Cwrs MBA Marchnata 100% ar-lein

Paratoi i lwyddo. Enillwch radd MBA o ansawdd uchel o brifysgol flaenllaw o ran cyflogadwyedd

  • Apply By: 24 April 2025
  • Apply By: 5 May 2025

100% online

Accelerated degrees

Flexible payment options

Manteision allweddol

[key_benefits first=”MBA 100% Ar-lein o fewn 24 mis”]

 

Mae’r radd MBA Marchnata 100% ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a brwdfrydig sy’n ceisio datblygu eu gwybodaeth fusnes a’u sgiliau arwain. Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.

Mae ein rhaglen ar-lein yn sefyll allan o ganlyniad i’w natur hyblyg, sy’n eich caniatáu i astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.

Ynghylch ein rhaglen MBA

Cyflwynir ein cwrs MBA Marchnata yn gyfan gwbl ar-lein ac fe’i cynlluniwyd i adeiladu dealltwriaeth eang o fusnes, gan ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gyflym fel uwch farchnatwr. Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn meysydd marchnata allweddol, gan gynnwys ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu integredig, marchnata strategol ac arloesi. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth mewn disgyblaethau allweddol eraill gan gynnwys Rheoli Adnoddau Dynol a Chyllid.

Rhaglen MBA sy'n canolbwyntio ar yrfa i'ch paratoi i lwyddo yn y byd sydd ohoni heddiw