Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud?
Postiwyd ar: Medi 28, 2022gan Ruth Brooks
Mae seicoleg addysg yn yrfa helaeth a phellgyrhaeddol sy’n talu ar ei ganfed, sydd wedi ymrwymo i gefnogi anghenion dysgu a datblygiadol plant. Mae mewnbwn strategol seicolegwyr addysg (SAau) yn hanfodol i lywio amgylcheddau ysgol a phrofiadau dysgu pobl ifanc.
Gyda theuluoedd yn y DU yn wynebu argyfwng costau byw, a chyfleusterau addysg yn ceisio dal i fyny ar ôl misoedd ‘dysgu coll’ y pandemig, noda Cymdeithas Seicolegol Prydain (CSP) fod galw cynyddol am ganllawiau gan y gweithwyr proffesiynol cymwys hyn, a fydd yn gweithio ar wella datblygiad gwybyddol a lles seicolegol plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.
Gan gyfrannu â safbwynt arbenigol, mae gwaith seicolegwyr addysg yn berthnasol i ystod eang o ddysgwyr, cyd-destunau a sefyllfaoedd. Mae cyfuniad o asesu uniongyrchol (megis arsylwadau a sesiynau cwnsela) ac ymgynghoriadau gydag athrawon, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau allanol eraill, yn cynorthwyo ymarfer gyda’u prif nod o ddatblygu strategaethau ymyrraeth effeithiol sy’n cefnogi orau dysgu a datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol y plentyn.
Gan ddefnyddio gwybodaeth am ymchwil damcaniaethol, gall seicolegwyr addysg gydweithio ag athrawon, teuluoedd a gwasanaethau cymorth eraill i gyflawni rhaglenni a darpariaethau sy’n creu newid positif, yn cynorthwyo plant agored i niwed a chwalu rhwystrau o ran dysgu.
Mae’n bosibl y bydd seicolegwyr addysg yn cael eu penodi i weithio gyda:
- Plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu ac anghenion arbennig
- Pobl ifanc o gefndiroedd dan anfantais
- Plant sydd â phrofiad o drawma emosiynol
- Myfyrwyr sy’n arddangos heriau cymdeithasol ac ymddygiadol
Gan fod y dirwedd addysgol yn dod yn fwy amrywiol, mae hi’n bwysig i seicolegwyr addysg ystyried anghenion a galw amrywiol myfyrwyr, o gyd-destunau diwylliannol, hil a chrefydd o ran arddulliau dysgu amrywiol.
Yn aml, mae deall deinameg teuluol yn creu cyd-destun ar gyfer anawsterau a chryfderau unigol, a dyna pam y mae seicolegwyr addysg yn cydbwyso cwnsela unigol gyda chyswllt ehangach â’r teulu.
Yn ystod yr oes ddigidol sydd ohoni, mae’n bosibl hefyd y bydd gofyn i seicolegwyr addysg helpu athrawon i integreiddio technolegau newydd yn y dosbarth, ac addasu cynlluniau dysgu ar gyfer plant ag oedi datblygiadol.
Beth yw rhai o’r anawsterau ynghlwm wrth fod yn seicolegydd addysg?
Mae gan seicolegwyr addysg lawer o gyfrifoldebau. Wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, gall yr anghenion a’r galw fod yn sylweddol – ac mae’n hanfodol fod SAau yn ei chael hi’n iawn.
Mae’r rôl yn gofyn am lawer iawn o dosturi, sensitifrwydd a gofal, gan fod seicolegwyr addysg yn agored i’r bregusrwydd, yr heriau a’r caledi y mae plant heddiw yn eu hwynebu.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyn i seicolegwyr addysg fynd i gynadleddau amddiffyn plant, a rhoi mewnbwn ar a fyddai’r plentyn yn fwy diogel mewn gofal. Mae gwneud penderfyniadau fel hyn yn cael effaith fawr ar fywydau teuluoedd, a gall fod yn heriol iawn i ymarferwyr.
Wrth baratoi ar gyfer y rôl, mae’r cyrsiau hyfforddiant yn aml yn drylwyr ac yn gofyn am lawer o ymrwymiad. Wrth wneud y gwaith, gall unioni gofynion awdurdodau lleol gyfyngu ar ymarferwyr a bod yn rhwystredig, a gall gwleidyddiaeth o fewn datblygiadau polisi ehangach hefyd fod yn rhwystrau o ran newid.
Ond er gwaethaf yr heriau, mae llawer o fanteision i’r proffesiwn hefyd. Mae’n faes ymarfer gwerthfawr, amrywiol y mae llawer o alw amdano, sydd ag effaith hirdymor ar dwf, datblygiad a lles ystod eang o ddefnyddwyr gwasanaeth.
Pa swyddi sydd ar gael ym maes seicoleg addysg?
Mae seicolegwyr addysg yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau. Fel arfer, maen nhw’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol ac yn gweithio yn y sector cyhoeddus, o blant oed ysgol a choleg i feithrinfeydd.
Efallai y byddant hefyd yn cael eu haseinio i unedau arbennig, megis y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), sefydliadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol. Yn hynny o beth, mae llawer o swyddi a llwybrau gyrfa yn y maes hwn.
Seicolegydd Addysg
Fel rydym eisoes wedi trafod, mae seicolegydd addysg yn gweithio ag asiantaethau allanol, sefydliadau addysgol, teuluoedd a phlant i addasu a gwella eu profiadau dysgu. Maen nhw’n cefnogi’r plentyn ar lefel uniongyrchol (drwy gwnsela, asesiadau a strategaethau ymyrryd personol), ac yn dylanwadu’r systemau addysgol ehangach sy’n cefnogi’r plentyn (megis polisïau cynhwysiant).
Ymhlith cyfrifoldebau allweddol seicolegydd addysg mae:
- Asesu dysgu a datblygiad plentyn, a’i anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
- Dylunio, datblygu a chefnogi prosiectau, rhaglenni, darpariaethau a strategaethau ymyrryd a fydd o fudd i les a datblygiad y plentyn
- Cynghori, cefnogi a negodi gydag athrawon, rhieni ac asiantaethau allanol ac, mewn rhai achosion, mynd i gynadleddau gwasanaethau cymdeithasol
Ymchwilydd Addysgol
Mae gwaith ymchwilydd addysgol yn mynd cam ymhellach, gan archwilio’r dirwedd addysgol ei hun. Mae’r ymarferwyr hyn yn archwilio’r broses ddysgu, gan gynnal astudiaethau sy’n caffael gwybodaeth am agweddau penodol ar addysg. Gall hyn helpu i ddarparu mewnwelediad da iawn i’r materion, yr heriau a’r rhwystrau y mae systemau addysg fodern yn eu hwynebu.
Mae ymchwilwyr addysgol yn casglu ac yn dadansoddi data o ystod eang o ffynonellau, megis grwpiau ffocws, astudiaethau achos unigol ac arsylwadau dosbarth. Yna, mae’r data yn llywio arfer gorau a dyluniad a datblygiad rhaglenni hyfforddiant neu gyfarwyddiadau newydd. Yn ei hanfod, mae gwaith ymchwilydd addysgol yn helpu i siapio’r hyn a addysgir mewn ysgolion.
Cwnselydd Ysgol neu Goleg
Fel arfer, mae ymarferwyr yn gweithio ar y campws ac yn darparu gwasanaeth cwnsela proffesiynol a chyfrinachol i blant a phobl ifanc.
Mae cwnselwyr yn gyfrifol am helpu myfyrwyr i brosesu eu meddyliau, teimladau a phrofiadau – ac unrhyw beth arall all effeithio ar yr amgylchedd dysgu – wrth eu grymuso nhw gyda’r adnoddau a’r strategaethau ymdopi sy’n hyrwyddo eu hiechyd a lles emosiynol ac adeiladu gwydnwch.
Mae cwnselwyr yn helpu myfyrwyr i ymdopi â’r anawsterau y maent yn eu hwynebu – yn eu bywydau ac addysg. Pan fyddant yn oed ysgol, gall hyn fod yn berthnasol i faterion gartref, oedi datblygiadol neu anawsterau o ran gwneud ffrindiau – ac efallai y bydd myfyrwyr coleg yn llywio dod yn rhieni newydd hefyd, ar yr un pryd â straen arholiadau.
Mae cwnselwyr wedi’u grymuso i lywio defnyddwyr gwasanaeth drwy ystod eang o bethau sy’n achosi straen, waeth os ydyn nhw’n dod i’r amlwg fel straen emosiynol, salwch meddwl, materion cymdeithasol neu broblemau iechyd.
Ymhlith y cyfrifoldebau allweddol eraill mae:
- Helpu myfyrwyr i ddatblygu cynlluniau academaidd sy’n ategu eu sgiliau a’u cryfderau
- Hwyluso ymyrraeth mewn argyfwng a rhaglenni atal
- Cynorthwyo staff ysgol i gynllunio a gweithredu rhaglenni a digwyddiadau
Gan wrando’n weithredol, dangos llawer o empathi a defnyddio dull pragmataidd, mae cwnselwyr yn aml yn gwneud argraff am oes ar eu llwyth achos, ac yn chwarae rhan allweddol o ran llywio eu profiadau ysgol.
Chwaraewch eich rhan wrth lywio’r dirwedd addysg. Dechreuwch ar eich gyrfa ym maes seicoleg heddiw.
Bydd y radd ar-lein mewn MSc Seicoleg hon, sy’n eang iawn, yn trafod modiwlau iechyd, fforensig, clinigol a seicoleg addysg, gan roi sylfaen helaeth i chi o wybodaeth i’w defnyddio mewn cyd-destunau amrywiol.
Ar y cwrs, byddwch yn cael trosolwg o’r technolegau a’r technegau cyfoes a newydd a gymhwysir ym maes ymchwil seicolegol; dealltwriaeth o egwyddorion a thybiaethau niwroseicolegol craidd a safbwyntiau cyfoes ar anhwylderau niwrolegol allweddol a all ddod i’r amlwg yn ymarferol; y wybodaeth er mwyn mynd ar drywydd dulliau meintiol a dadansoddi ym maes seicoleg – a llawer mwy.
Ymhellach i hyn, fe fyddwch chi’n datblygu ystod o sgiliau sy’n ddefnyddiol iawn i gyflogwyr, gan gynnwys sgiliau dadansoddi data, llythrennedd ystadegol a chyfrifiadurol, arfarniadau critigol a sgiliau ymchwil.
Cofrestrwch heddiw i ddechrau ar eich gyrfa yn y proffesiwn. Mae galw mawr amdano, ac mae’n talu ar ei ganfed.