Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Maria Montessori a’r Dull Montessori Method o addysgu

Postiwyd ar: Mehefin 26, 2024
gan
Blue and Red letters spelling out the Word Montessori

Bu i Dr Maria Montessori, ffisegydd ac addysgwr o’r Eidal, chwyldroi byd addysg plentyndod cynnar gyda’r damcaniaethau dysgu arloesol a datblygu’r Dull Montessori yn gynnar yn yr 20fed Ganrif.

Mae ei dull unigryw wedi dylanwadu ar addysgwyr, rhieni a sefydliadau diri o amgylch y byd, gan bwysleisio persbectif plentyn canolog sy’n hyrwyddo dysgu annibynnol a datblygiad holistig.

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio’r Dull Montessori, ei elfennau craidd, a rôl yr athro yn y dosbarth Montessori.

Y Dull Montessori

Wrth wraidd addysg Montessori mae’r Dull Montessori, dull addysgeg sy’n canolbwyntio ar feithrin tuedd naturiol plentyn i ddysgu drwy brofiadau ymarferol, gan ddatblygu’r agweddau cymdeithasol, emosiynol, ffisegol, ac academaidd y plentyn.

Arsylwodd Maria Montessori fod plant yn meddu ar awydd cynhenid i archwilio eu hamgylchedd, a chreda y dylai addysg gyd fynd â’r chwilfrydedd naturiol hwn. I gyflawni hyn, datblygodd amgylchedd ddysgu sy’n galluogi plant i ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain gan hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig ac addas i’r unigolyn.

Agorodd y dosbarth Montessori cyntaf, o’r enw Casa dei Bambini, neu Dŷ’r Plant, yn Rhufain, yr Eidal, yn 1907. Ers hynny, mae ei dull arloesol wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang, gan ddylanwadu ar arferion a damcaniaethau addysgol mewn cyd-destunau diwylliannol amrywiol.

Mae’r athroniaeth Montessori wedi mynd y tu hwnt i ffiniau, gydag ysgolion Montessori’n cael eu sefydlu ledled y byd. Yn ôl adroddiad gan y 2022 Global Montessori Census, mae’r dull addysgeg hwn wedi ei weithredu mewn 154 o wledydd. Y gwledydd sydd â’r nifer uchaf o ysgolion Montessori yw’r Unol Daleithiau, Gwlad Thai, yr Almaen, Canada, a Tanzania Mae wedi ei nodi hefyd bod dros 600 o ysgolion Montessori yn y DU, gyda 88% o’r rhai a gafodd eu harolygu gan OFSTED wedi derbyn gradd “rhagorol” neu “dda”.

Planau datblygiad

Yn ei gwaith athroniaeth addysgol, arsylwodd Maria Montessori bedwar cyfnod amlwg – a rhoddodd y term ‘planau’ arnynt – o ddatblygiad plant a phobl, a galwodd am ddulliau addysgol penodol ar gyfer pob plân. Mae’r planau hyn o enedigaeth hyd at 6 oed, o 6 i 12, o 12 i 18, ac o 18 i 24.

Yn ystod y plân cyntaf Cyflwynodd Montessori sawl cysyniad i egluro hyn, yn cynnwys:

  • ‘y meddwl amsugnol’ – pŵer unigryw i’r plân cyntaf sy’n egluro sut mae plentyn yn gallu ymgyfarwyddo ag ysgogiadau amgylcheddol megis synhwyrau, iaith, a diwylliant, yn ddidrafferth
  • ‘cyfnodau sensitif’ – cyfnodau sy’n arbennig o sensitif i ysgogiadau penodol, a,
  • ‘normalrwydd’ – a arsylwyd mewn plant o 3 i 6, dyma’r gallu i ganolbwyntio a ffocysu ar weithgaredd yn ogystal â “disgyblaeth ddigymell, gwaith hapus a pharhaus, teimladau cymdeithasol i helpu a chydymdeimlad ag eraill.”

Cydrannau dysgu Montessori

Mae nifer o arferion yn cael eu dilyn mewn ysgolion Montessori ar draws y byd, ond yr egwyddorion a’r elfennau hyn yw asgwrn cefn y dull. Mae pob un o’r cydrannau hyn yn gosod sylfaen ar gyfer profiad addysgol holistig sy’n meithrin datblygiad y plentyn cyfan.

Dosbarthiadau cymysg o ran oed.

Ewch i ddosbarth Montessori, ac fe welwch amgylchedd sy’n adlewyrchu amrywiaeth y byd go iawn. Mae dosbarthiadau gyda phlant o wahanol oed yn nodweddiadol o’r Dull Montessori, gyda grwpiau oed o fewn tair blynedd i’w gilydd (0-3, 3-6 ac yn y blaen), yn hyrwyddo synnwyr o gymuned a chydweithio.

Mae plant iau yn elwa o’r arweiniad gan gyfoedion hŷn, a’r plant hŷn yn datblygu sgiliau arwain wrth gynorthwyo’r cymheiriaid iau. Mae’r amgylchedd dynamig yn meithrin awyrgylch o gydweithio, gan adlewyrchu’r amrywiaeth cymdeithasol y bydd plant yn ei brofi drwy gydol eu bywyd.

Dewis y myfyriwr o weithgareddau

Yn yr amgylchedd Montessori, mae myfyrwyr yn cael eu grymuso i gymryd cyfrifoldeb am eu taith addysgol. Mae’r rhyddid i ddewis gweithgareddau’n meithrin synnwyr o gyfrifoldeb ac annibyniaeth o oed ifanc.

Wrth ddewis tasgau sy’n gyson â’u diddordebau a’u hanghenion datblygu, mae myfyrwyr yn dod yn gyfranogwyr gweithredol yn eu haddysg. Mae’r dull hwn sydd wedi ei bersonoli yn caniatáu i blant, nid yn unig danio’r brwdfrydedd dros ddysgu, ond i symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunan, gan feithrin diddordeb oes at archwilio a darganfod.

Cyfnodau di-dor o amser gweithio

Mae amgylchedd dosbarth Montessori’n torri’n rhydd o’r strwythur confensiynol o wersi byr, wedi eu rhannu. Maent yn croesawu blociau di-dor o amser gweithio yn lle hynny. Mae’r dyluniad hwn yn annog canolbwyntio manwl ar dasgau, gan alluogi plant i ymgysylltu mewn gweithgareddau am gyfnodau hirach.

Mae amser gweithio di-dor yn meithrin canolbwyntio, dyfalbarhad, a synnwyr o gyflawniad wrth i fyfyrwyr drochi eu hunain yn y gweithgaredd o’u dewis, gan feithrin diddordeb mewn dysgu sy’n mynd tu hwnt i gyfyngiadau addysg draddodiadol.

Deunyddiau arbenigol

Mae dosbarthiadau wedi dylunio deunyddiau dysgu’n ofalus iawn wedi ei deilwra i bob ffurf datblygu, gyda phob un wedi ei wneud o ddeunyddiau naturiol, estheteg megis coed, yn hytrach na phlastig. Mae’r deunyddiau arbenigol hyn yn briodol o ran oed ac yn gweithio fel offer ar gyfer archwilio ymarferol.

O ddeunyddiau synhwyraidd sy’n ysgogi’r synhwyrau, i ddeunyddiau mathemateg ac ieithoedd sy’n gwneud cysyniadau haniaethol yn real, mae pob eitem wedi ei greu i gynorthwyo dealltwriaeth a meistrolaeth y plentyn o bynciau gwahanol.

Amgylchedd wedi’i baratoi

Wrth wraidd y dull hwn mae’r cysyniad o amgylchedd wedi’i baratoi. Mae dosbarthiadau wedi eu trefnu’n ofalus i feithrin annibyniaeth, trefn, ac archwilio. Mae dodrefn maint plentyn, deunyddiau sy’n apelio’n estheteg, a chynllun trefnus yn cyfrannu at amgylchedd sy’n hyrwyddo dysgu a chreadigrwydd.

Nid man ffisegol yn unig mo’r amgylchedd sydd wedi’i baratoi, mae’n ymestyn i feddylfryd yr addysgwyr a’r athroniaeth gyffredinol o groesawu proses ddysgu unigryw pob plentyn.

Darganfod yn hytrach na chyfarwyddyd

Mae athrawon yn gweithio fel hwyluswyr, gan arwain myfyrwyr i archwilio cysyniadau’n annibynnol, gan roi pwyslais ar ddarganfod yn hytrach na chyfarwyddyd.

Mae’r dull hwn yn tapio i mewn i chwilfrydedd naturiol plant ifanc, gan danio diddordeb gwirioneddol yn y pwnc. Wrth ganiatáu i fyfyrwyr ddarganfod gwybodaeth eu hunain, mae’r Dull Montessori yn meithrin sgiliau meddwl beirniadol, gallu i ddatrys problemau, ac awydd gydol oes i ddeall y byd o’u cwmpas.

Rôl yr athro

Yn wahanol i’r model traddodiadol lle mae addysgwyr yn arwain gwersi strwythuredig, mae athrawon Montessori’n arsylwi, cynorthwyo, a meithrin taith ddysgu unigol pob plentyn. Mae’r hwyluswyr hyn yn monitro’r myfyrwyr yn awchus, gan nodi eu diddordebau, cryfderau, a heriau.

Gyda dealltwriaeth fanwl o gam datblygu pob plentyn, mae’r athro Montessori yn darparu arweiniad wedi ei deilwra, cyflwyno deunyddiau a gweithgareddau priodol sy’n unol ag anghenion presennol y plentyn. Mae’r pwyslais ar feithrin annibyniaeth a dysgu hunangyfeiriol, gan rymuso myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o’u profiad addysgol.

Effaith y dull Montessori yn y byd go iawn

Mae effaith damcaniaethau Maria Montessori yn amlwg yn llwyddiant unigolion a addysgwyd yn y dull Montessori yn y byd go iawn. Mae’r ysgolhaig athroniaeth addysgol, Angeline Lillard, wedi cynnal nifer o astudiaethau ar effaith y profiad dysgu Montessori ac wedi gweld bod lefelau medrusrwydd gradd 8 mewn mathemateg a Saesneg rywfaint yn uwch nac mewn ysgolion rhanbarth a bod oedolion a fynychodd ysgolion Montessori yn sgorio’n sylweddol uwch wrth fesur llesiant cyffredinol, ymgysylltiad, ymddiriedaeth gymdeithasol, a hunanhyder.

Mae nifer o bobl sy’n llygad y cyhoedd hefyd wedi mynychu ysgolion Montessori, yn cynnwys Jeff Nezos, sylfaenydd Amazon, Larry Page a Sergy Brin, sylfaenwyr Google, yr actor George Clooney, a’r cerddorion Beyonce a Taylor Swift.

Hyrwyddo dysgu addas i’r unigolyn

Mae damcaniaeth addysgol arloesol Maria Montessori wedi mynd y tu hwnt i syniadau addysgu traddodiadol, gan ail siapio tirwedd addysg plentyndod cynnar. Mae’r dull Montessori, gyda’i addysgeg unigryw a phwyslais ar ddatblygiad seicolegol, yn tystio i ddull gweledigaethol Dr Montessori.

Wrth bwysleisio dull plentyn canolog o addysgu a meithrin dysgu annibynnol, mae’r dull hwn yn gatalydd pwerus wrth ddatblygu sgiliau cymdeithasol a thwf seicolegol, ynghyd â sawl nodwedd fanteisiol arall i’r unigolyn.

Dysgwch sut i chwarae rôl allweddol yn natblygiad plant gyda gradd MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar 100% ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Wedi ei addysgu’n rhan amser, byddwch yn astudio ystod o bynciau fydd yn eich gwneud yn addysgwr mwy effeithiol, yn cynnwys llesiant a gwytnwch mewn plentyndod cynnar, arfer cynhwysol, ac arfer gwrth-ormesol.