Mae technoleg chwilio â llais wedi chwyldroi’r modd y defnyddiwn dechnoleg ddigidol. Mae cynorthwywyr rhithwir wedi bod o gwmpas ers degawd a mwy – lansiwyd Siri gan Apple yn 2010 a lansiodd Google ddull chwilio â llais yn fuan wedyn, ac o fewn dim cafwyd seinyddion clyfar fel Alexa Amazon, a gyflwynwyd yn 2014.

Bob diwrnod, mae mwy na hanner oedolion y byd yn defnyddio dull chwilio â llais o leiaf unwaith i brynu rhywbeth neu i chwilio am wybodaeth benodol. Yn ôl blog diweddar Cyngor Technoleg Forbes, a luniwyd gan Akram Atallah, “The impact of voice search on SEO is far-reaching, with voice search assistants boasting an impressive accuracy rate, answering 93.7% of search queries correctly.”

Nid ar chwarae bach y llwyddir i ateb ymholiadau mor gywir. Pan mae pobl yn siarad i mewn i’w ffôn clyfar neu eu seinydd clyfar, maent yn tueddu i ddefnyddio llinynnau geiriau sgyrsiol yn hytrach na’r llinynnau geiriau byr a phenodol y byddent yn eu bwydo i beiriant chwilio. Law yn llaw â meddalwedd adnabod llais effeithiol ac algorithmau prosesu iaith naturiol (NLP), mae optimeiddio peiriannau chwilio â llais (VSEO) yn faes sy’n esblygu’n gyflym.

Hefyd, mae ffyrdd defnyddwyr o ymddwyn yn newid yn gyflym, oherwydd mae mwy o ddefnyddwyr yn troi eu cefn ar fysellfyrddau ac yn troi at ddefnyddio microffonau eu cynorthwywyr rhithwyr adnabod llais. Gan fod dulliau chwilio â llais ar gynnydd, mae marchnatwyr yn rhuthro i geisio dilyn yr arfer ac maent yn addasu i’r tirlun marchnata newidiol er mwyn sicrhau y bydd eu cynhyrchion a’u negeseuon yn parhau i gyrraedd eu cynulleidfaoedd. Dyma sut yr ânt ati.

Optimeiddio chwilio â llais (VSO)

Ar gyfer pawb sy’n hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau ar y rhyngrwyd, ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn apiau, y nod yw sicrhau y bydd cynnwys penodol y brand yn ymddangos ar frig y canlyniadau chwilio, pa un a fydd y darpar gwsmeriaid wedi chwilio gyda thestun neu gyda llais. Mae dyfeisiau adnabod llais yn defnyddio math arbennig o ddysgu peirianyddol, a elwir yn brosesu iaith naturiol (NLP), i ddehongli a gweithredu cyfarwyddiadau’r unigolyn sy’n siarad i mewn i’r ddyfais. Rhaid i’ch cynnwys ymgorffori allweddeiriau a ddefnyddir mewn gorchmynion llais er mwyn cynyddu’r siawns y bydd eich negeseuon yn ymddangos yn y canlyniadau.

Er mwyn sicrhau y byddant yn parhau i fod yn gystadleuol, mae marchnatwyr yn datblygu strategaethau marchnata digidol lle mae angen chwilio am allweddeiriau ac maent yn canolbwyntio ar optimeiddio chwilio â llais. Mae hyn yn cynnwys:

  • Defnyddio tôn sgyrsiol mewn cyd-destunau llafar ac ysgrifenedig. Mae iaith sgyrsiol ac allweddeiriau llafar yn tueddu i gynnwys llinynnau geiriau hirach.
  • Bydd targedu eich cynnwys ar gyfer chwiliadau lleol yn helpu’r dull optimeiddio peiriannau chwilio lleol, oherwydd yn aml bydd pobl sy’n defnyddio chwiliadau adnabod llais yn symud o un lle i’r llall, byddant yn defnyddio dyfeisiau symudol a byddant eisiau dod o hyd i fusnesau lleol mewn amser real.
  • Creu gwefannau sy’n gydnaws â dyfeisiau symudol er mwyn gwella profiad y cwsmeriaid.
  • Defnyddio ymadroddion allweddol cynffon hir sy’n cynnwys geiriau cwestiwn. Efallai na fydd y geiriau a’r ymadroddion hyn yn cyfateb i’r allweddeiriau mwyaf cyffredin, ond byddant i’w cael yng ‘nghynffon hir’ y termau chwilio a gofnodir gan y peiriant chwilio.

Sut i aros ar flaen y gad o ran optimeiddio chwilio â llais

Mae dyfodol chwilio â llais yn sicr ac mae marchnatwyr yn bwrw ymlaen â datblygiadau er mwyn sicrhau y bydd cynnwys eu brand yn ymddangos ar frig tudalennau canlyniadau peiriannau chwilio (SERP). Dyma awgrymiadau ar gyfer sut i wneud hyn:

Defnyddio microddata sgema

Data strwythuredig y gallwch ei ychwanegu at HTML eich gwefan i helpu peiriannau chwilio i ddeall eich cynnwys. Gall microddata sgema gynnwys gwybodaeth fel oriau, cyfeiriad, manylion cyswllt a phrisiau eich busnes. Gallwch ddefnyddio offer rhad ac am ddim fel ‘Structured Data Markup Helper’ Google i gymhwyso microddata sgema at eich safle.

Optimeiddio ar gyfer dyfyniadau a amlygir

Yn aml, bydd cynorthwywyr llais yn darllen dyfyniadau a amlygir pan fydd pobl yn gofyn cwestiynau. Hefyd, mae dyfyniadau a amlygir yn ymddangos ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio. Gall datblygu crynodebau annibynnol, byr, 2-3 brawddeg o hyd, sy’n ateb Cwestiynau Cyffredin, fod yn agwedd ddefnyddiol ar strategaeth marchnata chwilio, gan gynyddu’r siawns y bydd eich cynnwys yn ymddangos fel dyfyniad a amlygir mewn chwiliad Google.

Defnyddio cwestiynau a chynnwys sgyrsiol

Mae defnyddwyr dulliau chwilio â llais yn tueddu i ofyn cwestiynau wrth wneud gorchmynion llais, ac yn aml mae ganddynt fwriad lleol, gan ddefnyddio dyfeisiau symudol i ddod o hyd i fusnesau neu gaffis/siopau bwyd sydd gerllaw. Trwy gadw’r cynnwys yn sgyrsiol a thrwy gynnwys gwybodaeth am y lleoliad, bydd modd helpu i ateb y cwestiynau cyffredin hyn a sicrhau bod eich cynnwys yn cyd-fynd â’r ffordd y mae pobl yn chwilio am wybodaeth wrth ddefnyddio dulliau chwilio â llais.

Parhau i fonitro eich cynnwys a’r canlyniadau optimeiddio peiriannau chwilio

Mae’n bwysig i bob busnes barhau i fod yn gystadleuol pan ddaw hi’n fater o dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio ar ôl i gwsmeriaid chwilio â llais. Trwy fynd ati’n rheolaidd i archwilio ac optimeiddio eich gwefan a’ch strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio, bydd modd ichi addasu i dueddiadau chwilio newidiol yn unol â phrofiadau defnyddwyr.

Gwella eich sgiliau marchnata a rheoli

Os ydych yn weithiwr marchnata proffesiynol sy’n awyddus i ymestyn eich gwybodaeth fusnes a’ch sgiliau arwain yn y byd marchnata a thu hwnt, beth am ystyried astudio gradd MBA Marchnata, a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae’r cwrs hyblyg hwn yn defnyddio cynnwys a gaiff ei arwain gan y diwydiant ac sy’n elwa ar gysylltiadau cryf â busnesau, ac mae’n adlewyrchu statws Wrecsam fel prifysgol sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd a phrifysgol sydd ymhlith y goreuon am baratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith. Byddwch yn dysgu am y byd busnes, gan feithrin y sgiliau sy’n angenrheidiol i gyflymu eich gyrfa fel uwch-farchnatwr. Bydd eich arbenigedd newydd yn cwmpasu meysydd hollbwysig yn ymwneud â marchnata, yn cynnwys ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu integredig, marchnata strategol ac arloesi. Hefyd, byddwch yn dysgu am ddisgyblaethau hollbwysig eraill yn cynnwys Cyllid a Rheoli Adnoddau Dynol. Dyma gwrs rhan-amser, hollol hyblyg a gyflwynir dros ddwy flynedd, felly bydd modd ichi astudio ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw le. Ceir chwech o ddyddiadau dechrau bob blwyddyn, felly gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.