Deall y prynwr ymwybodol
Postiwyd ar: Mai 16, 2019gan Ruth Brooks
Nid yw cwsmeriaid yn prynu cynhyrchion y maent yn eu hoffi neu y mae ganddynt gysylltiad â’r brand bellach; maent yn edrych yn ddyfnach ar sut mae eu pryniadau yn cael effaith ehangach. Prynwriaeth ymwybodol yw’r ymwybyddiaeth gynyddol o effaith eich penderfyniadau prynu. Gan bwy ydw i’n prynu? Beth mae’r brand yn ei gynrychioli? A yw’r cwmni yr ydw i’n ei gefnogi yn cymryd cyfrifoldeb am yr amgylchedd? A yw’n ymrwymedig i gydraddoldeb cymdeithasol? Ac mae’r mudiad yn cyflymu…
Mae tri chwarter (75%) poblogaeth Prydain yn fwy ymwybodol bellach o’u defnydd o eitemau prynwyr gan gynnwys plastig, deunyddiau na ellir eu hailgylchu, cynnyrch llaeth, cig, siwgr, halen, glwten, olew palmwydd, teithio, dillad a chynhyrchion sydd wedi’u profi ar anifeiliaid. Ac er ein bod ni’n categoreiddio prynwriaeth ymwybodol fel mudiad a ysgogir gan y milflynyddwyr neu’r dosbarthiadau canol, mae hwn yn honiad naïf; dangosodd arolwg prynwyr eang Iceland bod 80% o’u prynwyr yn cefnogi eu trosglwyddiad i weithredu’n ddi-blastig. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi grym heb ei debyg o’r blaen i brynwyr allu mynnu bod cwmnïau yn glynu at eu gwerthoedd – neu fod mewn perygl o’u colli.
Dylanwad cynyddol cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Gyda phrynwyr bellach yn disgwyl mwy gan y brandiau a ddewisant, nid yw Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) erioed wedi bod mor bwysig. Gydag arolwg diweddar yn datgelu bod 89% o brynwyr yn dewis brandiau sydd â chofnod gwell o gynaliadwyedd a bod 90% yn cytuno bod gan gwmnïau/brandiau gyfrifoldeb i ofalu am y blaned a’i phobl, nid yw bod yn dryloyw yn y meysydd hyn yn nodwedd ‘braf ei chael’ bellach, mae’n anghenraid.
Pan ofynnwyd i Brif Weithredwyr nodi eu mesur llwyddiant pwysicaf yn 2019, dichon nad syndod felly mai’r mater mwyaf poblogaidd iddynt sôn amdano oedd “effaith ar gymdeithas, gan gynnwys anghydraddoldeb incwm, amrywiaeth, a’r amgylchedd”. Yn y gorffennol, roedd gweithgaredd CCC yn aml ar sail ad-hoc, ond mae prynwyr ymwybodol wedi gorfodi busnesau i wneud mwy. Nid yw defnyddio CCC fel ymarfer i wneud i’w hunain deimlo’n dda yn ddigon mwyach. Mae angen i sefydliadau ddod o hyd i weithgareddau y gallant ymrwymo iddynt yn yr hirdymor a dechrau defnyddio eu cynhyrchion, gwasanaethau neu weithlu hyd yn oed i fagu perthnasoedd hirdymor a phontio’r bwlch rhwng y cyhoedd a nod ymgyrch CCC penodol yn y pendraw. Os yw prynwyr yn gwybod bod busnes yn pryderu, maen nhw’n fwy tebygol o bryderu a bod yn ffyddlon i’r brand.
Wrth gwrs, gall ethos cryf o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol fod yn dda i elw net cwmni, hefyd. Wrth i frand ddechrau buddsoddi mewn mentrau CCC a chymryd rhan weithredol yn y gymuned leol, mae ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r brand yn cynyddu. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar eu henw da, sy’n helpu iddynt ddenu cwsmeriaid newydd a dal eu gafael ar gwsmeriaid presennol, gan drosi’n werth ariannol, ac yn ei dro, yn werth brand.
Mae prynwriaeth ymwybodol yn bwnc cynyddol a hynod ddifyr sy’n cael effaith ar fusnesau o bob maint. Mae cwmnïau yn chwilio am gyflogeion gyda’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i drwytho i mewn i ysbryd prynwyr a deall beth fydd effaith hyn. Mae gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes Prifysgol Wrecsam sydd 100% ar-lein wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a brwdfrydig sydd eisiau symud eu gyrfa ymlaen yn gyflym gyda dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arwain.
Yn ogystal â datblygu’ch sgiliau mewn strategaeth fusnes a dod o hyd i ddatrysiadau i heriau newydd a rhai sy’n dod i’r wyneb – megis ymwybyddiaeth prynwyr – byddwch hefyd yn mynd i’r afael â phynciau megis rheolaeth adnoddau dynol, cyllid a marchnata, a datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.
Gyda chwe dyddiad dechrau’r flwyddyn, cewch ddechrau arni pryd bynnag yr ydych yn barod ac mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.
I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba/