Eich cwrs MBA Rheoli Adnoddau Dynol 100% ar-lein

Ffordd well i lwyddo mewn Rheoli Adnoddau Dynol.

MBA Rheoli Adnoddau Dynol cwbl ar-lein o'r brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfa

  • Gwnewch gais erbyn: 24 Ebrill 2025
  • I ddechrau ar: 5 Mai 2025

180 credyd

2 flynedd yn rhan-amser

Cyfanswm ffioedd £6,000

Manteision allweddol

  • MBA 100% Ar-lein o fewn 24 mis
  • Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  • Ennill cyflog wrth ddysgu
  • Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  • Cefnogaeth academaidd lawn

Mae’r radd Meistr Gweinyddu Busnes (MBA) Rheoli Adnoddau Dynol 100% ar-lein hon wedi’i thargedu’n benodol at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio. Mae’n rhoi’r cyfle i chi symud eich gyrfa yn ei blaen yn gyflym trwy ddatblygu sgiliau busnes allweddol ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r ddisgyblaeth rheoli adnoddau dynol yn arbennig.

Datblygwch y sgiliau i drawsnewid gweithlu

Gyda ffocws ar sgiliau allweddol sy’n ofynnol i weithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol llwyddiannus, mae’r rhaglen yn cwmpasu datblygu talent, rheoli gwobrwyo, darparu adnoddau a fframweithiau Adnoddau Dynol strategol. Mae hefyd yn ymdrin â disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys cyllid, strategaeth a marchnata, a datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.

Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, yn dysgu sut i feithrin a datblygu talent yn effeithiol, a chael dealltwriaeth o sut i effeithio ar newid diwylliannol.

Mae’r wybodaeth a’r medrau allweddol a ddatblygir yn cynnwys:

  • Fframweithiau Adnoddau Dynol modern sy’n sail i’r byd gwaith sy’n newid
  • Strategaethau gwobrwyo fel catalydd ar gyfer perfformiad busnes gwell
  • Technegau ar gyfer ymgysylltu gydag, unioni a darparu adnoddau i’r gweithlu
  • Sgiliau Cyfathrebu a Rheoli Rhanddeiliaid
  • Technegau dadansoddol – troi data yn fewnwelediadau y gellir eu rhoi ar waith
  • Deall ac ysgogi macro-dueddiadau

Enw da am ein trefniadau dysgu hyblyg

Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae’r cwrs MBA cyfan gwbl ar-lein hwn wedi’i ddylunio i’ch galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

MBA gan brifysgol â chysylltiadau da

Mae’r cwrs MBA hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam yn fwy eang. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi llywio cynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs MBA sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth). Rydym hefyd yn derbyn gradd Meistr neu gyfwerth.
  • Dylech feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch gallu iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
      • TOEFL isafswm cyffredinol o 83
      • PTE Academic isafswm cyffredinol o 58
      • Cambridge (CAE & CPE) cyfanswm cyffredinol o 176
    • Cymhwyster gradd cyfrwng Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MBA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

  • Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
  • Fesul modiwl 15 credyd £500

Modules

Modiwlau
Rheoli Adnoddau Dynol mewn Cyd-destun

Yn galluogi myfyrwyr i archwilio a datblygu eu medrau a’u gwybodaeth fel ymarferydd Rheoli Adnoddau Dynol yn annibynnol trwy ddadleuon cyfoes ac adeiladol, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli adnoddau dynol ar draws yr amgylchedd busnes strategol a gweithredol. Mae’r modiwl hwn yw cynyddu hygrededd ym maes rheoli adnoddau dynol ac yn datblygu fframweithiau i gefnogi a thanategu natur ddatblygiadol y gwaith a fydd yn integreiddio â strategaethau a swyddogaethau adnoddau dynol eraill ac yn cefnogi cyfalaf dynol a pherfformiad busnes. Mae’n datblygu technegau dadansoddol a dyfarniadau yn seiliedig ar fodelau damcaniaethol a thueddiadau cyd-destunol sy’n effeithio ar reoli gwobrau ar draws swyddogaethau busnes strategol.

Caffael Adnoddau a Rheoli Dawn

Yn annog myfyrwyr i archwilio a datblygu sgiliau a gwybodaeth yn annibynnol trwy ddadleuon cyfoes a datblygiadau o ran alinio, ymgysylltu a defnyddio gweithlu sefydliad yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn ymchwilio i’r cyfraniad amrywiol y mae arferion rheoli Adnoddau Dynol hanfodol o’r fath yn ei wneud i berfformiad busnes yn y dyfodol. Mae’n datblygu technegau dadansoddol a dyfarniadau yn seiliedig ar fodelau damcaniaethol a thueddiadau cyd-destunol sy’n effeithio ar reoli gwobrau ar draws swyddogaethau busnes strategol.

Rheoli Gwobrwyo

Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r strategaethau gwobrwyo allweddol a’u hintegreiddiad o fewn y swyddogaeth adnoddau dynol. Mae hefyd yn edrych ar sut mae polisïau a gweithdrefnau gwobrwyo yn gallu integreiddio gydag a chefnogi amcanion busnes. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i’r cyfraniad amrywiol a chyffredinol sydd gan ddulliau gwobrwyo strategol fel catalyddion newid ar berfformiad busnes yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a chraffter dadansoddol yn seiliedig ar fodelau damcaniaethol a thueddiadau cyd-destunol sy’n effeithio ar reoli gwobrau ar draws swyddogaethau busnes strategol.

Pwysleisio'r Amgylchedd

Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng arferion busnes a’r effaith ar yr amgylchedd byd-eang. Mae’n ystyried y ffyrdd y mae busnesau yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol i bryderon a pholisïau amgylcheddol byd-eang.

Gweithredu Strategaethau

Mae’r modiwl hwn yn annog myfyrwyr i archwilio ac ymchwilio’n annibynnol i’r cyfraniad amrywiol y mae arferion strategol yn eu gwneud i berfformiad busnes. Mae’n datblygu technegau dadansoddol a dyfarniadau yn seiliedig ar fodelau damcaniaethol a thueddiadau cyd-destunol sy’n effeithio ar weithredu strategol.

Mewnwelediadau Ariannol a Deallusrwydd Busnes

Mae’r modiwl hwn yn datblygu gallu myfyrwyr i ddadansoddi data busnes a chyllid a dysgu mewnwelediadau allweddol a all ddylanwadu ar benderfyniadau strategol. Mae hyn yn cyfrannu at les ariannol cynaliadwy sefydliadau masnachol neu ddielw sy’n wynebu cystadleuaeth aflonyddgar.

Newid Creadigol ac Arloesedd

Modiwl sy’n darparu mewnwelediad hanfodol i natur barhaus newid a chreadigrwydd ar gyfer goroesiad a thwf sefydliadol. Mae’r modiwl hwn yn annog cydnabod y tensiynau sefydliadol a’r amrywiadau perfformiad sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a chymhwyso newid a syniadau newydd.

Cyfathrebu Integredig

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu gallu myfyrwyr i gymhwyso cysyniadau cynllunio cyfathrebu a rheoli brand effeithiol. Mae’n rhoi mewnwelediad i’r cyfraniad i berfformiad sefydliadol a wneir trwy wella cysylltiadau cynaliadwy gyda rhanddeiliaid a rhoi gwerth i gwsmeriaid.

Dulliau Ymchwil

Mae’r modiwl hwn yn rhoi mewnwelediad i natur a chyfansoddiad dulliau ymchwil academaidd sy’n cyd-fynd â fframweithiau ymchwil cyffredin. Mae’n cyflwyno technegau ac ymagweddau dadansoddol at samplu ynghyd â moeseg ymchwil er mwyn rhoi cyfarwyddyd i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i ymchwilio i a datrys eu cwestiynau ymchwil.

Adolygiad llenyddiaeth

Mae’r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i adnabod problem fusnes/rheoli gyfoes sy’n ddigon cymhleth i gyfiawnhau ymchwiliad fel modd o adnabod atebion posibl. Bydd yn rhoi cipolwg ar natur ymchwil academaidd, ynghyd â methodoleg a thechnegau dadansoddol. Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn cyflwyno eu cynnig ymchwil yn seiliedig ar adolygiad llenyddiaeth manwl. Ymchwilir i’r broblem sy’n cael ei hadnabod yn y modiwl hwn yn nhraethawd hir y myfyriwr.

Traethawd Hir

Yn y traethawd hir, bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i ac yn adrodd ar eu problem fusnes/rheoli gyfoes dewisol. Bydd y gwaith ymchwil a’r ysgrifennu yn cael ei wneud o dan oruchwyliaeth academaidd.

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam