Eich cwrs MBA Marchnata 100% ar-lein

Ffordd well i symud eich gyrfa ymlaen yn gynt.

Cwrs MBA Marchnata 100% ar-lein o brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfa

  • Gwnewch gais erbyn: 24 Ebrill 2025
  • I ddechrau ar: 5 Mai 2025

180 credyd

2 flynedd yn rhan-amser

Cyfanswm ffioedd £6,000

Manteision Allweddol

  • MBA 100% Ar-lein o fewn 24 mis
  • Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  • Ennill cyflog wrth ddysgu
  • Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  • Cefnogaeth academaidd lawn

Enillwch eich cymhwyster MBA Marchnata ar-lein gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Fel rhan o Brifysgol Wrecsam, mae ein gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) Marchnata unigryw yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol prysur drawsnewid eu rhagolygon gyrfa trwy ddatblygu set o sgiliau busnes cadarn a chyflawn a dealltwriaeth ddyfnach o farchnata yn arbennig.

Meithrin y gallu a'r wybodaeth i fod yn arweinydd ym maes marchnata

Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau allweddol sy’n ofynnol gan uwch farchnatwyr, gan gynnwys marchnata strategol, cynllunio cyfathrebu integredig, creadigrwydd, arloesedd a dealltwriaeth o ymddygiad defnyddwyr. Mae hefyd yn cwmpasu disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys cyllid a rheoli adnoddau dynol, ac mae’n datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.

Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, yn dysgu sut i greu a gweithredu strategaethau marchnata integredig o’r radd flaenaf, a dyfnhau eich dealltwriaeth o gymhelliant defnyddwyr.

Mae’r medrau a’r wybodaeth allweddol yn cynnwys:

 

Arbenigwyr dysgu hyblyg

Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae’r cwrs MBA cyfan gwbl ar-lein hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

MBA â phwyslais gyrfaol, ar gyfer byd gwaith modern

Mae’r cwrs MBA hwn wedi’i arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i mewn i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs MBA sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth). Rydym hefyd yn derbyn gradd Meistr neu gyfwerth.
  • Dylech feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch gallu iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
    • TOEFL isafswm cyffredinol o 83
    • PTE Academic isafswm cyffredinol o 58
    • Cambridge (CAE & CPE) cyfanswm cyffredinol o 176
    • Cymhwyster gradd cyfrwng Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MBA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

  • Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
  • Fesul modiwl 15 credyd £500

Modules

Modiwlau
Marchnata Strategol

Mae Marchnata Strategol yn rhoi’r wybodaeth i fyfyrwyr i ddadansoddi a chynnig ymatebion strategol i themâu’r farchnad sy’n dod i’r amlwg ac yn eu galluogi i ystyried eu heffaith ar farchnata a’i berthynas â rhannau eraill o’r sefydliad. Y nod yw darparu canllaw clir a chryno i’r offer a’r fframweithiau sydd eu hangen ar gyfer penderfyniadau marchnata strategol a all lywio’r cynllun corfforaethol mwy.

Cyfathrebu Integredig

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu gallu myfyrwyr i gymhwyso cysyniadau cynllunio cyfathrebu a rheoli brand effeithiol. Mae’n rhoi mewnwelediad i’r cyfraniad i berfformiad sefydliadol a wneir trwy wella cysylltiadau cynaliadwy gyda rhanddeiliaid a rhoi gwerth i gwsmeriaid.

Parhad a Thwf Cwsmeriaid

Nod cyffredinol y modiwl hwn yw archwilio’n feirniadol yr offer a’r technegau a ddefnyddir i greu twf cwsmeriaid llwyddiannus ym mhob cyd-destun. Wrth wneud hynny, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr, ac yn gwerthuso’r llenyddiaeth a’r damcaniaethau perthnasol sy’n esbonio cymhelliant defnyddwyr a pherthnasoedd cwsmeriaid. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i ddadansoddi strategaeth farchnata sefydliad ac yn dangos cymhwysiad elfennau, cysyniadau ac offer allweddol yn yr amgylchedd busnes.

Newid Creadigol ac Arloesi

Modiwl sy’n darparu mewnwelediad hanfodol i natur barhaus newid a chreadigrwydd ar gyfer goroesiad a thwf sefydliadol. Mae’r modiwl hwn yn annog cydnabod y tensiynau sefydliadol a’r amrywiadau perfformiad sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a chymhwyso newid a syniadau newydd.

Pwysleisio'r Amgylchedd

Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng arferion busnes a’r effaith ar yr amgylchedd byd-eang. Mae’n ystyried y ffyrdd y mae busnesau yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol i bryderon a pholisïau amgylcheddol byd-eang.

Gweithredu Strategaethau

Mae’r modiwl hwn yn annog myfyrwyr i archwilio ac ymchwilio’n annibynnol i’r cyfraniad amrywiol y mae arferion strategol yn eu gwneud i berfformiad busnes. Mae’n datblygu technegau dadansoddol a dyfarniadau yn seiliedig ar fodelau damcaniaethol a thueddiadau cyd-destunol sy’n effeithio ar weithredu strategol.

Mewnwelediadau Cyllid a Gwybodaeth Busnes

Mae’r modiwl hwn yn datblygu gallu myfyrwyr i ddadansoddi data busnes a chyllid a dysgu mewnwelediadau allweddol a all ddylanwadu ar benderfyniadau strategol. Mae hyn yn cyfrannu at les ariannol cynaliadwy sefydliadau masnachol neu ddielw sy’n wynebu cystadleuaeth aflonyddgar.

Rheoli Adnoddau Dynol mewn Cyd-destun

Yn galluogi myfyrwyr i archwilio a datblygu eu medrau a’u gwybodaeth fel ymarferydd Rheoli Adnoddau Dynol yn annibynnol trwy ddadleuon cyfoes ac adeiladol, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli adnoddau dynol ar draws yr amgylchedd busnes strategol a gweithredol a swyddogaethau rheoli cysylltiedig. Nod y modiwl hwn yw cynyddu hygrededd ym maes rheoli adnoddau dynol a datblygu fframweithiau i gefnogi a thanategu natur ddatblygiadol y gwaith a fydd yn integreiddio â strategaethau a swyddogaethau adnoddau dynol eraill ac yn cefnogi cyfalaf dynol a pherfformiad busnes. Mae’n datblygu technegau dadansoddol a dyfarniadau yn seiliedig ar fodelau damcaniaethol a thueddiadau cyd-destunol sy’n effeithio ar reoli gwobrau ar draws swyddogaethau busnes strategol.

Dulliau Ymchwil

Mae’r modiwl hwn yn rhoi mewnwelediad i natur a chyfansoddiad dulliau ymchwil academaidd sy’n cyd-fynd â fframweithiau ymchwil cyffredin. Mae’n cyflwyno technegau ac ymagweddau dadansoddol at samplu ynghyd â moeseg ymchwil er mwyn rhoi cyfarwyddyd i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i ymchwilio i a datrys eu cwestiynau ymchwil.

Adolygiad llenyddiaeth

Mae’r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i adnabod problem fusnes/rheoli gyfoes sy’n ddigon cymhleth i gyfiawnhau ymchwiliad fel modd o adnabod atebion posibl. Bydd yn rhoi cipolwg ar natur ymchwil academaidd, ynghyd â methodoleg a thechnegau dadansoddol. Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn cyflwyno eu cynnig ymchwil yn seiliedig ar adolygiad llenyddiaeth manwl. Ymchwilir i’r broblem sy’n cael ei hadnabod yn y modiwl hwn yn nhraethawd hir y myfyriwr.

Traethawd hir

Yn y traethawd hir, bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i ac yn adrodd ar eu problem fusnes/rheoli gyfoes dewisol. Bydd y gwaith ymchwil a’r ysgrifennu yn cael ei wneud o dan oruchwyliaeth academaidd.

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam