Oes yr entrepreneur alonyddgar
Postiwyd ar: Gorffennaf 22, 2019gan Ruth Brooks
Darllenwch unrhyw erthygl am wasanaeth yn seiliedig ar dechnoleg sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, a byddwch yn debygol o’i weld yn cael ei ddisgrifio fel ‘aflonyddgar’. Mae busnesau angen aflonyddwyr i oroesi. Y mae cwmnïau angen pobol fydd yn cwestiynu’r ffordd y mae pethau yn cael eu gwneud, arloesi, arwain y newid, a chreu rhywbeth gwbl newydd. Mae rhai entrepreneuriaid yn symud at farchnad newydd drwy gynnig cynnyrch llai gweithredol y medrant eu gwerthu am bris rhatach na chynigion sydd yn bodoli eisoes, gyda’r gobaith o adeiladu sylfeini cwsmer a sgiliau technolegol cyn denu sylw arweinwyr diwydiant. Mae entrepreneuriaid aflonyddgar yn creu cynnyrch gwell o’r cychwyn cyntaf.
Wrth i ddiwydiannau ymgymryd â thrawsnewid, maent yn symud drwy gyfnodau dros dro. Os ydych yn deall i ba gyfeiriad mae busnes yn mynd, gallwch baratoi eich hun i fanteisio pan fo amhariad yn dod yn bosib a chost-effeithiol. Dyna beth mae entrepreneuriaid aflonyddgar yn ei wneud. Pan lansiodd Netflix ei wasanaeth DVD drwy’r post, gwelodd ei sylfaenwyr dyfodol ble byddai’r galw am adloniant yn gwbl ddigidol, gan ddefnyddio rhwydweithiau band llydan a’r cwmwl i yrru cynnwys bryd bynnag a lle bynnag fo gofyn amdano. Ar y llaw arall, nid oedd siopau rhentu fideo yn gweld tu hwnt i’r gwasanaeth archeb drwy’r post, gan lwyr anwybyddu’r bygythiad i’w busnes craidd. Erbyn i rwydweithiau ddod yn ddigon cyflym i ymdopi â fideo, roedd Netflix yn barod i drawsnewid. Nid oedd y siopau rhentu fideo yn barod, gan ddilyn at ddiwedd yr enw adnabyddus Blockbuster.
Mae aflonyddwyr yn aros eu cyfle. Pan lansiwyd Wikipedia yn 2001, doedd neb yn rhagweld fod ganddo’r potensial i gymryd lle Encyclopedia Britannica; mewn gwirionedd, ni ddigwyddodd hynny am ddegawd arall. Nid yw aflonyddwyr yn newid y farchnad yn llwyr ar unwaith; gall gymryd blynyddoedd, neu ddegawdau, i gyrraedd y brig. Mae mwy i ddeall am amharu na chynhyrchu syniadau gwell; mae’n golygu bod yn amddiffynnol, a bod yn ymwybodol o gystadleuaeth sydd â’r gallu i amharu ar ein diwydiant yn y dyfodol. Nid Jeff Bezos, sylfaenydd Amazon ddyfeisiodd y syniad o lyfrau electronig, roedd llwyddinat Kindle yn disgyn yn llwyr ar amseru perffaith. Ar ôl degawd o ymchwilio ac edrych ar fethiannau eraill, dysgodd Amazon beth oedd ei angen o hyd o ran arddangosfeydd, batri, prosesau a rhwydweithiau symudol cyn adeiladu cyfuniad llwyddiannus. Yna, wrth i bopeth ddod at ei gilydd yn y lle cywir, rhyddhawyd eu cynnyrch sy’n werthwr gorau.
Mae busnesau aflonyddgar hefyd yn cynnal arbrofion marchnad sy’n ymddangos yn ddiamcan. Mae arbrofi mewnol yn rhoi rheolaeth lwyr i chi dros ddylunio a pherchnogaeth cynnyrch newydd, ac yn rhoi baich yr holl gostau a risgiau arnoch. Efallai nad yw ymchwil a datblygu cyfrannu torfol yn rhoi elfen o syrpreis, ond mae’r gwerth a wireddir a’r mewnwelediadau a geir o ryngweithio uniongyrchol gyda defnyddwyr go iawn yn llawer mwy na’r risg hon. Heddiw, mae entrepreneuriaid aflonyddgar yn defnyddio gwasanaethau codi arian megis Kickstarter, Indiegogo a Rockethub i ddod o hyd i’w defnyddwyr cynnar ac i gydweithio gyda nhw ar bopeth, o ymchwil y farchnad i ddylunio a gwasanaeth cwsmer, y cyfan cyn cynhyrchu unrhyw eitem.
Mae rhwydweithiau cymdeithasol a dyfeisiau symudol yn chwyldroi marchnata, ac mae llawer o entrepreneuriaid aflonyddgar yn eu defnyddio i ragweld llwyddiant, er enghraifft, rhoi tro modern ar grŵp ffocws traddodiadol drwy yrru’r cynnyrch beta i ddylanwadwyr fydd yn rhannu eu barn ar y cynnyrch gyda’u gynulleidfa ar-lein. Yn gynyddol, mae defnyddwyr yn gwrando’n bennaf ar ddefnyddwyr eraill, gan ddangos yn gyflym ac yn effeithiol gynhyrchion a gwasanaethau newydd i fod yn llwyddiannau neu’n fethiant llwyr, ac mae entrepreneuriaid aflonyddgar yn defnyddio’r wybodaeth hon i ragweld y galw. Mae Xiaomi, brand ffon clyfar Tsieineaidd sydd yn tyfu’n gyflym, wedi dysgu i reoli llwyddiant catastroffig drwy werthu rhan fwyaf o gynnyrch yn uniongyrchol, a chyfyngu ar gyflenwad pob swp a gynhyrchir. Nid yn unig yw hyn yn dyrchafu’r brand, ond mae hefyd yn adeiladu brwdfrydedd ar gyfer cyhoeddiadau’r cwmni yn y dyfodol, fel bod nhw’n arwain yn hytrach na dilyn.
Er, efallai nad ydych yn y farchnad i greu’r Kindle neu’r ffôn symudol nesaf, gallwch ddysgu sut i ddiogelu eich hun yn erbyn aflonyddwyr yn eich diwydiant yn y dyfodol, a sut i ddyfeisio datrysiadau mwy cystadleuol i gynnal llwyddiant eich busnes. Wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol a brwdfrydig sydd eisiau symud eu gyrfa ymlaen yn gyflym, mae gradd Meistr Gweinyddiaeth Busnes Prifysgol Wrecsam yn ymdrin â disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, gan ddatblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.
Mae’r cwrs MBA 100% ar-lein hwn wedi’i ddylunio i’ch galluogi i astudio o gwmpas eich swydd bresennol ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.
I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba/