A yw defnyddwyr gofal iechyd heddiw yn fwy fel defnyddwyr?
Postiwyd ar: Ebrill 1, 2020gan Ruth Brooks
Mewn blynyddoedd diweddar, nid yn unig y mae darpariaeth gofal iechyd wedi symud, ond mae’n parhau i esblygu a newid yn gyflym, boed hynny mewn gwledydd sy’n meddu ar ofal iechyd statudol, tebyg i’r DU neu Canada, neu breifat, fel system gwasanaethau er elw fel y system yn yr Unol Daleithiau. Mae’r cynnydd a wnaed nid yn unig ym maes gwybodaeth feddygol; rydym wedi gweld camau mawr mewn therapïau, triniaethau, technoleg cyffuriau, ac mae’r meysydd hyn yn parhau i ddatblygu a thyfu.
Mae mwy o wybodaeth feddygol wedi creu cleifion mwy gwybodus
Ar un adeg, cymharol wan oedd gwybodaeth defnyddwyr gwasanaethau a chleifion am gyflyrau iechyd a chlefydon. Roedd hyn yn golygu yr oedd rhaid iddynt ymddiried yn llwyr yng nghyngor eu staff proffesiynol neu sefydliad. Diolch i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd gan gyrff tebyg i Public Health England, mae gan y boblogaeth gyffredinol fwy o wybodaeth am achosion cyflyrau iechyd penodol neu glefydon, yn ogystal â’r gallu i ymchwilio ar unwaith am wybodaeth iechyd ar-lein. Bellach mae cleifion a’u teuluoedd bellach yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy craff, nag erioed.
Mae’r grymusiad newydd hwn, ynghyd â mwy o drylwyredd i’r proffesiwn meddygol a chanolbwyntio ar atal cam ddiagnosis a chamgymeriadau wedi newid disgwyliadau defnyddwyr gofal iechyd. Pan gyplir ag amrywiaeth yn narpariaeth awdurdodau gofal iechyd penodol, a datblygiad yswiriant gofal iechyd preifat yn y DU, mae wedi creu prynwriaeth, lle gall cleifion ddewis eu triniaeth, ac mae angen i ddarparwyr gofal iechyd bontio’r bwlch rhwng y disgwyliad a’r driniaeth.
Ydi prynwaith gofal iechyd yn creu problem?
Ar yr un llaw, gall claf sy’n fwy gwybodus, sy’n deall ei gyflwr hyd yn oed gymryd peth cyfrifoldeb dros ei gynllun triniaeth mewn modd cadarnhaol ac mae’n cynyddu’r cyfle i adfer yn llwyddiannus. Fodd bynnag, gall fod yn gleddyf dau fin.
Mae troi defnyddwyr gwasanaethau goddefol blaenorol yn gwsmeriaid gweithredol sy’n ymwneud â’u triniaeth, pob un a’i ddisgwyliadau ei hun a’r gallu i ddewis eu gofal iechyd, yn gallu creu problemau i arweinwyr gofal iechyd. Fel yn achos unrhyw fusnes arall, daw llwybr y cwsmer yn gynyddol bwysig, gyda chwsmeriaid eisiau teimlo y gwelir eu gwerth, a chael profiad gofal iechyd cadarnhaol wedi ei bersonoli.
Mae’r gwahaniaethau rhwng darparwyr cyhoeddus a phreifat, a lefel y gwasanaethau amrywiol a ddarperir gan wahanol ymddiriedolaethau rhanbarthol yn amlygu pam fod yn rhaid i reolwyr gofal iechyd ystyried bodlonrwydd y cwsmer fel blaenoriaeth bwysig.
Gall arweinwyr gofal iechyd gadw at gyflymer newid?
Mae’r symud yn y deinamig rhwng claf a meddyg – neu hyd yn oed claf ag ymddiriedolaeth gofal iechyd fod yn broblem os yw arweinwyr gofal iechyd yn methu addasu. Gwelwyd sawl newid mawr dros y degawdau olaf ac yn sicr, gellir disgwylir mwy yn y dyfodol. Mae canolbwyntio cynyddol ar wariant ar ofal iechyd, mwy o sgriwtini gan Lywodraeth a’r newyddion yn dangos mwy o ddiddordeb yn y digwyddiadau sy’n ymwneud â gofal iechyd cyhoeddus yn ychwanegu at bwysau rolau arweinwyr mewn darpariaeth gofal iechyd. Mae’r gallu i ddefnyddio sail arweinyddiaeth dda i fynd i’r afael â’r heriau y mae cyrff cyhoeddus a phreifat yn eu hwynebu a chaniatáu i adrannau a thimoedd berfformio ar eu gorau fod yn hanfodol.
Mae Prifysgol Wrecsam Wrecsam wedi creu Cwrs ar-lein 100% Meistr mewn Gweinyddu Busnes BA mewn Rheoli Gofal Iechyd i helpu darpar arweinwyr yn y sector gofal iechyd i ddatblygu eu harbenigedd mewn arweinyddiaeth a rheolaeth. Gan fod yr holl ddysgu’n digwydd ar-lein, nid oes angen cymryd toriad astudio wedi’i ymestyn, am fod yr hyblygrwydd a gynigir yn golygu gall myfyrwyr astudio gyda’r nosweithiau, ar benwythnosau neu hyd yn oed awr ginio. Mae gan Brifysgol Wrecsam Wrecsam gysylltiadau gwych gyda diwydiant, ac nid yn unig y mae rhaglenni Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn rhoi’r theori o’r safon uchaf y byddech yn ei ddisgwyl, ond maent hefyd yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar gymwysiadau’r byd go iawn, ac yn rhoi golwg ymarferol ar sicrhau bod eich astudiaethau yn berthnasol i’ch gyrfa.
Ceir chwe dyddiad cychwyn y flwyddyn. Mae modd talu am raglenni fesul modiwl a gall myfyrwyr wneud cais am fenthyciad y llywodraeth er mwyn helpu gyda ffioedd cwrs, sy’n helpu i ddileu’r baich ariannol o ddatblygu eich gyrfa.
Am fwy o wybodaeth a dechrau eich cais, cliciwch yma.