6 rheswm pam ddylai darpar entrepreneuriaid astudio ar gyfer Meistr mewn Gweinyddu Busnes
Postiwyd ar: Ebrill 1, 2020gan Ruth Brooks
Er bod llawer o sefydliadau addysgiadol yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr astudio graddau uwch mewn busnes, a oes unrhyw fanteision o feddu ar radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes? Credwn fod gwir angen! Nid yn unig y cyfle i rwydweithio, cael profiad ymarferol a phrofi eich syniadau busnes mewn amgylchedd ymarferol, wedi’i rheoli.
Yma, edrychwn ar rai o’r rhesymau pam fod Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn gwbl addas i ymdrechion entrepreneuraidd:
- Mae’n darparu fframwaith a sail gadarn
Mae myfyrwyr Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn dysgu am hanfodion rheoli busnes, tebyg i gyllid, gweithrediadau, adnoddau dynol a marchnata. Hefyd mae ganddynt y dewis i gymryd pynciau dewisol sy’n berthnasol i entrepreneuriaeth. Wrth ennyn dealltwriaeth o fframweithiau a sail gyffredinol mewn rheolaeth, gall darpar entrepreneuriaid lywio egin bywyd cyffredinol eu cwmni yn haws. Gallant hefyd ddysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i godi eu hunain pan fydd pethau’n mynd go chwith, sy’n aml yn digwydd. - Cysylltiadau agos â diwydiant
Datblygir cyrsiau Meistr mewn Gweinyddu Busnes ochr yn ochr â busnesau sefydledig a lleol, sy’n eu galluogi i fwydo i mewn, a chyfarwyddo cynnwys academaidd y cwrs. Golyga hyn fod y cwrs bob amser yn fodern ac mae’n rhoi cipolwg unigryw i dueddiadau busnes cyfredol, a phersbectif. Golyga’r profiad dysgu hwn bod gennych yr offer cywir i fynd i mewn i fyd busnes, a chael cipolwg dda ar y llanw a thrai y gallech eu hwynebu. - Mae’n meithrin creadigrwydd
Mae astudio Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn rhoi’r amser, y gofod a’r cymorth i chi feddwl am sut i ddatrys problemau, meithrin eich sgiliau gwneud penderfyniadau a chanolbwyntio ar eich syniad busnes. Pan ddaw’n amser gwneud penderfyniadau uwch, o ganlyniad i’ch gradd, byddwch yn gallu cynnig atebion mwy creadigol a fydd yn eich rhoi eich busnes mewn safle cystadleuol yn ei ddiwydiant. - Mae’n cynnig cyfleoedd rhwydweithio a mentoriaeth
Os nad oes gennych gysylltiadau, gall fod yn anos, heb sôn am fod yn reit unig, sefydlu busnes newydd. Wrth i chi astudio’ch Meistr mewn Gweinyddu Busnes, byddwch yn cyfarfod pobl sy’n rhannu’r un cymhelliad, symbyliadau a heriau yr ydych chi’n eu hwynebu. Un o brif fanteision yw cysylltu â rhwydwaith sydd wedi’i sefydlu eisoes. Gall darpar entrepreneuriaid sy’n ymgyrraedd gael mynediad at sawl partner, cyflogwr a buddsoddwr posibl. Yn achos rhai myfyrwyr, mae hyn yn ddigon o reswm i astudio ar gyfer Meistr mewn Gweinyddu Busnes. - Mae’n rhoi mynediad at gyllid
Yn aml, bydd bod yn rhan o gymuned prifysgol yn golygu cael mynediad at sawl llwybr cyllid a chymorth na all fod ar gael i entrepreneuriaid eraill. Mae rhai prifysgolion mewn gwirionedd yn buddsoddi eu cyllid eu hunain i fentrau myfyrwyr, neu mae ganddynt ganolfannau busnes, pwrpasol lle gall alumni rhentu swyddfeydd a gweithleoedd. Gall eraill roi myfyrwyr mewn cyswllt a chyfalafwyr mentrus a buddsoddwyr posibl. - Mae’n darparu cynllun wrth gefn
Gorau oll os oes gennych syniad gwych, ond y ffaith greulon yw ’llawer o fusnesau syn cychwyn yn methu. Gall gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes fod yn offeryn defnyddiol i atal hyn rhag digwydd, drwy roi ‘r offer a’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel y gwnewch lwyddo, yn ogystal â dysgu i chi amrywiaeth o strategaethau rheoli cyllid a chanddynt gymwysiadau yn y byd go iawn. Gall graddedigion ddefnyddio Meistr mewn Gweinyddu Busnes i ddringo’r ysgol yrfa unwaith iddynt raddio, os ydynt am gael profiad cyn sefydlu eu cwmni eu hunain, neu os ydynt yn dewis lansio cwmni cychwynnol, ddefnyddio’r radd i gael swydd, os nad yw pethau’n mynd fel y dylent. Hefyd, mae’r radd yn werthusiad o’u cyfreithlondeb, yn rhoi gwybod i ddarpar fuddsoddwr bod ganddynt sail gadarn mewn rheoli busnes a’u bod wedi’u hymrwymo i’r busnes.
Mae’r entrepreneur sy’n meddu ar radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes ar y blaen i’r rheini nad ydynt yn meddu arno. Mae gradd unigryw Prifysgol Wrecsam Wrecsam, Meistr mewn Gweinyddu Busnes wedi ei gynllunio ar gyfer pobl broffesiynol uchelgeisiol, sy’n cychwyn busnes sydd am fwrw eu gyrfa ymlaen gyda dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arwain.
Mae’r cwricwlwm manwl yn ymdrin â disgyblaethau allweddol busnes, yn cynnwys marchnata, strategaeth a rheolaeth adnoddau dynol, meithrin sgiliau ymarferol a damcaniaethol busnes ac arwain. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i feddwl yn gritigol, cynllunio yn effeithiol a gweithredu cynlluniau strategol, gan greu’r effaith fwyaf.
Ar ben hyn, mae’r Meistr mewn Gweinyddu Busnes 100% ar-lein, ac fe’i bwriadwyd i alluogi myfyrwyr astudio yn ôl eu pwysau eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Gyda chwe dyddiad cychwyn mewn blwyddyn, gall myfyrwyr ddechrau o fewn wythnosau o benderfynu cofrestru. Ceir hyd yn oed ddewisiadau talu hyblyg, a benthyciadau ôl-radd i dalu costau’r rhaglen yn llawn, i’r rheini sy’n gymwys.
Am fwy o wybodaeth, neu ymgeisio, ewch at: https://online.wrexham.ac.uk/mba/