A oes gan farchnata broblem delwedd?
Postiwyd ar: Awst 24, 2019gan Ruth Brooks
Mewn byd lle mae marchnata’n esblygu, rhaid i farchnatwyr ail-werthuso eu strategaethau cyfathrebu oherwydd newidiadau i reoliadau, ymddygiad cwsmeriaid a bod dadansoddeg wrth law. Mae marchnata ddigidol wedi niwlo’r llinellau rhwng adrannau a rhoi mwy o ddata i ni fel na wyddom beth i wneud ag ef ac yn sylfaenol, wedi newid dulliau gweithio traddodiadol. Ar ben hynny, ni ŵyr llawer o sefydliadau pa rôl yr hoffent weld marchnata yn ei chwarae, neu ni fedrant ddiffinio hynny. Nid yw’n syndod felly fod rhaid i farchnatwyr feistroli rhagor o sgiliau a chyflawni mwy o waith nag erioed.
Mae technoleg wedi newid y tirlun am byth
Mae marchnata yn ddiwydiant sy’n newid yn barhaus. O dactegau ffres i dueddiadau sy’n datblygu, mae rhywbeth newydd i’w ddysgu bob amser. Gyda phethau’n edrych yn fain ar dimau a chyllidebau y rhan fwyaf o sefydliadau, mae gan farchnata fwy o gyfrifoldeb nag erioed i lywio busnes tuag at dwf mewn cyfnodau ansicr. O ganlyniad, mae nifer fawr o sgiliau bellach yn angenrheidiol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i unigolyn yn unig gyflawni’r rôl marchnata.
Mae un peth yn sicr: Mae technoleg wedi newid y tirlun busnes a marchnata am byth, ac mae deheurwydd data bellach yn hanfodol i’r rheini sydd eisiau ffynnu. Adroddodd Ymchwil gan Marketing Week yn dwyn y teitl ‘The Future Marketing Organisation’ bod diffyg arbenigedd yn y maes hwn yn destun pryder i gwmnïau, o gofio bod chwarter o farchnatwyr (24.4%) yn ystyried mai dyna yw eu bwlch sgiliau canfyddedig mwyaf. Gwelwyd bod ymchwil a dealltwriaeth, rheolaeth ac arweinyddiaeth ymhlith y prinder sgiliau canfyddedig.
Diffyg gwerthfawrogiad o hyfforddiant a sgiliau ffurfiol
Dywedodd Arolwg diweddar gyrfa a chyflogaeth Marketing Week y daw marchnatwyr sy’n canfod eu llwybr i’r ddisgyblaeth o amrywiaeth eang o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol, ac yn aml, rhoddir mwy o werth ar brofiad eang na hyfforddiant marchnata ffurfiol. Yn wir, nid oes gan ragor na hanner o farchnatwyr (53%) gymhwyster academaidd mewn marchnata neu gymhwyster proffesiynol o unrhyw fath. Ond, mae marchnata’n fwy na syniadau a phrofiad, mae angen craffter masnachol, dealltwriaeth o faint elw a maint elw gros. Wrth i sefydliadau ymdopi â materion fel Brexit, ceir ansicrwydd ynghylch y rôl mae marchnata yn chwarae, yn fewnol ac yn allanol. Golyga hyn bod yn rhaid i farchnatwyr allu dangos y gwerth a’r adenillion o unrhyw fuddsoddiad i weddill y busnes; canfu ymchwil diweddar gan CIM gyda PwC fod diwydiant marchnata’r DU yn cynhyrchu £36.5 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros. Mae hyn oll yn golygu mai creadigrwydd yw’r elfen holl bwysig mewn marchnata. Mae’n hanfodol y gall marchnadoedd modern fabwysiadu dull seiliedig ar fetrig i brofi enillion ar fuddsoddiad.
Dod yn rhan o’r ateb
Rhaid i farchnatwr heddiw fod yn gyfforddus gyda rhifau ac i allu defnyddio pa bynnag offer y mae cwmni wedi’i fuddsoddi ynddo er mwyn eu dadansoddi. Gall gradd mewn marchnata rhoi’r wybodaeth ddamcaniaethol i chi ddatblygu’r dull seiliedig ar fetrig hwn a dangos canlyniadau mesuradwy i’ch strategaethau a’ch tactegau marchnata.
Gyda’r twf mewn arbenigeddau marchnata a llwybrau gyrfa afliniol, gall sgiliau marchnata cyfredol, gwybodaeth am egwyddorion marchnata craidd, ac arfer gorau fod o fudd mawr i’ch sefydliad.
Mae gradd unigryw Prifysgol Wrecsam Wrecsam 100% ar-lein Meistr mewn Gweinyddu Busnes a (MBA) Marchnata yn rhoi cyfle i bobl broffesiynol ddatblygu’r sgiliau allweddol y mae hi’n ofynnol farchnatwyr uwch feddu arnynt. Yn eu plith mae marchnata strategol, cynllunio cyfathrebu cyfunol, creadigrwydd, arloesedd a dealltwriaeth o ymddygiad cwsmer.
Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau cyfathrebu, i greu a gweithredu strategaethau marchnata integredig o’r radd flaenaf, ehangu eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n hybu cwsmeriaid a datblygu cyfres gadarn o sgiliau marchnata ar arweinyddiaeth.
Gyda chwe chychwyn y flwyddyn, gallwch gychwyn ymhen wythnosau ac mae cynllun hyblyg y cwrs yn golygu y gallwch astudio yn eich pwysau eich hun er mwyn eu gweddu i’ch swyddogaeth gyfredol. Ceir dewisiadau talu hyblyg a benthyciadau llywodraeth ôl-radd i dalu costau llawn y rhaglen, i’r rheini sy’n gymwys.
Am fwy o wybodaeth, neu i ymgeisio, ewch i https://online.wrexham.ac.uk/mba-marketing/