Mae ein system addysg fodern yn gymhleth iawn. Po fwyaf rydyn ni’n ei ddeall am ymddygiad dynol, seicoleg wybyddol, seicoleg ddatblygiadol a’r ffyrdd rydyn ni’n dysgu, y mwyaf rydyn ni’n deall nad oes un dull dysgu sy’n gweithio i bawb.
Mae amcanion addysg yn eang ond yn gyffredinol maent yn cwmpasu: rhannu gwybodaeth, meithrin meddylfryd twf, gwella hyder, gwella twf personol a gwella cymdeithas ehangach. Os yw athrawon ac addysgwyr am gyflawni’r amcanion hyn – ac, yn y pen draw, rhoi’r cyfle gorau posibl i fyfyrwyr lwyddo ar hyd eu hoes – mae cydnabod y rôl bwysig y mae seicoleg yn ei chwarae mewn amgylcheddau dysgu yn allweddol.
Pam mae seicoleg addysg yn ddefnyddiol i athrawon?
Mae seicoleg addysg – y gangen o seicoleg sy’n ymwneud ag astudio sut mae pobl yn dysgu – yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr a all helpu athrawon i greu profiadau addysgol, mesur deilliannau dysgu, a chynyddu ymgysylltiad a chymhelliant myfyrwyr.
At hynny, mae astudiaethau wedi dangos y gall rôl seicoleg addysg mewn amgylcheddau dysgu helpu athrawon:
- nodi pa mor dda y mae unigolion yn perfformio mewn gwahanol sefyllfaoedd dysgu
- dadansoddi a gwerthuso dulliau addysgu
- mynd i’r afael â rhwystrau dysgu
- deall nodweddion datblygiadol a theilwra’r addysgu yn unol â hynny
- gwneud y gorau o raglenni addysg a datblygu’r cwricwlwm
- dod o hyd i’r dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer addysgu unigolion sydd â heriau dysgu penodol, fel dyslecsia, dyscalcwlia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
- archwilio sut mae ffactorau gan gynnwys geneteg, yr amgylchedd, statws economaidd-gymdeithasol a diwylliant yn effeithio ar ddysgu.
Oherwydd ein bod i gyd yn cael mynediad at addysg mewn ffordd wahanol, rhaid i gysyniadau addysgu a dysgu addasu i wahaniaethau unigol a rhoi cyfrif amdanynt. Mewn amserlenni a chwricwlwm sydd eisoes yn llawn dop, mae darganfod sut i greu’r gwersi a’r digwyddiadau dysgu mwyaf effeithiol yn sgil gwerthfawr i athrawon. O’r herwydd, dylai seicoleg addysg fod yn un o’r agweddau craidd ar addysg athrawon.
Egwyddorion seicoleg addysg yn yr ystafell ddosbarth
Roedd adroddiad a gyhoeddwyd yn 2015 gan Gymdeithas Seicolegol America (APA) yn nodi’r 20 egwyddor seicolegol bwysicaf i feithrin dysgu effeithiol. Rhennir yr egwyddorion seicoleg addysg hyn yn bum maes: gwybyddiaeth a dysgu; cymhelliant; dimensiynau cymdeithasol ac emosiynol; cyd-destun a dysgu; ac asesu.
Dyma enghraifft o egwyddor o bob un o’r categorïau, a sut y gellir cymhwyso’r wybodaeth i wella’r broses addysgu-dysgu:
- Gwybyddiaeth a dysgu – mae credoau neu ganfyddiadau myfyrwyr am ddeallusrwydd a gallu yn effeithio ar eu gweithrediad gwybyddol a’u dysgu.
Mae’r egwyddor hon yn canolbwyntio ar y cysyniad o ‘feddylfryd twf’ yn erbyn ‘meddylfryd sefydlog’. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r gred bod deallusrwydd, talent a nodweddion eraill yn hydrin a bod llwyddiant yn gysylltiedig ag ymdrech; mae’r olaf yn dangos bod yr holl ffactorau hyn yn gynhenid ac yn ddigyfnewid. Gan fod y meddylfryd hwn yn rhan annatod o ganlyniadau a pherfformiad myfyrwyr, mae’n bwysig bod athrawon yn meithrin meddylfryd twf yn eu dysgwyr. Gellir cyflawni hyn mewn sawl ffordd, fel: normaleiddio anhawster fel rhan o’r broses o ddysgu, edrych ar gamgymeriadau fel cyfleoedd dysgu a dathlu cywiriadau, ymgorffori gweithgareddau a heriau datrys problemau i helpu myfyrwyr i oresgyn rhwystrau a datblygu gwytnwch, ac osgoi canmol deallusrwydd yn llwyr a chanolbwyntio ar y dysgu fel y cyflawniad.
- Cymhelliant – mae myfyrwyr yn tueddu i fwynhau dysgu a pherfformio’n well pan fydd eu cymhelliant i gyflawni yn fwy cynhenid nac anghynhenid.
Gellir addasu gweithgareddau ac arferion yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi angen myfyrwyr am ymreolaeth. Er bod hwn yn lle ar gyfer cymhelliant anghynhenid mewn addysg, bydd cymryd amser i nodi ffynonellau eraill o gymhelliant yn arwain at ganlyniadau gwell yn y tymor hir. Beth sy’n cymell yr unigolion mewn dosbarth? Beth maen nhw’n ymateb iddo? Beth yw eu diddordebau? Bydd penderfynu sut maen nhw’n creu eu hystyr eu hunain o weithgareddau dysgu yn llywio pa ddulliau sydd fwyaf addas.
- Dimensiynau cymdeithasol ac emosiynol – mae lles emosiynol yn dylanwadu ar berfformiad, dysgu a datblygiad addysgol.
Bydd cynyddu hunan-barch, hunan-gymhelliant a lles ymhlith myfyrwyr yn eu cefnogi i ddatblygu fel dysgwyr hyderus a galluog gydol oes. Gall athrawon helpu i wella lles myfyrwyr drwy roi ymdeimlad o ymreolaeth iddynt drwy ddysgu a dewis hunangyfeiriedig, gwrando arnynt, canolbwyntio ar eu cyflawniadau, gosod nodau cyraeddadwy, a meithrin amgylchedd cynhwysol lle maent yn teimlo bod rhywun yn gofalu amdanynt.
- Cyd-destun a dysgu – mae rheoli effeithiol yn yr ystafell ddosbarth yn seiliedig ar osod a chyfleu disgwyliadau uchel, meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn gyson, a darparu lefel uchel o gymorth i fyfyrwyr.
Mae creu diwylliant o gyflawniad academaidd cryf ac ymddygiad cadarnhaol yn helpu i ddatblygu hinsawdd sy’n gwella dysgu. Mae arferion adferol – sy’n seiliedig ar seicoleg gymdeithasol ac a ddefnyddir i feithrin cysylltiadau cymdeithasol rhwng myfyrwyr unigol a chymunedau dysgu ehangach – yn helpu myfyrwyr i brofi ymdeimlad o ddiogelwch a pherthyn. Yn ei dro, mae hyn yn gwella ymddygiad, yn lleihau bwlio ac yn creu lle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn dysgu effeithiol. Yn ymarferol, mae hyn yn aml yn edrych fel cyfathrebu effeithiol, creu nodau cyffredin, gofyn cwestiynau myfyriol, amlinellu ffiniau a chydnabod a mynegi teimladau.
- Asesu – mae asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn bwysig ac yn ddefnyddiol, ond maent angen gwahanol ddulliau a dehongliadau.
Er bod y ddau yn bwysig ac yn ddefnyddiol, mae angen dulliau gwahanol ar gyfer asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Mae myfyrwyr o wahanol oedrannau eisoes yn cael eu hasesu mewn gwahanol ffyrdd, ond a oes ffyrdd o asesu dysgu sy’n ehangach ac yn addas i wahanol gryfderau? Er enghraifft, cwisiau wythnosol, prosiectau yn y cartref, gwaith grŵp, trafodaethau yn y dosbarth, gemau, cyflwyniadau neu draethodau.
Beth yw’r gwahanol fathau o ddeallusrwydd?
Datblygwyd damcaniaeth Dr Howard Gardner o ddeallusrwydd lluosog i ddangos amrywiaeth deallusrwydd dynol. Mae’r theori yn cael ei chymhwyso’n eang ar draws sefydliadau addysgol a busnes, a gall gefnogi gwaith seicolegwyr addysg, athrawon, arweinwyr busnes ac eraill sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am alluoedd a chymhellion myfyrwyr.
Mae gan bob person fath gwahanol o ddeallusrwydd. Dadleuodd Gardner fod mesurau seicometreg traddodiadol o ddeallusrwydd yn rhy gyfyngol ac, yn lle hynny, awgrymodd fod wyth prif fath o ddeallusrwydd. Yma, mae pob math o ddeallusrwydd yn cael ei baru â gweithgareddau a phynciau y gallai fod yn arbennig o addas ar eu cyfer:
- Ieithyddol-llafar – dysgu ieithoedd, cofio manylion, adrodd straeon a gweithgareddau darllen, ysgrifennu a siarad eraill
- Rhesymegol-mathemategol – datrys problemau, cynnal arbrofion gwyddonol, cwblhau problemau mathemategol, meintioliadau a chyfrifiannau cymhleth
- Cerddorol – meddwl mewn synau, patrymau a rhythmau, canu a chreu cerddoriaeth
- Cinesthetig-corfforol – trin gwrthrychau, gweithgareddau chwaraeon, adeiladu a gwneud a gweithgareddau ymarferol eraill
- Gweledol-ofodol – adnabod patrymau, datrys posau, dehongli graffiau, a meddwl haniaethol
- Rhyngbersonol – defnyddio gwahanol fathau o gyfathrebu a chydweithio ar weithgareddau neu broblemau
- Mewnbersonol – galluoedd metawybyddol i ddeall y gweithgareddau hunan-gymorth sy’n gysylltiedig â meddyliau, teimladau a safbwyntiau
- Naturiolaidd – defnyddio’r amgylchedd i ddatrys problemau, adnabod a dosbarthu, gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur, tyfu, plannu a garddio, chwilota am fwyd, heicio a gwersylla.
O ran addysgu yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw fath arall o addysgu, efallai y byddai’n well gan addysgwyr gynllunio gweithgareddau dysgu sy’n defnyddio cryfderau a deallusrwydd amrywiol eu holl fyfyrwyr.
Defnyddio gwybodaeth seicolegol i wella ac ehangu ymarfer yn yr ystafell ddosbarth
A fyddai mwy o wybodaeth am seicoleg addysg yn eich helpu yn eich rôl?
Datblygwch fel addysgwr eithriadol – gyda gwybodaeth fanwl am sut gellir cefnogi unigolion gwahanol i gael mynediad at ddysgu – gyda rhaglen MSc Seicoleg Addysg ar-lein Ysgol Rheolaeth Gogledd Cymru.
Mae ein cwrs seicoleg addysg hyblyg wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa addysgol, o benaethiaid a rheolwyr ysgolion i athrawon a SENCOs. Byddwch yn ennill y sgiliau i gymhwyso tystiolaeth seicolegol a damcaniaethau dysgu i ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, ac yn cefnogi dysgwyr i gyflawni’r canlyniadau gorau. Mae pynciau’r modiwl yn cynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, methodolegau dysgu, seicoleg fforensig, anghenion dysgu ychwanegol a dawn, anhwylderau ymddygiad, a llawer mwy.