Cwrs MBA Rheoli Adnoddau Dynol 100% ar-lein

Paratowch eich hun i lwyddo gyda gradd MBA o ansawdd uchel o brifysgol flaenllaw o ran cyflogadwyedd

  • Apply By: 19 June 2025
  • Apply By: 30 June 2025

100% online

Accelerated degrees

Flexible payment options

Manteision allweddol

[key_benefits first=”MBA 100% Ar-lein o fewn 24 mis”]

 

Mae’r radd MBA Rheoli Adnoddau Dynol 100% ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a brwdfrydig sy’n ceisio datblygu eu gwybodaeth fusnes a’u sgiliau arwain er mwyn cael dyrchafiad neu newid gyrfa yn llwyr. Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.

Yr hyn sy’n gwneud y rhaglen ar-lein hon yn wahanol yw ei natur hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar unrhyw adeg o unrhyw leoliad. Mae’n golygu y gallwch astudio wrth weithio, felly nid oes angen teithio na chymryd absenoldebau astudio. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.

Ynghylch ein rhaglen MBA

Cyflwynir y cwrs MBA Rheoli Adnoddau Dynol hwn yn gyfan gwbl ar-lein ac fe’i cynlluniwyd i adeiladu dealltwriaeth eang o fusnes, gan ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gyflym fel uwch weithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol. Byddwch yn datblygu arbenigedd ym meysydd allweddol rheoli adnoddau dynol, gan gynnwys rheoli talent a chaffael adnoddau, rheoli gwobrwyo a fframweithiau strategol Adnoddau Dynol allweddol, cyfathrebu integredig, marchnata strategol ac arloesi. Byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth mewn meysydd allweddol eraill gan gynnwys Strategaeth, Cyllid a Marchnata.

Rhaglen MBA sy'n canolbwyntio ar yrfa i'ch paratoi i lwyddo yn y byd sydd ohoni heddiw