Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw moeseg gyfrifiadurol?

Postiwyd ar: Mehefin 15, 2022
gan
Three people sat around a computer screen together

Cyfres o egwyddorion cyffredin sy’n llywodraethu’r ffordd y defnyddiwn gyfrifiaduron – dyna yw moeseg gyfrifiadurol. Fel yn achos moeseg yn fwy cyffredinol, yn y bôn mae moeseg gyfrifiadurol yn cynnwys cyfres o ganllawiau athronyddol neu safonau moesol sy’n anelu at ddylanwadu ar ymddygiad ac atal niwed.

Er bod moeseg gyfrifiadurol yn gweithio’n galed i atal gwyddonwyr cyfrifiadurol, rhaglenwyr, ac unigolion eraill sy’n gwneud penderfyniadau, rhag camddefnyddio technoleg yn y maes, gall hefyd helpu i lywio ymddygiad cymdeithasol a’r modd y mae defnyddwyr yn rhyngweithio wrth ddefnyddio systemau cyfrifiadurol – yn enwedig mewn perthynas â’r rhyngrwyd.

Hanes moeseg gyfrifiadurol

Daeth moeseg gyfrifiadurol i’r amlwg yn gyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan ragwelodd Norbert Wiener, athro yn MIT, ganlyniadau cymdeithasol a moesol arwyddocaol yn sgil y dechnoleg seiberneteg yr oedd wrthi’n ei datblygu.

Ym 1950, cyhoeddodd Wiener The Human Use of Human Beings, lle’r aethpwyd ati am y tro cyntaf i ystyried cyfres o faterion, cwestiynau a phynciau moesegol yn ymwneud â chyfrifiadureg – ac erbyn 1973, roedd y Gymdeithas Peiriannau Cyfrifiadura (ACM) wedi mabwysiadu’i chod moeseg cyntaf.

Fodd bynnag, ni chafodd y term ‘moeseg gyfrifiadurol’ ei fathu tan 1976, a hynny gan Walter Maner, athro ym Mhrifysgol Daleithiol Bowling Green, er mwyn disgrifio’r gangen arbennig hon o foeseg gymhwysol. Aeth Maner yn ei flaen i hyrwyddo’r maes, gan ysbrydoli’r athronydd Terrell Ward Bynum, golygydd y cyfnodolyn gwyddonol Metaphilosophy, i lansio cystadleuaeth ar gyfer llunio traethodau’n ymwneud â moeseg gyfrifiadurol. Argraffwyd y canlyniadau ym 1985 mewn rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn a oedd yn dwyn y teitl Computers and Ethics. James Moor a ddaeth i’r brig gyda’i draethawd What Is Computer Ethics, lle nodir bod moeseg gyfrifiadurol yn cynnwys:

  1. Pennu bylchau o ran polisïau technoleg gyfrifiadurol.
  2. Egluro’r hyn y mae Moor yn ei alw yn ‘anhrefn gysyniadol’.
  3. Llunio polisïau ar gyfer defnyddio technoleg gyfrifiadurol.
  4. Cyfiawnhau polisïau’n foesegol.

Carreg filltir bwysig arall ym 1985 oedd cyhoeddi Computer Ethics gan Deborah Johnson, athro moeseg gymhwysol ym Mhrifysgol Virginia. Yn fuan iawn, cafodd Computer Ethics ei dderbyn fel gwerslyfr pwysig yn y maes, a phennodd yr agenda ymchwil mewn moeseg gyfrifiadurol ar gyfer y degawd nesaf.

Yn fwy diweddar, ac yn arbennig yn dilyn y cynnydd a welwyd yn y rhyngrwyd, mae trafodaethau a damcaniaethau moesegol ynglŷn â moeseg gyfrifiadurol wedi newid yn sylweddol – ond er bod rhai wedi proffwydo y bydd moeseg gyfrifiadurol yn disodli moeseg yn gyfan gwbl rhyw ddydd, mae nifer o athronwyr yn anghytuno. Cred Johnson, er enghraifft, nad yw cyfrifiaduron yn creu problemau moesegol newydd. Yn hytrach, dywed eu bod yn cynnig “new versions of standard moral problems and moral dilemmas, exacerbating the old problems, and forcing us to apply ordinary moral norms in uncharted realms.” Ymddengys fod Herman Tavani, athro mewn athroniaeth a chydgyfarwyddwr y Gymdeithas Ryngwladol dros Foeseg a Thechnoleg Gwybodaeth, yn cytuno â Johnson. Yn ei werslyfr Ethics and Technology, mae’n mynd ati i ddadansoddi pynciau dadleuol a grëwyd gan dechnolegau datblygol, a hynny o safbwynt damcaniaethau a chysyniadau moesegol traddodiadol.

Moeseg gyfrifiadurol: pryderon ac ystyriaethau cyffredin

Mae nifer o bryderon moesegol wedi dod i’r amlwg yn y maes cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth, yn enwedig yn dilyn y cynnydd a welwyd yn y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol, deallusrwydd artiffisial ac algorithmau dysgu peirianyddol uwch.

Troseddau cyfrifiadurol

Mae seiberdroseddu yn fygythiad sy’n esblygu’n gyflym ochr yn ochr â thechnoleg newydd. Trwy gyfrwng hacio, maleiswedd, feirysau, mwydod, gwe-rwydo ac ymwelwyr diwahoddiad ac ati, gall seiberdroseddwyr a hacwyr ddwyn arian a data, cyflawni twyll, masnachu mewn eiddo deallusol a chynnwys anghyfreithlon, a dwyn hunaniaeth.

Preifatrwydd a diogelwch

Mae diogelwch digidol, anhysbysrwydd, moeseg gwybodaeth a phreifatrwydd gwybodaeth yn gallu bod yn eithriadol o bwysig i bobl. Fodd bynnag, mae yna nifer o fygythiadau i’w cael, yn cynnwys cwmnïau’n mynd ati yn y dirgel i olrhain – a gwerthu – gweithgarwch ar-lein, pobl yn cael eu seiberfwlio a phobl yn datgelu gwybodaeth bersonol am bobl eraill heb ganiatâd.

Eiddo deallusol

Mae dwyn cynnwys digidol, cynnwys â hawlfraint ac eiddo deallusol, neu ddosbarthu cynnwys ac eiddo o’r fath heb ganiatâd, yn broblem barhaus ar-lein, a chaiff popeth – o’r celfyddydau a’r cyfryngau adloniant, i feddalwedd a chynhyrchion arloesol – eu rhannu’n anghyfreithlon ar-lein.

Moeseg gyfrifiadurol yn ymarferol

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu harwain gan eu moeseg bersonol eu hunain, mae’n debygol hefyd eu bod yn dilyn codau moeseg neu bolisïau cyfrifiadurol wrth ddefnyddio mathau arbennig o systemau neu feddalwedd, neu tra byddant yn y gwaith. Efallai hefyd eu bod yn aelodau o sefydliadau mwy ffurfiol, megis cyrff masnach a chanddynt eu fframweithiau a’u codau ymddygiad eu hunain mewn perthynas â moeseg broffesiynol ac ymddygiad proffesiynol.

Mae’r BCS, y Sefydliad TG Siartredig, wedi llunio Cod Ymddygiad er mwyn diogelu ei safonau proffesiynol ynghyd ag uniondeb ei aelodau a gweithwyr eraill yn y maes TG a chyfrifiadureg.

Mae’r cod hwn yn cynnwys pedair egwyddor hollbwysig, sef:

  1. Sicrhewch fod TG yn rhywbeth i bawb. Mae gweithwyr TG proffesiynol yn gweithio er budd y cyhoedd, gan roi sylw dyledus i breifatrwydd, diogelwch, iechyd y cyhoedd, a llesiant pobl eraill a’r amgylchedd.
  2. Dangoswch yr hyn a wyddoch, dysgwch yr hyn na wyddoch. Yr unig dasgau y dylai gweithwyr TG proffesiynol ymgymryd â nhw yw tasgau y mae ganddynt y cymwyseddau, y sgiliau a’r adnoddau i’w cwblhau.
  3. Parchwch y sefydliad neu’r unigolyn y gweithiwch iddo. Dylai gweithwyr TG proffesiynol weithredu er budd pennaf eu cleient neu eu cwmni bob amser, gan sicrhau disgresiwn a safonau moesegol.
  4. Sicrhewch fod TG yn real. Sicrhewch fod TG yn broffesiynol. Trosglwyddwch ef. Dylai gweithwyr TG proffesiynol weithredu gydag uniondeb bob amser, gan gynorthwyo eu cydweithwyr yn eu twf personol a phroffesiynol.

Moeseg Gyfrifiadurol – Y Deg Gorchymyn

Enghraifft boblogaidd arall o foeseg gyfrifiadurol ar waith yw’r Ten Commandments of Computer Ethics, a luniwyd ym 1992 gan y Sefydliad Moeseg Gyfrifiadurol.

Mae’r gorchmynion yn cynnwys:

  1. Peidiwch â defnyddio cyfrifiaduron i niweidio pobl eraill.
  2. Peidiwch ag ymyrryd â gwaith cyfrifiadurol pobl eraill.
  3. Peidiwch â busnesa yn ffeiliau cyfrifiadurol pobl eraill.
  4. Peidiwch â defnyddio cyfrifiaduron i ddwyn.
  5. Peidiwch â defnyddio cyfrifiaduron i ddwyn camdystiolaeth.
  6. Peidiwch â chopïo na defnyddio meddalwedd berchnogol nad ydych wedi talu amdani (heb ganiatâd).
  7. Peidiwch â defnyddio adnoddau cyfrifiadurol pobl eraill heb ganiatâd neu iawndal priodol.
  8. Peidiwch â chymryd meddiant ar gynnyrch deallusol pobl eraill.
  9. Meddyliwch am ganlyniadau cymdeithasol y rhaglen rydych yn ei hysgrifennu neu’r system rydych yn ei llunio.
  10. Defnyddiwch gyfrifiaduron mewn ffordd a fydd yn sicrhau y byddwch yn ystyried ac yn parchu pobl eraill.

Ymwreiddio moeseg gyfrifiadurol yn eich gyrfa

Gallwch ennill gradd werthfawr mewn cyfrifiadureg – gradd a fydd yn ymwreiddio ystyriaethau cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol ym mhob un o’i modiwlau – trwy astudio ein cwrs MSc Cyfrifiadureg. Dyma gwrs a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein yng Nghanolfan Reolaeth Gogledd Cymru.

Yn ychwanegol at faterion yn ymwneud â moeseg gyfrifiadurol, byddwch hefyd yn dysgu am beirianneg systemau, peirianneg meddalwedd, diogelwch cyfrifiadurol, ac ieithoedd rhaglenni megis HTML, JavaScript, PHP, a MySQL.

Mae’r cwrs Gradd Meistr hyblyg hwn yn addas i bawb, pa un a oes gennych gefndir mewn cyfrifiadureg, ai peidio. Caiff ei ddysgu’n gyfan gwbl ar-lein, felly gallwch astudio o amgylch eich ymrwymiadau proffesiynol a phersonol presennol ac ennill arian tra byddwch yn dysgu.