Bod y brand y mae defnyddwyr eisiau prynu ganddo
Postiwyd ar: Mehefin 18, 2019gan Ruth Brooks
Nid ar chwarae bach y mae pobl yn dewis prynu gan frandiau. Mae bob amser rheswm y tu ôl i’w penderfyniad. Ar gyfer defnyddwyr sy’n wynebu llu o ddewisiadau – amcangyfrifir ein bod yn gweld hyd at 10,000 o negeseuon brand y dydd – a’u disgwyliadau cynyddol eu hunain, y ffactor gwahaniaethu fel arfer yw’r profiad.
Datgela adroddiad ‘State of the Connected Customer’ Salesforce fod 80% o gwsmeriaid yn dweud bod y profiad y mae’r cwmni yn ei ddarparu’r un mor bwysig â’i gynnyrch a gwasanaethau; mae 76% yn disgwyl i gwmnïau ddeall eu hanghenion a disgwyliadau; a dywed 84% bod cael eu trin fel person, nid rhif, yn bwysig iawn er mwyn ennill eu cwsmeriaeth. Mae rhoi anghenion cwsmeriaid yn gyntaf felly yn cael effaith uniongyrchol ar elw cwmni.
Wrth i gwmpas disgwyliadau cwsmeriaid newid, yn ogystal â darparu marchnata sy’n ennyn diddordeb, teithiau cwsmeriaid effeithlon ac ôl-wasanaeth perffaith, mae’n rhaid i frandiau hefyd brofi bod lles eu cwsmeriaid yn dod gyntaf. Noda ymchwil Salesforce fod 95% o gwsmeriaid yn dweud eu bod yn fwy tebygol o fod yn deyrngar i gwmni y maent yn ymddiried ynddo.
Mae sawl ffordd o wneud brandiau yn atyniadol a hybu teyrngarwch cwsmeriaid, heb beryglu elw. Dyma dri i ddechrau –
- Ychwanegu gwerth
Mae cwsmeriaid heddiw yn fwy craff nag erioed, ac yn amheus o frandiau sy’n rhy hyrwyddol. Yn hytrach, maent yn ffafrio brandiau sy’n canolbwyntio ar fod yn gymwynasgar a chynnig gwerth. Yn hytrach na meddwl am farchnata i nifer eang o bobl, crëwch ddarlun o sut beth yw eich defnyddiwr targed a meddyliwch am sut i ddenu’r person hwnnw. Datguddiwch eu problemau a’u hanghenion. Pa broblem allwch chi ei datrys iddynt? Canfyddwch y gorgyffwrdd rhwng beth y mae eich cwsmeriaid ei eisiau a’r hyn y mae eich brand yn ei ddarparu.
- Peidiwch â chlymu cwsmeriaid
Efallai eich bod yn credu mai’r ffordd orau o gadw cwsmer yn deyrngar yw ei glymu, ond, mewn gwirionedd, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae pawb yn casáu teimlo’n gaeth, ac os yw cwsmer yn aros oherwydd nad oes ganddo ddewis arall, nid yw’n dweud llawer am eich cwmni. Mae Amazon Prime, Netflix, a Spotify – i gyd yn gwneud canslo ar unrhyw adeg yn hawdd. Oherwydd bod y risg yn isel, mae mwy o bobl yn cofrestru, gan gynyddu elw. Mae’r un peth yn wir am ffonau; mae pobl ‘talu wrth fynd’ yn cynhyrchu mwy o elw. Mae clymu pobl yn costio arian. Mae mwy i farchnata na denu cwsmeriaid at eich brand, mae’n ymwneud â’u gwasanaethu yn well na’ch cystadleuwyr fel eu bod yn aros.
- Bod yn bersonol
I gael pobl i ofalu am eich brand, mae angen i chi ei wneud yn fwy personol; yn fwy agos atoch. Mae pobl yn hoff o bobl, ac maent eisiau gwybod bod yna berson y tu ôl i’r brand y maent yn ei ddilyn. Mae staff LV, er enghraifft, wedi eu hyfforddi i sylwi ar sefyllfaoedd lle mae darparu mymryn o ofal cwsmer ychwanegol yn mynd â hi. Yn ddiweddar, mae’r yswiriwr wedi dangos ewyllys da drwy anfon hamper noson ffilmiau at gwsmer sy’n gwella o ganser a mynd i drafferth fawr i gyflwyno albwm yn lle’r un a gollodd cwsmer arall mewn tân. Os ydych eisiau i bobl ofalu am eich brand, mae angen i chi ddangos eich bod yn gofalu amdanynt.
Mae’r rhai hynny sy’n llwyddo i ddenu cwsmeriaid a’u cadw drwy gynnig profiad cwsmer rhagorol yn cynyddu eu siawns o berfformiad busnes da yn y tymor hir. Mae teyrngarwch cwsmeriaid a llwyddiant busnesau felly yn dibynnu’n helaeth ar roi pwyslais mawr ar fuddiannau cwsmeriaid.
Os oes gennych ddiddordeb yn y seicoleg y tu ôl i pam fod cwsmeriaid yn prynu gan rai brandiau ac yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa ym maes marchnata strategol ac ymgysylltiad brand, mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig gradd Meistr Gweinyddu Busnes (MBA) ar-lein mewn Marchnata. Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol drawsnewid eu rhagolygon gyrfa drwy ddatblygu set o sgiliau busnes cadarn a chyflawn a dealltwriaeth ddyfnach o farchnata.
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei harwain gan y diwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, wedi ei hadeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Mae’n datblygu sgiliau allweddol sy’n ofynnol gan uwch farchnatwyr, gan gynnwys marchnata strategol, cynllunio cyfathrebu integredig, creadigrwydd, arloesedd a dealltwriaeth o ymddygiad defnyddwyr. Mae hefyd yn cwmpasu disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys cyllid a rheoli adnoddau dynol, ac mae’n datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.
Mae 100% o’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar-lein, a gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio pryd bynnag yr ydych yn barod. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.
I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba-marketing/