Mae ymdrechion gwerthu a marchnata llawer o fusnesau yn ymwneud yn bennaf â chaffael cwsmeriaid newydd a chynyddu eu cyfran o’r farchnad. Er bod hwn yn ymddangos fel cynllun rhesymol, mae llawer iawn o werth mewn symud ffocws ychydig a rhoi mwy o ymdrech i gadw cwsmeriaid yn hytrach na dim ond chwilio’n gyson am rai newydd.

Mae llawer o astudiaethau sy’n awgrymu bod cadw cwsmeriaid yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, ag ennill cwsmeriaid newydd. Gall ennill cwsmeriaid newydd fod rhwng pump a 25 gwaith yn ddrytach na chadw cwsmeriaid presennol. Gall cynyddu cyfraddau cadw cwsmeriaid 5% gynyddu elw hyd at 95%.

Er mwyn dod o hyd i gwsmeriaid ffyddlon sy’n dychwelyd dro ar ôl tro, mae dal angen i fusnes ennill cwsmeriaid newydd yn y lle cyntaf. Yna, gall y busnes ganolbwyntio ar drosi’r cwsmeriaid newydd hynny yn gwsmeriaid ffyddlon sy’n aros gyda’r busnes ar hyd eu hoes.

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio strategaethau i ennill cwsmeriaid newydd, metrigau allweddol bodlonrwydd cwsmeriaid, strategaethau cadw cwsmeriaid y gellir eu rhoi ar waith, a sut y gall busnes wella gwerth oes cwsmer.

Strategaethau i ennill cwsmeriaid newydd

Rhaid i bob busnes fuddsoddi mewn strategaeth ennill cwsmeriaid er mwyn dod o hyd i’r gynulleidfa gywir ar gyfer y cynnyrch neu’r gwasanaeth y maent yn ei werthu. Drwy gael strategaeth effeithiol, mae’n bosibl cynyddu eich siawns o ddod o hyd i nifer o gwsmeriaid rydych chi’n debygol o’u cadw. Bydd hyn yn gwneud eich marchnata yn fwy cost-effeithiol ac yn rhatach fesul trosiad, ac yn eich paratoi ar gyfer mwy o lwyddiant hirdymor.

Mae rhai o’r dulliau y gall busnes eu defnyddio i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd a’u targedu yn cynnwys:

  •     Chwilio organig: Buddsoddi mewn strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) i gyrraedd safle uchel ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio (SERPs).
  •     Talu am hysbysebu ar beiriannau chwilio: Mae hysbysebu talu fesul clic (PPC) yn caniatáu i fusnesau dalu i gyrraedd safle uchel ar ganlyniadau peiriannau chwilio. Mae platfform PPC Google Ads hefyd yn caniatáu i chi gynnwys hysbysebion ar wefannau partner.
  •     Cyfryngau cymdeithasol organig: Rhannu cynnwys sy’n cael ei bostio ar eich blog neu sianeli eraill, datblygu llais y cwmni a chynyddu ymwybyddiaeth o’ch brand.
  •     Talu am hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol: Talu am bostiadau ar Facebook, Twitter, Instagram, LinkedIn, neu TikTok i helpu eich cynnwys gyrraedd eich cynulleidfa darged yn haws.
  •     Marchnata trwy e-bost: Casglu data e-bost trwy strategaethau fel cynnwys adwyog neu weminarau. Yna defnyddio’r rhestrau hynny i ddatblygu cwsmeriaid posib a’u trosi trwy eu mewnflychau.
  •     Atgyfeiriadau: Gofyn i’ch cwsmeriaid presennol eich cyflwyno i’w ffrindiau yn gyfnewid am gymhelliad gyda rhaglen gyfeirio.
  •     Digwyddiadau: Mynd i gynadleddau os yw’n briodol i’ch diwydiant, neu gynnal digwyddiadau rhithwir fel gweminarau i ddweud mwy am yr hyn rydych chi’n ei wneud wrth ddarpar gwsmeriaid.
  •     Hysbysebu traddodiadol: Gosod hysbysebion ar y teledu, y radio a’r cyfryngau print, yn lleol neu’n genedlaethol, yn dibynnu ar y math o fusnes a’r gyllideb.

Sut i greu twndis marchnata i ennill cwsmeriaid

Mae creu strategaeth ar gyfer ennill cwsmeriaid sy’n cyd-fynd ag egwyddorion twndis yn sicrhau eich bod yn dilyn dull profedig o ennill cwsmeriaid ac yn gwella’ch ymdrechion. Bydd hyn yn gwneud eich strategaeth yn llawer mwy effeithiol.

Pedwar cam y twndis ennill cwsmeriaid yw:

  •     Ymwybyddiaeth: Sicrhau bod eich neges yn cyrraedd y cwsmeriaid cywir a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’ch cynnyrch neu wasanaeth.
  •     Ystyriaeth: Rhoi mwy o wybodaeth i gwsmeriaid i’w helpu i wneud penderfyniad i brynu gennych chi.
  •     Trosi: Trosi eich cynulleidfa yn gwsmeriaid.
  •     Cadw Cwsmeriaid: Cadw eich cwsmeriaid newydd a’u troi yn gwsmeriaid ffyddlon sy’n dychwelyd.

Cyn i chi greu eich strategaeth twndis, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pwy yw’ch cynulleidfa, eu demograffeg a’u cymhellion er mwyn i chi ddeall eu hanghenion a chyfleu eich datrysiad yn effeithiol. Bydd angen i chi ddewis y sianeli cywir, gwybod le mae eich cwsmeriaid, a chreu cynllun cynnwys sy’n cyd-fynd â’r camau twndis. Ar ôl i chi lansio eich strategaeth, bydd rhaid ichi neilltuo amser i ddadansoddi’r canlyniadau ac addasu a gwneud y gorau o’ch allbwn ar ôl cyfnod penodol o amser.

Beth yw marchnata amlsianel?

Marchnata amlsianel yw pan fo sefydliadau’n defnyddio sianeli amrywiol i ryngweithio â’u cwsmeriaid. Mae hyn fel arfer yn cyfeirio at y cyfuniad o sianeli ffisegol (fel siopau manwerthu) ynghyd â’u sianeli digidol (fel y cyfryngau cymdeithasol neu sgwrsfotiau ar wefannau e-fasnach sy’n ateb Cwestiynau Cyffredin mewn amser real).

Trwy gael sawl man cyswllt ar gyfer denu cwsmeriaid at frand, mae’r math hwn o strategaeth yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer cyflawni ac i blesio’r cwsmer trwy wasanaeth cwsmeriaid a phrofiad cwsmeriaid di-dor.

Beth yw’r metrigau bodlonrwydd cwsmeriaid allweddol?

Mae bodlonrwydd cwsmeriaid yn ddangosydd allweddol o lwyddiant ar gyfer busnesau. Po fwyaf bodlon yw cwsmer, y mwyaf tebygol yw’r cwsmer hwnnw o ddod yn gwsmer ffyddlon sy’n dychwelyd ac argymell y brand i’w ffrindiau a’i deulu.

Mae metrigau bodlonrwydd cwsmeriaid yn hanfodol gan eu bod yn rhoi cipolwg ar sut mae defnyddwyr wir yn teimlo am fusnes ac a ydych chi’n bodloni disgwyliadau cwsmeriaid ai peidio. Drwy gasglu’r wybodaeth hon, mae busnes yn gallu gweld yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a meysydd y gellid eu gwella i gyflawni newid ystyrlon a chadarnhaol i’w gwasanaethau. Mae posib awtomeiddio’r gwaith hwn drwy anfon arolygon yn awtomatig at gwsmeriaid sydd wedi prynu rhywbeth.

Mae metrigau hanfodol y gall pob cwmni eu defnyddio i fesur pa mor fodlon yw cwsmeriaid yn cynnwys:

  •     Sgôr Hyrwyddo Net (NPS): Mae’r metrig hwn yn holi cwsmeriaid am eu parodrwydd i argymell eich brand. Y mwyaf o ‘hyrwyddwyr’ sydd gennych, y mwyaf y bydd eich brand yn lledaenu trwy argymhellion cwsmeriaid.
  •     Bodlonrwydd Gwasanaeth Cwsmeriaid (CSS): Yn mesur boddlonrwydd cwsmeriaid â’r gwasanaeth ar ôl-prynu. Bydd y metrig hwn yn eich galluogi i olrhain ymholiadau a phryderon cyffredin, ac a yw eich cynnig cymorth i gwsmeriaid yn effeithlon.
  •     Sgôr Ymdrech i Gwsmeriaid (CES): Mae’r metrig hwn yn pennu pa mor rhwydd yw eich cynhyrchion neu wasanaethau i’w defnyddio. Yr haws mae eich cwsmeriaid yn gweld defnyddio eich cynhyrchion neu wasanaethau, y mwyaf tebygol ydynt o aros gyda chi.
  •     Sgôr Bodlonrwydd Cwsmeriaid (CSAT): Mae’r metrig hwn yn mesur pa mor fodlon mae cwsmeriaid yn teimlo am eich cynnyrch neu wasanaeth.
  •     Sgôr Iechyd Cwsmeriaid (CHS): Mae’r metrig hwn yn nodi teyrngarwch cwsmeriaid ac a fydd cwsmeriaid presennol yn cael eu cadw neu a fyddent yn trosi dros amser.
  •     Cyfradd Trosiant Cwsmeriaid (CCR): Mae’r metrig hwn yn nodi’r canran o gwsmeriaid sydd wedi’u colli yn hytrach na’u cadw.
  •     Adolygiadau gan gwsmeriaid: Mae llawer o brynwyr newydd yn troi at adolygiadau cyn penderfynu a ydynt am brynu’r cynnyrch ai pheidio. Mae adborth ac adolygiadau yn cael eu casglu ar ystod o byrth neu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rhaid i fusnesau fod yn ymwybodol o’r rhain i gyd.

Enghreifftiau o strategaethau cadw cwsmeriaid effeithiol

Mae cyfradd cadw cwsmeriaid yn fetrig y gellir ei ddefnyddio i fesur llwyddiant cyffredinol. Os yw cwsmer yn aros yn ffyddlon i’ch brand, bydd yn parhau i gynhyrchu elw i chi trwy brynu dro ar ôl tro ac argymell eich brand i’w ffrindiau a’i deulu.

Mae rhai strategaethau cadw cwsmeriaid y gall busnesau eu defnyddio i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn dychwelyd dro ar ôl tro yn cynnwys:

  •     Creu argraff gyntaf gofiadwy gyda phroses gynefino gref
  •     Personoli profiad eich cwsmeriaid gyda datrysiadau wedi’u teilwra
  •     Datblygu ymddiriedaeth drwy gynnig gwerth, prisiau teg a dibynadwyedd yn gyson
  •     Casglu adborth gan gwsmeriaid a mynd i’r afael â beirniadaeth neu gwynion gan gwsmeriaid yn sydyn
  •     Cadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid gyda chynnwys gwerthfawr a chyfleoedd i uwchwerthu neu groeswerthu i gynnal eu sylw.

Technegau effeithiol i wella gwerth oes cwsmeriaid

Mae gan gwsmeriaid ffyddlon sy’n dychwelyd dro ar ôl tro i brynu gennych chi werth oes cwsmer uchel (CLV). CLV yw’r swm o arian y byddan nhw’n ei wario gyda chi yn ystod eu hoes. Yn ddelfrydol, bydd busnes yn gwneud CLV yn ffocws i bob cwsmer, ac yn ceisio tyfu eu sylfaen cwsmeriaid a’i chadw.

Mae ffyrdd o wella perthnasoedd cwsmeriaid a sicrhau CLV uchel yn cynnwys:

  •     Defnyddio uwchwerthu a chroeswerthu cymaint â phosib
  •     Cynnig profiad cofiadwy i gwsmeriaid
  •     Creu rhaglen teyrngarwch cwsmeriaid a chynnig cymhellion i rai sy’n prynu
  •     Gwrando ar eich cwsmeriaid
  •     Sefydlu rhaglen gyfeirio i wobrwyo eich cwsmeriaid ffyddlon am eich argymell chi
  •     Datblygu cymuned ymhlith eich cwsmeriaid

Dod yn arbenigwr ar sicrhau cwsmeriaid sy’n dychwelyd

Astudio am radd MBA mewn Marchnata 100% ar-lein gyda Phrifysgol Wrecsam i ddysgu sut i greu strategaethau marchnata effeithiol sy’n cynhyrchu busnes rheolaidd.

Byddwch yn datblygu’r sgiliau i ddeall taith lawn cwsmeriaid, nodi materion sy’n achosi problemau gydol cylch oes y cynnyrch, ynghyd â’r wybodaeth i lansio cynhyrchion newydd yn effeithiol wrth gasglu data cwsmeriaid ar gyfer strategaethau cadw hirdymor. Byddwch yn astudio ochr yn ochr â chymheiriaid byd-eang ac yn cael y cyfle i rannu syniadau ar bynciau fel gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, sut i gasglu argymhellion, a sut i sicrhau llwyddiant cwsmeriaid, wrth ddatblygu eich gyrfa a rhoi eich hun mewn sefyllfa i wneud cynnydd ym maes marchnata.