, felly gallwch astudio o gwmpas eich rôl bresennol neu eich ymrwymiadau eraill, gan eich helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa heb orfod cymryd seibiant i astudio.
Beth am ddatblygu eich sgiliau datrys problemau, ennill gwybodaeth fusnes hanfodol a dysgu sut i greu a chyflawni strategaethau marchnata traddodiadol a digidol ochr yn ochr â chymheiriaid a leolir ar hyd a lled y byd.