Manteision allweddol
[key_benefits first=”MBA Rheoli Gofal Iechyd 100% Ar-lein o fewn 24 mis”]
Mae’r rhaglen MBA Rheoli Gofal Iechyd 100% ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd uchelgeisiol ac arweinwyr sy’n dod i’r amlwg yn y maes gofal iechyd sydd eisiau symud ymlaen yn bellach ac yn gyflymach trwy ddatblygu eu dealltwriaeth a’u defnydd o reoli ac arweinyddiaeth.
Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.
Yr hyn sy’n gwneud y rhaglen rheoli prosiectau ar-lein hon yn wahanol yw ei natur hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar unrhyw adeg o unrhyw leoliad. Mae’n golygu y gallwch astudio wrth weithio, felly nid oes angen teithio na chymryd absenoldebau astudio. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.
Ynglŷn â'n cwrs MBA Rheoli Gofal Iechyd
Cyflwynir y cwrs MBA Rheoli Gofal Iechyd yn gyfan gwbl ar-lein ac mae’n datblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar arweinwyr yn y maes gofal iechyd, gan gynnwys:
- Cysyniadu arweinyddiaeth yn y sector gofal iechyd
- Heriau a datrysiadau arweinyddiaeth sy’n benodol i ofal iechyd
- Ymarfer broffesiynol a gweithredu strategol mewn gofal iechyd
- Rheoli perfformiad yn effeithiol
- Newid creadigol ac arloesedd
- Sgiliau Cyfathrebu
Mae hefyd yn cwmpasu rhai o’r disgyblaethau busnes mwyaf allweddol, gan gynnwys strategaeth, marchnata a rheoli adnoddau dynol ac mae’n datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.