Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Cwrs MBA Dadansoddeg Data Mawr 100% ar-lein

Y ffordd ddoethach i sicrhau dyfodol eich gyrfa. Cwrs MBA Dadansoddeg Data mawr cyfan gwbl ar-lein gan y brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfa

Learning about DNA Phenotyping
Gwnewch gais erbyn: 28 Hydref 2024
I ddechrau ar: 4 Tachwedd 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Gradd MBA Dadansoddeg Data Mawr cyfan gwbl ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn

Mae faint o ddata y mae busnesau a sefydliadau ar draws y sector preifat a’r sector cyhoeddus yn ei gasglu, ei gynhyrchu, ei storio a’i rannu yn fwy nag erioed o’r blaen ac mae’n tyfu’n gyflym. Fel rheol, anghenion cwsmeriaid yw ysgogydd allweddol y camau y mae sefydliadau yn eu cymryd, ac mae angen i sefydliadau llwyddiannus allu dehongli data yn ddibynadwy er mwyn gwneud penderfyniadau cadarn.

Mae’r cwrs MBA Dadansoddeg Data Mawr o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol sydd eisiau ennill sylfaen eang o sgiliau busnes yn ogystal â gwybodaeth a galluoedd arbenigol amhrisiadwy wrth gymhwyso dadansoddeg data mewn cyd-destun busnes.

Gradd MBA mewn Data Mawr cyfan gwbl ar-lein y gellir ei hastudio o unrhyw le ar unrhyw adeg

Mae’r cwrs MBA Dadansoddeg Data Mawr cyfan gwbl ar-lein hwn yn cael ei astudio yn gyfan gwbl o bell, heb fod angen ymweld â’r campws. O ganlyniad i’w fodel dysgu ar-lein hyblyg, gellir astudio’r MBA ar unrhyw adeg, sy’n golygu y gallwch ffitio astudio o amgylch eich ymrwymiadau gwaith a theulu ac osgoi seibiannau astudio costus.

Dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau i roi mantais gystadleuol i chi

Byddwch yn astudio cymwysiadau data mawr, dadansoddeg data a delweddu data i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau gydag amgylcheddau sefydliadol. Cefnogir pynciau data mawr gydag astudiaethau achos sefydliadol, gan adeiladu sgiliau gwerthuso beirniadol a dadansoddi.

Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau busnes a dadansoddi allweddol, gan gynnwys:

  • Dadansoddeg busnes
  • Cymwysiadau data mawr
  • Sicrhau mewnwelediadau y gellir eu rhoi ar waith o wybodaeth fusnes
  • Gweithredu Strategol
  • Cyflawni newid creadigol ac arloesedd
  • Sgiliau Cyfathrebu
  • Methodoleg Ymchwil

Darparwr blaenllaw o addysgu a dysgu hyblyg

Mae mwy na hanner y myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam yn astudio’n rhan amser ac o ganlyniad mae gennym ni yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru gryn arbenigedd mewn dysgu hyblyg. Mae’r cwrs MBA Dadansoddeg Data Mawr unigryw hyblyg hwn yn eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ar eich telerau eich hun.

Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg i dalu dim ond £500 am bob modiwl 8 wythnos ac, i’r rhai sy’n gymwys, mae yna fenthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu cost lawn y rhaglen.

Gradd MBA Dadansoddeg Data Mawr wedi'i datblygu ar gyfer llwyddiant ym marchnad gyflogaeth heddiw

Mae’r cwrs MBA Dadansoddeg Data Mawr hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam yn ei chyfanrwydd. Mae ein cysylltiadau dwfn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio gradd MBA sy’n targedu yn benodol canlyniadau gyrfa gwella ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth). Rydym hefyd yn derbyn gradd Meistr neu gyfwerth.
  • Dylech feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch gallu iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
      • TOEFL isafswm cyffredinol o 83
      • PTE Academic isafswm cyffredinol o 58
      • Cambridge (CAE & CPE) cyfanswm cyffredinol o 176
    • Cymhwyster gradd cyfrwng Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MBA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
Fesul modiwl 15 credyd £500

Modiwlau

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam