Gwella Enillion ar Fuddsoddiad drwy Gynaliadwyedd
Postiwyd ar: Mai 16, 2019gan Ruth Brooks
Mae’r cynnydd yn nifer y cwmnïau sy’n mabwysiadu a gweithredu ystod eang o arferion cynaliadwyedd yn wirfoddol wedi sbarduno trafodaeth ynghylch natur cynaliadwyedd a’i oblygiadau hirdymor i sefydliadau. A yw mabwysiadu arferion cynaliadwyedd yn fath o wahaniaethu strategol sy’n gallu arwain at berfformiad ariannol o radd uwch? Neu, ai dyma yw’r drefn arferol – ffactor hanfodol sy’n gallu sicrhau goroesiad corfforaethol ond na fydd, o reidrwydd, yn rhoi mantais gystadleuol?
Yn aml, mae cynaliadwyedd yn cael ei ystyried yn beth drwg i fusnes; mae modelau traddodiadol enillion ar fuddsoddiad yn canolbwyntio fwy ar fanteision byrdymor buddsoddiad, ac nid yw’r enillion ar fuddsoddiad mewn cynaliadwyedd yn glir yn syth. Fodd bynnag, dylai strategaethau busnes sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy edrych ar yr enillion hirdymor, o safbwynt ariannol ac amgylcheddol. Mae tystiolaeth yn dangos y gall cynaliadwyedd fod yn ffactor angenrheidiol ac yn ffactor sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae rhai cwmnïau’n creu mantais strategol go iawn drwy fabwysiadu mesurau cynaliadwyedd sy’n anodd i eraill gystadlu â nhw.
A hwythau’n arweinwyr yn y farchnad, mae Marks and Spencer, Ikea, Unilever, Patagonia a Nestle oll yn buddsoddi’n sylweddol mewn cynaliadwyedd. Y llynedd, roedd cyfanswm refeniw byd-eang IKEA yn 38.8 biliwn ewro. Ar yr un pryd, buddsoddodd y brand yn sylweddol yn ei nod i ddibynnu 100% ar ynni adnewyddadwy. Mae Nestle wedi addo sicrhau bod 100% o’i ddeunydd pecynnu yn ddeunydd y gellir ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio erbyn 2025, a’r gwanwyn hwn, cyhoeddodd Marks and Spencer bod 100% o’r cotwm a ddefnyddir yn ei ffabrigau wedi dod o ffynhonnell gynaliadwy, sy’n golygu bod y ffermwyr cotwm wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio technegau sy’n defnyddio llai o ddŵr, llai o blaladdwyr a gwrtaith.
Felly sut mae sefydliadau o’r fath yn defnyddio’u harferion cynaliadwyedd yn strategol i wella enillion ar fuddsoddiad? Bydd llawer o gwsmeriaid yn dewis un cwmni dros un arall os ydynt yn ei gysylltu â syniadau cadarnhaol o ran cynaliadwyedd. Mae Patagonia, er enghraifft, yn rhoi 1% o’i werthiannau tuag at elusennau amgylcheddol ac yn annog prynwyr i gyweirio neu ailddefnyddio eu dillad yn hytrach na phrynu rhai newydd. Efallai fod hyn yn mynd yn groes i reddf busnesau sy’n ceisio gwneud elw, ond mae elw Patagonia yn cynyddu bob tro mae’n ehangu ar ei genhadaeth gymdeithasol – dyna pa mor rymus yw syniadau cadarnhaol am frand.
Mae bod yn sefydliad cynaliadwy yn dod â manteision diwylliannol a manteision i’r gweithlu. Yn ogystal â thâl teg, trefniadau gweithio hyblyg a chydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd, mae gweithwyr ifanc heddiw yn chwilio am gyflogwyr cymdeithasol gyfrifol. Mae hyn yn fanteisiol i sefydliadau cynaliadwy mewn dwy ffordd; bydd y talent gorau yn ceisio cyfleoedd i weithio gyda nhw, a byddant yn gallu cadw talent am gyfnod hwy, gan osgoi’r costau sylweddol sy’n gysylltiedig â recriwtio gweithiwr newydd (sydd o gwmpas £50,000 erbyn hyn, yn ôl y sôn). Y wers yn hyn oll? Recriwtiwch bobl sy’n rhannu’r un gwerthoedd â chi, a byddant yn aros am gyfnod hwy.
Ydy, mae rhai gweithgareddau cynaliadwyedd yn dod yn ‘arfer orau’ ac, felly, yn ffactor angenrheidiol. Mae cysylltiad sylweddol a chadarnhaol rhwng mabwysiadu arferion cynaliadwyedd strategol – rhai sy’n arwain at effaith hirdymor, penodol i’r cwmni – ac enillion ar gyfalaf a lluosrifau prisiad marchnad. Yna, mae arferion cynaliadwyedd cyffredin – megis newid i ddefnyddio goleuadau LED neu leihau ar becynnau plastig – hefyd yn fanteisiol i’r olaf o’r ddau.
Eisiau dysgu mwy? Mae Prifysgol Wrecsam wedi cyflwyno rhaglen Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) ar-lein. Wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol a brwdfrydig sydd eisiau symud eu gyrfa ymlaen yn gyflym, mae’r cwrs yn ymdrin â disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, yn ogystal â sut i ddatblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol, gan roi dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arwain i’r myfyrwyr.
Mae’r cwrs yn 100% ar-lein, fel eich bod yn gallu astudio o gwmpas eich swydd bresennol. Ceir hefyd chwe dyddiad cychwyn drwy gydol y flwyddyn, felly gallwch ddechrau astudio pryd bynnag sydd orau i chi. Yn ogystal, mae opsiwn i dalu fesul modiwl, a gallech fod yn gymwys am fenthyciad ôl-raddedig a gefnogir gan lywodraeth y DU, a fyddai’n talu holl gost y cwrs.
Mae’r cyfnod ymgeisio nawr ar agor. I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba/