Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Pam a allai fod gan Dolly y syniad cywir…A allem ni weld diwedd i’r 9 tan 5 cyn bo hir?

Postiwyd ar: Gorffennaf 22, 2019
gan
Why Dolly may have had the right idea… Could we soon see the end of the 9 to 5?

Rydym ni i gyd yn adnabod y gân enwog gan Dolly Parton, ‘Working nine to five, what a way to make a living’; ond mae’n dod yn glir y gallai fod wedi bod o flaen ei hamser yn ôl yn 1980. Mewn gwirionedd, mae llai a llai o bobl yn gweithio 9-5 ac mae hyblygrwydd wedi dod yn fantais allweddol i gyflogeion, sy’n gallu ffitio gwaith o gwmpas gofal plant, osgoi’r awr frys neu ddewis gweithio pan maent yn gweithio fwyaf effeithiol.

Ond a allai’r llanw fod ar newid? Mae ymchwil diweddar yn datgelu bod y galw am gyfleoedd i weithio’n hyblyg yn sylweddol: mae 92% o Fileniaid yn nodi hyblygrwydd fel prif flaenoriaeth wrth chwilio am swyddi; mae 80% o ferched a 52% o ddynion eisiau hyblygrwydd yn eu swydd nesaf; mae 70% o gyflogeion y DU yn teimlo bod cyfle i weithio’n hyblyg yn gwneud swydd yn fwy atyniadol iddynt, a byddai 30% o weithwyr yn dewis gweithio’n hyblyg dros godiad cyflog.

Fodd bynnag, mae llai na 10% o swyddi a hysbysebir yn y DU ar hyn o bryd yn cynnig hyblygrwydd.

Beth yw gweithio’n hyblyg?

Hyblygrwydd yw’r term ymbarel a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw rôl sy’n torri’r norm traddodiadol o strwythur 9-tan-5, pum diwrnod yr wythnos anhyblyg sydd wedi bod yn brif elfen o ddiwylliant gorllewinol ers i Henry Ford ei fabwysiadu yn 1926. Mae’r term yn mynd i’r afael â phob math o waith rhan amser, yn cynnwys oriau cywasgedig, oriau hyblyg a chyfleoedd rhannu swyddi, gweithio o bell, gweithio’n llawrydd, gyrfaoedd cytundebu a phortffolio. Mae’n caniatáu arferion gweithio ‘ystwyth’ mewn cwmnïau mawrion, cytundebau seiliedig ar allbynnau a thimau rhithwir – lle mae aelodau’r tîm wedi’u lleoli mewn gwahanol leoliadau. Mae rhai cwmnïau yn cyflwyno newidiadau i’r wythnos pum diwrnod safonol hyd yn oed. Er enghraifft, mae Indy Cube, darparwr llefydd gweithio yng Nghymru, yn un o nifer gynyddol o gyflogwyr sy’n rhoi diwrnod ychwanegol i ffwrdd i’w gweithwyr am yr un cyflog ag wythnos pum diwrnod.

Gyda hyblygrwydd daw cyfleoedd

I gyflogeion, mae manteision gweithio’n hyblyg yn aml yn canolbwyntio ar wella eu cydbwysedd gwaith-bywyd, yn ogystal â gwarchod eu hiechyd a llesiant. Fodd bynnag, mae’r trefniadau hyn hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar gynhyrchedd. Mae ymchwil gan y CIPD wedi dangos y gall rhoi arferion gweithio’n hyblyg ar waith wella diwylliant a chymhelliant y cwmni.

Ond nid cyflogeion yn unig a fydd yn manteisio o weithio’n hyblyg. Mae trefniadau hyblyg o fudd i sefydliadau, hefyd. Gallant helpu i leihau absenoliaeth, cynyddu cynhyrchedd a gwella ymgysylltiad a ffyddlondeb cyflogeion. Rydym yn byw mewn byd sy’n rhedeg ar dechnoleg a globaleiddio drwy’r adeg. Mae’r galw am wasanaethau cwsmeriaid ar draws gwledydd a chylchoedd amser ac y tu hwnt i 9-tan-5 wedi hybu’r amlygiad o batrymau sifftiau eraill. Drwy gynnig patrymau gweithio hyblyg, nid yn unig gall fusnesau fodloni’r galwadau modern hyn, ond gallant hefyd ehangu’r gronfa ddoniau, yn enwedig i’r swyddi hynny sy’n anodd i’w llenwi.

Mae llawer o dystiolaeth anecdotaidd bod pobl sydd wedi’u grymuso i weithio ymhle, pryd a sut y dymunant, yn gweithio’n fwy cynhyrchiol ac yn gwneud mwy nag y cânt eu talu i’w wneud. Bu i Pursuit Marketing yn Glasgow drosglwyddo 120 o bobl i weithio pedwar diwrnod yr wythnos yn hwyr yn 2016 ac maen nhw’n honni bod hynny wedi bod yn rhan hanfodol o’r cynnydd o 30% mewn cynhyrchedd. Yn yr un modd, mae Perpetual Guardian, busnes ymddiriedolaeth o Seland Newydd, wedi trosglwyddo ei 240 o gyflogeion i weithio pedwar diwrnod yr wythnos ac wedi adrodd cynnydd o 20% mewn cynhyrchedd.

Mae manteision gweithio’n hyblyg yn werthfawr i gadw staff, hefyd. Os oes gennych chi, fel cyflogai, batrwm gweithio hyblyg da, yna rydych yn llai tebygol o adael y swydd honno. Yn aml, mae staff yn gwerthfawrogi hyblygrwydd dros ffurfiau mwy traddodiadol o gydnabyddiaeth, a gyda chyflogwr newydd, efallai bydd angen i chi ddisgwyl ac ennill yr hawl i weithio’n rhan amser neu’n hyblyg.

Dyfodol hyblyg

I sefydliad allu denu a chadw gweithlu hapus a chynhyrchiol, mae angen i gyflogwyr feddwl y tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol safonol ynglŷn â gweithio’n hyblyg. Golyga hyn bod angen herio diwylliant, tueddiadau a chyfeiriad meddyliau presennol nifer o sefydliadau, ac mae hynny’n cymryd amser. Nid yw gweithio’n hyblyg yn ymwneud â bod yn rhiant rhagor; mae’n rhywbeth y mae’r genhedlaeth o weithwyr y milflwydd yn dod i’w ddisgwyl, ac mae’n rhywbeth y dylai sefydliadau fod yn manteisio arno ac yn ceisio ei fewnosod lle bynnag sy’n bosibl.

Mae creu cyfleoedd o weithio hyblyg mewn busnes yn gofyn dealltwriaeth ddofn o sut mae’r cwmni yn gweithredu a sut mae cyflogeion yn gweithio hefyd, efallai nad yw’n ddewis cywir i bob sefydliad ac mae deall sut a phryd i’w weithredu yn sgil ynddo’i hun. Mae ennill dealltwriaeth ddofn o fusnes, yn cynnwys sgiliau beirniadol megis rheoli adnoddau dynol, cynllunio strategaethau a chynllunio effeithiol yn sgiliau allweddol a addysgir ar radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) unigryw Prifysgol Wrecsam a all eich helpu chi i arwain busnes i batrwm gweithio hyblyg. Mae’r rhaglen ar-lein wedi’i dylunio gydag unigolion proffesiynol uchelgeisiol a brwdfrydig mewn golwg sy’n awyddus i roi eu gyrfa ar lwybr garlam neu ddechrau eu busnes ei hunain.

Cyflwynir y rhaglen 100% ar-lein i’ch galluogi chi i astudio ar eich liwt eich hun, ochr yn ochr â’ch gyrfa bresennol, teulu neu ymrwymiadau eraill. Mae chwe dyddiad dechrau y flwyddyn, opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

I gael gwybod mwy, neu i wneud cais, ewch i https://online.wrexham.ac.uk/mba/