Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Rol newidiol Prif Swyddogion Marchnata heddiw

Postiwyd ar: Mai 4, 2019
gan
The changing role of today’s Chief Marketing Officer

Gyda modelau busnes presennol dan fygythiad, cwsmeriaid yn dod yn gynyddol anrhagweladwy, a chystadleuwyr hyd yn oed yn fwy amrywiol, mae Prif Swyddogion Marchnata (PSM) yn wynebu her hollol newydd. Mae ymchwil newydd, ar sail ein dealltwriaeth gan dros 12,800 o Brif Swyddogion Marchnata ar draws 20 diwydiant a 112 o wledydd, yn awgrymu bod angen i Brif Swyddogion Marchnata heddiw ailddychmygu eu swydd ac ehangu eu gwerth yn eu sefydliad er mwyn llwyddo.

Cafodd yr arolwg ei gyflawni gan Sefydliad Gwerth Busnes IBM, mewn cydweithrediad ag Oxford Economics, a dangosodd bod nifer sylweddol o Brif Swyddogion Marchnata yn dweud bod eu sefydliadau yn ei chael yn anodd. Am y tro cyntaf ers 2010, mae ffactorau’r farchnad wedi trechu technoleg fel y grym allanol pwysicaf sy’n effeithio ar fusnesau, ac mae 84% o’r Prif Swyddogion Marchnata a oedd yn rhan o’r arolwg yn credu bod eu model busnes dan fygythiad.

Gyda’r amgylchedd busnes yn symud o amgylchedd a arweinir gan gynhyrchion i amgylchedd a arweinir gan brofiadau, mae rôl y Prif Swyddog Marchnata yn esblygu i rôl o natur “Prif Swyddog Profiadau”, yn sgil yr angen i feddiannu profiad y cleient o’r cychwyn cyntaf hyd y diwedd ar draws y sefydliad. O ganlyniad, mae Gorchmynion Marchnata Modern IBM yn awgrymu bod angen i Brif Swyddogion Marchnata, fel stiwardiaid brand a hyrwyddwyr cwsmeriaid, fynd i’r afael yn strategol â sut i helpu eu sefydliadau i gystadlu.

Sut gellir cyflawni hyn? Fel mae mwyfwy o arweinwyr uwch yn cydnabod bod profiadau cwsmeriaid yn diffinio ac yn gwahaniaethu eu sefydliadau, mae Prif Swyddogion Marchnata yn gweld eu hunain â mandad ehangach i flaenoriaethu tri maes allweddol:

  1. Cynyddu gwerth
    Fel dylanwadwyr strategol, mae sefydlu gwerth marchnata yn un o dasgau hanfodol y Prif Swyddogion Marchnata. Mae hyn yn cynnwys asesu tueddiadau’r farchnad a gweithredu metrigau mesuradwy sydd wedi’i seilio ar gwsmeriaid a all gael ei defnyddio ar draws y busnes i helpu i gyfrannu gwerthoedd uwch a chanlyniadau mesuradwy.
  2. Creu profiadau cwsmer rhagorol wedi’u personoleiddio
    Fel hyrwyddwyr cwsmeriaid, dylai Prif Swyddogion Marchnata ddylunio profiadau cwsmer sydd wedi’u personoleiddio ac sy’n ymatebol, sy’n ateb anghenion nad oedd cwsmeriaid yn ymwybodol ohonynt – ac sydd yn y pendraw mor arwyddocaol i’r cwsmer nes eu bod yn hybu eiriolaeth anhygoel. Gan ddefnyddio metrigau ar sail cwsmeriaid, dylent asesu sut gall technolegau sy’n dod yn amlwg gyfrannu at brofiadau cwsmeriaid gwahanol a rhoi elfen gystadleuol i’w sefydliad.
  3. Trawsffurfio diwylliannau corfforaethol i feddwl a gweithredu mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid
    I ymateb yn gyflym i ofynion cwsmeriaid mae angen i Brif Swyddogion Marchnata greu gweithle ystwyth sydd â diwylliant sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, lle mai newid yw’r unig beth sy’n gyson. Caiff y weledigaeth ddynamig hon ei hadnewyddu’n barhaus drwy gydweithio â chyflogeion a chwsmeriaid a gofyn am eu syniadau, ymgysylltu â nhw i gynhyrchu cysyniadau newydd ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau.

Ond er bod y mwyafrif helaeth o’r Prif Swyddogion Marchnata a gymerodd ran yn yr arolwg (74%) yn cydnabod bod hybu ailddyfeisio parhaus, arloesol, llawn bwriad yn rhan gynyddol bwysig o’u swydd; sawl un ohonynt sy’n gymwys i ymgymryd â’r cyfrifoldebau ehangach?

Mae rhaglen MBA Marchnata unigryw Prifysgol Wrecsam yn cynnwys modiwlau megis newid creadigol ac arloesedd a pharhad a thwf cwsmeriaid, gan arfogi’r rheiny sy’n awyddus i fod yn arweinwyr marchnata gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i ymdrin â’r heriau a adnabyddir gan y Prif Swyddogion Marchnata. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer unigolion brwdfrydig, uchelgeisiol sy’n awyddus i ddringo’r ysgol yrfa ac ehangu eu dealltwriaeth o fusnes ac arweinyddiaeth.

Cwrs wedi’i arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, mae wedi’i ddatblygu ar gyfer cyfoethogiad proffesiynol ar draws ystod eang o ddiwydiannau. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, yn dysgu sut i greu a gweithredu strategaethau marchnata integredig o’r radd flaenaf, a dyfnhau eich dealltwriaeth o gymhelliant defnyddwyr. Gyda disgyblaethau busnes allweddol yn cynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, a datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol, byddwch yn dysgu sut i feddwl yn feirniadol, cynllunio yn effeithiol a rhoi cynlluniau strategol ar waith i gael yr effaith fwyaf posib.

Mae’r cwrs MBA 100% ar-lein hwn wedi’i ddylunio i’ch galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau o benderfynu cofrestru. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

Mae’r cyfnod gwneud cais yn awr ar agor. I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba-marketing/