Mae’n haws nag erioed i ni greu a rhannu ein cynnwys ein hunain trwy’r cyfryngau cymdeithasol, boed yn glipiau fideo, yn ddelweddau, memes neu flogiau. Efallai y bydd rhai yn amau ansawdd llawer o’r cynnwys hwn, ond ni all neb wadu pŵer cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr (UGC) wrth ymgysylltu â defnyddwyr sy’n ysu am gynnwys llawn gwybodaeth sy’n eu difyrru. Os yw’r cynnwys yn apelio atynt maent yn debygol o’i rannu gyda’u rhwydweithiau a’u dilynwyr eu hunain.
Mae argymhellion a chymeradwyaeth gan bobl rydyn ni’n eu hadnabod (neu’n teimlo ein bod ni’n eu hadnabod) yn bwerus o ran ymddygiad defnyddwyr. Mae brandiau mawr a bach yn troi at UGC i gefnogi strategaethau marchnata mewnol sydd wedi’u cynllunio i hybu ymwybyddiaeth brand a rhyngweithiadau cwsmeriaid. Ond beth yw manteision ac anfanteision posib ildio rheolaeth dros negeseuon eich brand?
Sut all UGC roi hwb i’ch brand?
Gall cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr fod yn arf pwerus i frandiau gynyddu amlygrwydd brand, adeiladu ymddiriedaeth a throi cwsmeriaid tebygol yn gwsmeriaid go iawn. Mae amrywiol fathau o UGC o fideos tiktok i glipiau instagram a phostiadau blog. Er nad oes unrhyw sicrwydd y bydd y cynnwys o ansawdd uchel nac yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd brand neu’ch naratif brand, mae cyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth brand yn werthfawr mewn bron unrhyw amgylchiadau.
Gall UGC roi hwb i ymwybyddiaeth brand a theyrngarwch cwsmeriaid yn y ffyrdd canlynol:
Meithrin ymddiriedaeth
Mae’n teimlo’n fwy dilys a dibynadwy pan fydd cwsmeriaid go iawn yn rhannu cynnwys sy’n berthnasol i’ch brand. Mae darpar gwsmeriaid yn fwy tebygol o ymddiried mewn cynnwys a grëwyd gan eu cyfoedion ac uniaethu ag ef o’i gymharu â hysbysebion traddodiadol. Mae hefyd yn rhoi ‘dylanwad cymdeithasol’ (social proof). Gall gweld eraill yn defnyddio a mwynhau cynnyrch wneud i ddarpar gwsmeriaid eraill ddilysu honiadau’r brand ac annog cwsmeriaid newydd i brynu.
Gwella ymgysylltu
Mae annog cwsmeriaid i greu a rhannu cynnwys yn cynyddu ymgysylltiad. Mae pobl yn mwynhau bod yn rhan o gymuned a chyfrannu at frand y maent yn ei hoffi. Mae hyn yn arwain at fwy o ryngweithio a theyrngarwch brand.
Marchnata cost effeithiol
Mae UGC yn rhoi llif cyson o gynnwys i frandiau heb y costau uchel sy’n gysylltiedig â chreu cynnwys proffesiynol. Gall hyn gynnwys adolygiadau gan gwsmeriaid, lluniau, fideos ac argymhellion.
Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
Gall cynnwys ffres a pherthnasol sy’n cael ei bostio gan ddefnyddwyr wella safle brand ar ganlyniadau peiriannu chwilio. Mae peiriannau chwilio yn ffafrio gwefannau sy’n cael eu diweddaru’n gyson a gall UGC helpu i gadw cynnwys yn ddeinamig.
Adeiladu Cymuned
Mae UGC yn meithrin synnwyr o gymuned a pherthyn ymhlith cwsmeriaid. Pan fydd pobl go iawn yn rhannu eu profiadau ac yn rhyngweithio â’i gilydd, mae’n dangos perthnasedd ac yn cryfhau eu cysylltiad â’r brand.
Mewnwelediadau ac adborth
Mae UGC yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau defnyddwyr a dewisiadau ac ymddygiad cwsmeriaid a all helpu busnesau i wella eu cynhyrchion, eu gwasanaethau a’u strategaethau marchnata.
Ehangu cyrhaeddiad brand
Pan fydd defnyddwyr yn rhannu cynnwys am frand ar eu rhwydweithiau personol, mae’n ehangu cyrhaeddiad y brand i gynulleidfa ehangach, ac yn aml yn cyrraedd darpar gwsmeriaid na fyddai wedi clywed am y brand fel arall ac yn dylanwadu ar eu penderfyniadau prynu.
Strategaethau i ddefnyddio cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr
Gall dibynnu ar adolygiadau gan gwsmeriaid ac UGC i rannu negeseuon eich brand deimlo’n beryglus, ond mae effaith UGC yn glir, ac mae brandiau mawr a bach fel ei gilydd yn defnyddio UGC yn gynyddol fel arf mewn ymgyrchoedd marchnata digidol llwyddiannus. Trwy ymgorffori UGC yn ddilys yn eich strategaeth farchnata, gallwch feithrin perthnasoedd cryfach â’ch cwsmeriaid a gwella hygrededd a dibynadwyedd eich brand. Gall hyn yn ei dro gynyddu cyfraddau ymgysylltu a chynyddu teyrngarwch cwsmeriaid, yn ogystal â helpu i optimeiddio twf busnes.
Mae strategaethau i ddefnyddio UGC yn cynnwys:
Annog adolygiadau ac argymelliadau gan gwsmeriaid
Ceisio adborth gan eich cwsmeriaid yn weithredol ac arddangos eu hadolygiadau a’u hargymelliadau ar eich gwefan a’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol i rannu straeon bodlonrwydd cwsmeriaid. Mae profiadau go iawn gan gwsmeriaid go iawn yn gwella ymddiriedaeth a hygrededd.
Creu ymgyrchoedd sy’n annog rhannu
Cynllunio ymgyrchoedd marchnata sy’n annog cwsmeriaid i rannu eu profiadau o ddefnyddio eich cynhyrchion neu wasanaethau. Gallwch ddefnyddio’r dull hwn o ymgysylltu â brand a rhoi hwb i’ch presenoldeb ar-lein drwy ddefnyddio hashnodau wedi’u brandio a chymhellion sy’n ysgogi defnyddwyr ymhellach i gynhyrchu a rhannu cynnwys.
Cynnwys straeon cwsmeriaid
Tynnu sylw at straeon cwsmeriaid unigol yn eich ymdrechion marchnata. Gallai hyn fod drwy bostiadau blog, cyfweliadau fideo neu nodweddion cyfryngau cymdeithasol. Mae straeon personol yn ychwanegu elfen bersonol at eich brand.
Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Monitro a rhannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o blatfformau cyfryngau cymdeithasol, ac o bosibl annog marchnata gan ddylanwadwyr. Ail-bostio postiadau gan gwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys delweddau, fideos, a sylwadau i ddangos eich bod yn gwerthfawrogi cyfraniadau gan ddefnyddwyr go iawn.
Gall offer rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddarpar gwsmeriaid brofi cynhyrchion yn rhithwir mewn amser real annog defnyddwyr i roi cynnig ar gynhyrchion a rhannu eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Datblygu cymuned
Creu lleoedd i gwsmeriaid rannu eu profiadau a rhyngweithio â’i gilydd. Gallai hyn fod drwy fforymau ar-lein, grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol neu ddigwyddiadau a gynhelir gan frand.
Arddangos UGC mewn deunyddiau marchnata.
Ymgorffori cynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr yn eich deunyddiau marchnata. Mae curadu UGC a’i gymysgu â chynnwys wedi’i frandio mewn hysbysebion, cylchlythyrau, a thudalennau cynnyrch yn rhoi dilysrwydd a phrofiadau defnyddwyr go iawn.
Ymateb ac ymgysylltu
Ymgysylltu’n weithredol â rhai sy’n creu UGC drwy hoffi, rhannu a gadael sylwadau ar eu postiadau. Mae hyn yn gwneud i ddefnyddwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a hefyd yn annog mwy o gwsmeriaid i rannu eu cynnwys.
Tynnu sylw at amrywiaeth
Sicrhau bod y cynnwys UGC rydych chi’n ei arddangos yn adlewyrchu amrywiaeth eich sylfaen gwsmeriaid. Mae’r cynhwysiant hwn yn cryfhau delwedd a dilysrwydd eich brand ac yn gwneud iddo apelio at eich cynulleidfa fwy eang.
Mesur effaith strategaethau UGC
Mae ffyrdd amrywiol o fesur llwyddiant strategaethau UGC yn cynnwys:
- Metrigau Ymgysylltu: Olrhain hoffterau, sylwadau, rhannu cynnwys, a rhyngweithio cyffredinol ag UGC i fesur pa mor dda y mae’r cynnwys yn ennyn ymateb gan eich cynulleidfa
- Cyrhaeddiad ac Argraffiadau Mesur pa mor bell y mae UGC wedi lledaenu ar draws y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau eraill, i roi syniad i chi o ba mor weladwy yw eich brand.
- Cyfraddau Trosi: Dadansoddi faint o ddefnyddwyr sy’n rhyngweithio â UGC sy’n mynd ymlaen i brynu neu gwblhau gweithred ddymunol. Mae hyn yn helpu i bennu effaith uniongyrchol UGC ar werthiannau a throsiadau.
- Traffig Gwefan: Monitro faint o draffig sy’n cael ei yrru i’ch gwefan o UGC. Gall cynnydd mewn traffig awgrymu bod UGC yn effeithiol wrth ddenu darpar gwsmeriaid.
- Dadansoddi Sentiment: Defnyddio offer i ddadansoddi sentiment sylwadau a thrafodaethau ynghylch UGC. Mae sentiment cadarnhaol yn awgrymu bod y cynnwys yn cael ei groesawu ac yn gwella canfyddiad brand.
- Maint Cynnwys a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr: Mesur faint o gynnwys UGC sy’n cael ei greu gan gwsmeriaid. Mae cynnydd mewn UGC yn awgrymu bod eich cynulleidfa wedi’i hymgysylltu ac yn cael ei chymell i gyfrannu.
- Cyfeirio at y Brand: Olrhain nifer o weithiau y cyfeirir at eich brand mewn UGC. Mae mwy o gyfeiriadau’n gallu arwain at fwy o ymwybyddiaeth brand a chydnabyddiaeth.
- Adborth gan Gwsmeriaid: Casglu adborth gan gwsmeriaid am eu profiad gyda’r ymgyrch UGC. Gall hyn roi gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn sy’n gweithio a meysydd y gellid eu gwella.
- Dylanwadu ar Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) Gwerthuso sut mae UGC yn effeithio ar eich safle ar dudalennau peiriannau chwilio. Gall cynnwys perthnasol ffres gan ddefnyddwyr wella SEO a gyrru traffig organig.
- Elw o Fuddsoddi (ROI): Cyfrifo cyfanswm yr elw o fuddsoddi drwy gymharu cost ymgyrch UGC â’r refeniw a gynhyrchir. Mae ROI cadarnhaol yn arwydd o strategaeth lwyddiannus.
Gwella eich sgiliau mewn marchnata a rheoli
Os ydych chi’n weithiwr marchnata proffesiynol sydd eisiau ehangu eich gwybodaeth fusnes a’ch sgiliau arwain mewn marchnata a thu hwnt, gallech ystyried astudio am add MBA mewn Marchnata 100% ar-lein yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae gan y cwrs hwn gynnwys sy’n cael ei arwain gan ddiwydiant diolch i gysylltiadau cryf â busnes. Mae hefyd yn adlewyrchu statws Wrecsam fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa ac sydd â safle blaenllaw o ran cyflogadwyedd. Mae’r cwrs MBA hyblyg hwn yn caniatáu i chi astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.