Beth fyddwch yn ei ddysgu
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i ddatblygu’r prif alluoedd a sgiliau proffesiynol hanfodol i wyddonydd cyfrifiadurol.
Mae’r modiwlau a addysgir yn cwmpasu elfennau sylfaenol o wyddor cyfrifiadurol, gan gynnwys:
Mae’r rhaglen yn cwmpasu ieithoedd a llwyfannau rhaglenni modern gan gynnwys HTML5, CSS3, JavaScript, Java, PHP a MySQL.
Mae gan y rhaglen ffocws ar “fyd go iawn” ac ateb problemau, gyda ystyriaethau cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol wedi’u hymgorffori ar draws pob modiwl. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys prosiect ymchwil 45 credyd, lle byddwch yn gweithio ar bwnc arbenigol gyda goruchwyliaeth briodol.