Mae pawb yn gwybod nad siwrnai hawdd mo’r siwrnai entrepreneuraidd. Er bod pobl oddi allan yn credu o bosibl bod bywyd entrepreneuriaid yn ddiddorol ac yn gyffrous, fel arfer mae’r realiti o ddydd i ddydd yn cynnwys llawer o waith caled, oriau maith, ansicrwydd, heriau, rhwystrau a helbulon, straen emosiynol, diffyg rheolaeth, a chryn effaith ar fywydau personol.
Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Sifted, a oedd yn archwilio iechyd meddwl sylfaenwyr egin fusnesau, dywedodd nifer o’r ymatebwyr eu bod yn gorweithio, eu bod wedi ymlâdd a’u bod ar chwâl.
- Dywedodd 45% fod eu hiechyd meddwl yn ‘wael’ neu’n ‘wael iawn’
- Dywedodd 85% eu bod wedi teimlo dan straen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd 39% eu bod wedi dioddef iselder a dywedodd 75% eu bod wedi teimlo gorbryder dros yr un cyfnod
- Dywedodd 55% eu bod wedi dioddef insomnia a dywedodd 53% eu bod wedi ymlâdd yn emosiynol, yn gorfforol ac yn feddyliol
- Dywedodd 61% eu bod wedi ystyried gadael eu cwmni, ac roedd 49% yn bwriadu gwneud hynny o fewn y 12 mis nesaf.
Yn ddiddorol ddigon, roedd gan bob perchennog busnes newydd anhwylder iechyd meddwl o ryw fath.
Mae’n amlwg iawn bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i lesiant seicolegol os ydym am sicrhau llwyddiant entrepreneuraidd. Felly, a oes yna ffyrdd o geisio diogelu llesiant entrepreneuriaid? Sut y gallant ddiogelu eu hiechyd meddwl yn well yn wyneb helbulon a sefyllfaoedd llawn straen?
Beth yw rôl gwytnwch seicolegol a beth yw ei gysylltiad â llesiant meddyliol?
Mae erthygl PubMed yn y Llyfrgell Feddygaeth Genedlaethol yn diffinio gwytnwch fel a ganlyn: “a psychobiological factor which determines an individual’s response to adverse life events. It’s a human capacity to adapt swiftly and successfully to stressful/traumatic events and manage to revert to a positive state. It is fundamental for growth of positive psychology which deals with satisfaction, adaptability, contentment, and optimism in peoples’ lives.”
Yn amlwg, ceir cydberthynas glir rhwng gwytnwch seicolegol a llesiant meddyliol – sef ein barn gadarnhaol, fewnol ein bod yn ymdopi’n dda, ar lefel seicolegol, gyda phwysau bywyd bob dydd, ac y gallwn weithio’n gynhyrchiol ac yn llwyddiannus. Mae’r Mayo Clinic yn nodi y gall gwytnwch helpu i’n diogelu rhag cyflyrau iechyd meddwl, fel iselder a gorbryder, ac y gall ein helpu i ddelio â phethau sy’n cynyddu risg cyflyrau iechyd meddwl, fel staen neu drawma.
A all entrepreneuriaid gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith tra byddant yn ehangu eu busnes?
Diffyg cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith oedd un o’r prif broblemau y soniodd perchnogion busnesau bach amdani yn arolwg Sifted: dros y 12 mis diwethaf, dywedodd 43% eu bod wedi bwyta’n llai iach, dywedodd 57% eu bod wedi gwneud llai o ymarfer corff, dywedodd 62% eu bod wedi cymryd llai o wyliau a dywedodd 65% eu bod wedi treulio llai o amser gyda’u cyfeillion a’u teulu.
Er gwaethaf yr ystadegau ysgytwol hyn, mae’n bosibl cael cydbwysedd iach rhwng eich bywyd personol a’ch bywyd proffesiynol – ond rhaid ichi fod yn rhagweithiol ac yn ymroddedig. Wnaiff cydbwysedd o’r fath ddim digwydd ar ei ben ei hun – rhaid iddo gael ei greu. Os ewch ati i osod terfynau clir, blaenoriaethu a rheoli amser, trefnu egwylion rheolaidd, dysgu sut i allanoli a dirprwyo, rhoi’r gorau i ganolbwyntio ar berffeithrwydd, a gwneud amser ar gyfer hunanofal ac ymwybyddiaeth ofalgar, bydd modd ichi gyfrannu at gydbwysedd sy’n ategu iechyd meddwl da – yn y tymor byr a’r tymor hir.
Sut y gallwch ddelio â’r pethau anhysbys sy’n gysylltiedig ag entrepreneuriaeth a rhedeg egin fusnes?
Mae delio â’r pethau anhysbys sy’n gysylltiedig â rhedeg eich busnes eich hun yn rhywbeth y bydd yn rhaid ichi ei wneud yn barhaus – ni allwch ei osgoi. Dyma un o’r prif achosion straen a fydd yn rhoi gwytnwch entrepreneuriaid yn y fantol, a byddwch angen cyfuniad o wytnwch, hyblygrwydd a pharodrwydd i baratoi. Er bod dygymod â’r realiti hwn – a’i dderbyn hyd yn oed, os oes modd – yn rhan o’r ateb, dyma rai enghreifftiau o strategaethau ac ymddygiadau y gall entrepreneuriaid eu rhoi ar waith er mwyn gwella’u siawns o ddod trwy’r gwaethaf.
Wrth drafod sut i ddelio â’r pethau ansicr sy’n gysylltiedig ag ehangu a rheoli busnes llwyddiannus, rhaid sôn am y rôl sydd gan reoli risgiau. Bydd entrepreneuriaid sy’n mynd ati i bennu risgiau mor gynnar â phosibl, gan ddatblygu a gweithredu strategaethau lliniaru mewn ymateb i’r risgiau hynny, mewn sefyllfa gryfach a mwy diogel nag entrepreneuriaid na allant weld y risgiau dan sylw – strategaethau fel sicrhau ffrydiau refeniw amrywiol, cynnal byffer ariannol a datblygu cynlluniau wrth gefn cadarn.
Ni ddylid tanbrisio rhwydweithiau cymorth – rhai proffesiynol a phersonol. O fentoriaid yn y byd diwydiant a chysylltiadau ar LinkedIn sy’n meddu ar brofiad, gwybodaeth ymarferol neu adnoddau a all eich helpu trwy amseroedd anodd, i deulu a chyfeillion a all gynnig clust i wrando neu ryw fath o ddifyrrwch i dynnu eich sylw oddi ar eich anawsterau, mae hi’n hanfodol ichi wybod pryd i droi at rywun i gael cyngor, help neu gymorth cymdeithasol.
Pan fo modd, dylech sicrhau o’r cychwyn cyntaf bod eich prosesau busnes yn ystwyth ac yn hyblyg, er mwyn eich helpu i ddelio â’r da a’r drwg sy’n rhan annatod o entrepreneuriaeth. Dylai sylfaenwyr busnesau bach a chanolig fod yn barod i newid, gan addasu eu strategaeth neu eu model yn unol â metrigau perfformio, newidiadau yn y farchnad, neu ofynion ac adborth cwsmeriaid.
Beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella gwytnwch personol?
Dylai entrepreneuriaid sydd â diddordeb mewn gwella’u gwytnwch personol ganolbwyntio ar feithrin sgiliau, arferion ac ymddygiadau arbennig sy’n eu galluogi i ymateb yn fwy effeithiol i newidiadau, straen a helbulon. Gallant addasu nifer o nodweddion sy’n perthyn i’w personoliaeth – sef nodweddion sy’n golygu eu bod yn arloeswyr ac yn arweinwyr creadigol, ysbrydoledig a llawn cymhelliant – er mwyn gwella’u gwytnwch a diogelu eu llesiant meddyliol.
Er gwaethaf rhwystrau ac anawsterau, mae entrepreneuriaid gwydn yn fwy tebygol o wneud y canlynol:
- Dysgu yn sgil methiannau. Myfyriwch ar rwystrau ac anawsterau. Ewch ati i’w dadansoddi er mwyn gweld pa wersi y gallwch eu dysgu. Derbyniwch gamgymeriadau, byddwch yn hunanymwybodol a dysgwch yn sgil pob profiad a gewch ar hyd y ffordd. Rydych mewn cwmni da: mae entrepreneuriaid a ddioddefodd fethiannau cyn llwyddo yn cynnwys Jeff Bezos, Oprah Winfrey, Richard Branson a Walt Disney.
- Arfer dyfalbarhad a dycnwch. Gallwch wneud hyn trwy ddatblygu dulliau penderfynu beirniadol, datrys problemau a meithrin sgiliau creadigol er mwyn anelu at eich nod a chadw’r busnes ar y trywydd iawn. Mae nodweddion hollbwysig sy’n perthyn i entrepreneuriaid yn cynnwys peidio â rhoi’r ffidil yn y to a chreu atebion ‘y tu allan i’r bocs’ ar gyfer datrys problemau.
- Gosod nodau realistig. Gwnewch yn siŵr bod eich amcanion busnes yn fach ac yn gyraeddadwy, a’u bod yn cyfrannu at gynnydd graddol ac ystyrlon ac ymdeimlad o gyflawni.
- Coleddu agwedd gadarnhaol a meddylfryd twf. Ceisiwch weld heriau fel cyfleoedd, byddwch yn ddiolchgar, canolbwyntiwch ar ddysgu a datblygu’n barhaus a chredwch fod modd datblygu galluoedd trwy ymroddiad a gwaith caled.
- Rhoi blaenoriaeth i hunanofal, rheoli straen a rheolaeth emosiynol. Pethau fel deiet iach, digon o gwsg, ymarfer corff rheolaidd, treulio amser gydag anwyliaid, gwneud gweithgareddau sydd wrth eich bodd a myfyrio – mae’r elfennau hollbwysig sy’n perthyn i hunanofal ac ymwybyddiaeth ofalgar yn sail i iechyd meddwl cadarn ac maent yn helpu gwytnwch i ffynnu.
Ewch ati i wella eich gwytnwch entrepreneuraidd a’ch llesiant meddyliol er mwyn sbarduno cynaliadwyedd a llwyddiant busnes yn yr hirdymor
Beth am wireddu eich breuddwyd o lansio a datblygu eich busnes llwyddiannus eich hun gyda rhaglen MBA Entrepreneuriaeth ar-lein Prifysgol Wrecsam.
Os ydych yn ddarpar arweinydd busnes sy’n meddu ar y creadigrwydd, yr uchelgais a’r cymhelliant i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a mentro’n ofalus, dyma’r cwrs i chi. Datblygwch ddealltwriaeth gyfannol o’r ecosystem entrepreneuraidd, gan ennill y sgiliau, yr arbenigedd a’r mewnwelediad sy’n angenrheidiol i lwyddo yn amgylchedd busnes dynamig y bydd sydd ohoni. Dewch i archwilio pynciau fel marchnata, strategaeth, arweinyddiaeth, rheoli pobl, cyllid busnes, rheoli cadwyni cyflenwi a mwy trwy ddilyn gradd fusnes hynod hyblyg a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein – cwrs y gallwch ei astudio’n rhwydd o gwmpas eich ffordd o fyw.