Beth yw datblygu meddalwedd?
Postiwyd ar: Mehefin 28, 2021gan Ruth Brooks
Mae sector technoleg y DU yn ddiwydiant sy’n ffynnu, gyda chwmnïau technoleg wedi codi dros $15bn mewn buddsoddiadau yn 2020 yn unig ac yn cyflogi oddeutu 2.98m o bobl ar draws y byd. Un o’r sgiliau sy’n cynyddu’n gyson o ran galw, ac sydd â nifer o swyddi gwag ar gael, yw datblygu meddalwedd.
Datblygu meddalwedd yw dylunio, adeiladu, profi a lansio rhaglenni cyfrifiadurol, ac rydych yn debygol o ddefnyddio nifer ohonynt yn eich bywyd bob dydd. Daeth Microsoft Word, Google Chrome, WhatsApp a nifer o adnoddau poblogaidd eraill i fodolaeth fel ag y maent nawr drwy waith tîm o ddatblygwyr meddalwedd.
Er bod llawer o’r broses datblygu meddalwedd yn ymwneud â chreu’r cod sydd wrth wraidd rhaglenni, prif nod datblygwyr meddalwedd yw cymryd y cod hwnnw, ei redeg, ei brofi, a thrwsio camgymeriadau, gan ei gywiro’n araf i’w ddatblygu ymhellach nes bod y cynnyrch gorffenedig wedi’i gwblhau.
Beth yw’r mathau gwahanol o feddalwedd?
Mae tri phrif fath o feddalwedd, sef:
- Meddalwedd system
- Meddalwedd cymwysiadau
- Ieithoedd rhaglennu
Meddalwedd system
Mae’r feddalwedd system yn galluogi’r holl hanfodion gweithredol fod yn eu lle i allu defnyddio darn o galedwedd. Er enghraifft, mae system weithredol megis Windows neu macOS (meddalwedd system) yn caniatáu i ddefnyddiwr weithredu ei gliniadur neu MacBook (caledwedd). Mae meddalwedd system hefyd yn gweithio rhwng caledwedd, megis llygoden, bysellfwrdd, ac argraffydd, a’r cyfrifiadur maent yn gysylltiedig ag ef. Heb feddalwedd system, ni fyddai modd defnyddio eich peiriant.
Meddalwedd cymwysiadau
A ydych erioed wedi meddwl, tybed pam mae’r rhaglenni y gwnaethoch eu lawrlwytho ar eich ffôn yn cael eu galw’n ‘apiau’? ‘Apps’ yw’r byrfodd ar gyfer application software. Apiau sy’n cynorthwyo defnyddwyr i gyflawni tasgau ar y we a dyfeisiau symudol, boed hynny’n defnyddio meddalwedd negesu uniongyrchol fel Microsoft Teams neu Slack yn y gwaith, neu chwilio am memes ar Instagram yn eich amser hamdden.
Ieithoedd rhaglennu
Mae ieithoedd rhaglennu cyfrifiaduron yn galluogi peirianyddion meddalwedd i gynhyrchu mathau amrywiol o god. Gyda’r cod hwn, bydd rhaglennydd yn ysgrifennu rhaglenni, sgriptiau a chyfarwyddiadau ar gyfer cyfrifiadur. Daw ieithoedd rhaglennu ar ffurfiau gwahanol, megis ieithoedd sgriptio sydd ar y cyfan yn rhedeg ar ddarnau bach o god ac yn gwneud tasgau yn awtomatig a fyddai fel arall yn cael eu gwneud â llaw gan unigolyn dynol, ac ieithoedd rhaglennu yn seiliedig ar wrthrych sy’n strwythuro glasbrintiau cod ailddefnyddadwy ochr yn ochr â data. Er bod nifer o ieithoedd rhaglennu yn cael eu haddysgu a’u defnyddio, mae’r rhai poblogaidd yn cynnwys Java, Javascript, Python, PHP, ac Oracle.
Rolau datblygu meddalwedd
Er y gall rolau a dynameg amrywio ar draws timau a busnesau, mae tair prif rôl ynghlwm â datblygu meddalwedd.
Mae rhaglennwyr a chodwyr yn gyfrifol am ysgrifennu cod ffynhonnell mewn iaith raglennu. Defnyddir y cod ffynhonnell i raglennu tasgau penodol, y mae’r cyfarwyddiadau ar eu cyfer yn aml yn dod gan beirianyddion a datblygwyr meddalwedd.
Mae peirianyddion meddalwedd yn adeiladu meddalwedd a systemau dylunio i ddatrys problemau a chreu datrysiadau sy’n gweithio yn y byd go iawn, yn hytrach na gweithio ar ddatrys achosion unigol i un cleient.
Mae datblygwyr meddalwedd ynghlwm yn agos â nifer o agweddau ar brosiect, gan gynnwys ysgrifennu cod, defnyddio a phrofi, a hybu cylchred bywyd cyffredinol datblygu meddalwedd.
Beth yw datblygu meddalwedd hyblyg?
Mae datblygu meddalwedd hyblyg wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ers yr ysgrifennwyd y Maniffesto Agile gan ddau ar bymtheg o ymarferwyr meddalwedd yn 2001. Mae’n fethodoleg fframwaith sy’n cael ei defnyddio i ddisgrifio llwybr prosiect datblygu meddalwedd.
Mae’r ffordd hyblyg o weithio yn gwerthfawrogi’r canlynol:
- Unigolion a rhyngweithiadau dros brosesau ac offer
- Meddalwedd weithredol dros ddogfennaeth gynhwysfawr
- Cydweithio â chwsmeriaid dros drafod contractau
- Ymateb i newid dros ddilyn cynllun
Sylfaen gweithio mewn ffordd hyblyg yw’r ddealltwriaeth bod dull cydweithredol yn cael ei fabwysiadu ar draws timau traws-swyddogaethol, ac mae’r holl gyfuniadau o sgiliau yn cyfuno i weithio tuag at feddwl am ddatrysiadau ar y cyd. Caiff gofynion y prosiect eu torri i lawr yn gamau datblygiad cynyddol ar y dechrau, ac mae cylch adborth parhaus yn gymorth i ddod o hyd i ddiffygion a’u datrys heb oedi’r prosiect.
Methodolegau eraill ynghlwm â datblygu meddalwedd
Heblaw am ffyrdd hyblyg o weithio, mae sawl methodoleg datblygu meddalwedd arall. Mae DevOps yn ddull hyblyg sy’n cyfuno rhanddeiliaid o weithrediadau datblygu meddalwedd a TG gyda’i gilydd drwy gydol dyluniad, datblygiad a defnydd meddalwedd newydd, ac ar gyfer cefnogaeth meddalwedd parhaus.
Mae datblygu cymhwysiad cyflym (RAD) yn cywasgu dylunio ac adeiladu cod yn un cam rhyng-gysylltiedig, gan flaenoriaethu datganiadau ac ailadroddiadau cyflym wrth ganolbwyntio ar ddefnydd meddalwedd ac adborth defnyddwyr yn hytrach na chynllunio llym.
Fframwaith hyblyg graddedig (SAFe) sy’n graddio methodoleg hyblyg i dimau a sefydliadau mwy, ac yn cynnwys canllawiau strwythuredig ar rolau a chyfrifoldebau a sut i gynllunio a rheoli’r gwaith, ac mae’r model rhaeadr yn ddadansoddiad o weithgareddau prosiect yn gamau dilyniannol llinellol. Yn aml yn cael ei hystyried yn fethodoleg datblygu meddalwedd traddodiadol, mae pob cam yn y model rhaeadr yn dibynnu ar elfennau danfonadwy’r un blaenorol, ac mae cynnal y prosiect yn ddidrafferth yn dibynnu ar gwblhau camau blaenorol.
Beth yw cylchred bywyd datblygu meddalwedd?
Y cylchred bywyd datblygu meddalwedd yw’r prosesau a methodoleg glir a diffiniedig a ddefnyddir pan mae tîm o ddatblygwyr yn creu darn newydd o feddalwedd. Mae’n cynnwys y camau canlynol:
- Dadansoddi gofynion a manylebau
- Cynllunio
- Dylunio a datblygu meddalwedd
- Profi
- Defnyddio
- Cynnal a chadw a chymorth
Caiff prosiect ei reoli a’i fesur yn ôl y Cylchred Bywyd Datblygu Meddalwedd drwy gydol y camau o greu’r meddalwedd er mwyn sicrhau ansawdd, ac er y gellir grwpio gwahanol brosesau i bwyntiau gwahanol yn y cylchred bywyd, mae’r effeithiolrwydd yn deillio o’r cylchred bywyd yn parhau i ailgylchu drwy gydol prosiect ar gyfer datblygiad a gwelliannau parhaus.
Mae’r Cylchred Bywyd Datblygu Meddalwedd yn cael ei hyrwyddo gan ddatblygwyr meddalwedd drwy gydol prosiect tra eu bod yn gweithio ar draws timau traws-swyddogaethol i droi gofynion cychwynnol yn nodweddion gweithredol, rheoli timau a phrosesau datblygu, a chynnal profion a gwaith cynnal a chadw i feddalwedd.
Sut i ddechrau arni yn y maes datblygu meddalwedd?
Er mwyn gweithio fel datblygwr meddalwedd, mae nifer o sgiliau y mae cyflogeion yn chwilio amdanynt. O blith y rhain mae: y gallu i ddefnyddio un neu fwy o ieithoedd rhaglennu; meddwl yn feirniadol a sgiliau datrys problemau; sylw craff i fanylion; sgiliau rheoli prosiect; a’r gallu i ysgrifennu a chynnal a chadw rhaglenni meddalwedd.
Y ffordd orau o sefydlu a datblygu’r sgiliau hyn yw gyda gradd meistr. Mae ein MSc Cyfrifiadureg wedi’i chreu ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant ac sy’n awyddus i atgyfnerthu eu gwybodaeth a’u sgiliau, ac mae hefyd yn agored i bobl nad ydynt yn gweithio mewn swydd cyfrifiadureg ar hyn o bryd ond sydd â’u bryd ar fynd ar drywydd gyrfa newydd.
Fel rhan o’n modiwl Datblygu Meddalwedd ar gyfer y We, byddwch yn dysgu sut i ddatblygu cymwysiadau gwe ac yn ennill sgiliau y mae galw mawr amdanynt mewn perthynas â HTML5, CSS3, Javascript, PHP a MySQL, ac fel rhan o fodiwlau eraill cewch wybodaeth drylwyr ynghylch algorithmau cyfrifiaduron, strwythurau data, a datblygu meddalwedd ar gyfer y byd go iawn.
Astudiwch yn rhan amser yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a byddwch yn barod i roi eich gyrfa ar y llwybr carlam i’r maes enillfawr, mawr ei alw hwn.