Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Effeithiau hysbysebu ar ymddygiad defnyddwyr

Postiwyd ar: Mawrth 19, 2024
gan
Megaphone advertises a Sale

P’un ai’n bod yn sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol, yn gwylio’r teledu, neu’n gyrru i lawr y draffordd, rydym yn dod ar draws llu o hysbysebion bob dydd. Mae’n deg dweud bod hysbysebion yn rhan hollbresennol o fywydau pobl – ac maen nhw’n chwarae rhan ganolog wrth lunio ymddygiad pobl hefyd.

Rôl hysbysebu wrth i ddefnyddwyr wneud penderfyniadau

Ni all pobl brynu cynnyrch neu wasanaeth oni bai eu bod yn gwybod ei fod yn bodoli. Dyna lle mae dylanwad hysbysebu yn dod i mewn. Mae mathau cyffredin o hysbysebu yn cynnwys:

  • Hysbysebion teledu. Mae hysbysebion teledu wedi bod yn greiddiol i hysbysebu ers degawdau. Maent yn cynnig llwyfan pellgyrhaeddol i arddangos cynhyrchion a gwasanaethau i gynulleidfa amrywiol.
  • Hysbysebion cyfryngau print. Defnyddiwyd papurau newydd a chylchgronau ers tro ar gyfer hysbysebu. Gall hysbysebion print ddarparu gwybodaeth fanwl ac fe’u defnyddir yn aml i hyrwyddo cynhyrchion mwy dyrys neu gymhleth.
  • Ar hysbysfyrddau. Mae’r arddangosfeydd mawr, trawiadol hyn wedi’u gosod yn strategol mewn ardaloedd traffig uchel. Maent yn effeithiol ar gyfer creu ymwybyddiaeth brand a chyflwyno negeseuon byr, dylanwadol.
  • Hysbysebion ar-lein. Gyda dyfodiad y rhyngrwyd, cynyddodd poblogrwydd hysbysebu ar-lein yn aruthrol. Mae’n cynnwys hysbysebion pennawd, cynnwys noddedig, a hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnig targedu manwl gywir a’r gallu i ddadansoddi mewn amser real.
  • Cefnogaeth enwogion. Defnyddir enwogion yn aml i gymeradwyo cynhyrchion, gan ysgogi eu dylanwad a’u hygrededd i ddylanwadu ar farn defnyddwyr.

Yn y cyfamser, mae ymddygiad defnyddwyr yn wyddor gymdeithasol amlochrog. Mae’n astudiaeth o resymau a chymhellion pobl dros ddewis y cynhyrchion a’r gwasanaethau y maent yn eu prynu, ac mae’n archwilio eu harferion a’u patrymau prynu hefyd.

Ceir nifer o ddylanwadau ar ymddygiad prynu defnyddiwr, ond mae hysbysebu yn un pwysig. Mewn gwirionedd, mae hysbysebu yn aml yn gatalydd sy’n cychwyn taith defnyddiwr tuag at benderfyniad prynu, ac yn dylanwadu ar gamau eraill hefyd:

  • Creu ymwybyddiaeth. Prif rôl hysbysebu yw creu ymwybyddiaeth o gynnyrch neu wasanaeth penodol. Mae’n cyflwyno pobl i nwyddau a gwasanaethau na fyddent efallai wedi gwybod amdanynt fel arall.
  • Lledaenu gwybodaeth. Mae hysbysebion yn cyfleu gwybodaeth am nodweddion, buddion a phwyntiau gwerthu unigryw cynnyrch. Mae’r wybodaeth hon yn cynorthwyo defnyddwyr i wneud penderfyniadau prynu gwybodus.
  • Apêl emosiynol. Mae hysbysebion llwyddiannus yn taro ochr emosiynol defnyddwyr, gan greu cysylltiad sy’n mynd y tu hwnt i resymoldeb – ac mae emosiynau’n chwarae rhan sylweddol wrth ffurfio bwriadau prynu defnyddwyr.
  • Galw brand i gof. Mae dod i gysylltiad cyson â hysbysebion yn gwella adalw brand. Pan fydd defnyddwyr yn wynebu dewisiadau, maent yn fwy tebygol o ddewis brand y maent yn ei gofio o hysbysebu.

Deall y berthynas rhwng hysbysebu ac ymwybyddiaeth defnyddwyr

Mae ymwybyddiaeth defnyddwyr yn agwedd sylfaenol ar ymddygiad defnyddwyr – ac mae hysbysebu yn arf cryf i godi ymwybyddiaeth. Ystyriwch effeithiau hysbysebion: nid yn unig y maent yn codi ymwybyddiaeth brand – gan ymgyfarwyddo defnyddwyr ag enwau brand, logos, a sloganau – ond maent hefyd yn codi:

  • Ymwybyddiaeth cynnyrch. Trwy hysbysebion, mae defnyddwyr yn dod yn ymwybodol o gynhyrchion newydd sy’n dod i mewn i’r farchnad.
  • Ymwybyddiaeth datrys problemau. Mae hysbysebion yn aml yn creu problem ac yn gosod y cynnyrch a hysbysebir fel yr ateb. Mae hyn yn helpu defnyddwyr i adnabod eu hanghenion ac, yn hollbwysig, sut y gall cynnyrch penodol fynd i’r afael â nhw.

Y manteision: effeithiau cadarnhaol hysbysebion ar ymddygiad defnyddwyr

Gwneud penderfyniadau gwybodus

Mae hysbysebu yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr am gynhyrchion a gwasanaethau, gan eu grymuso i wneud penderfyniadau prynu gwybodus yn seiliedig ar eu hanghenion cynnyrch a’u dewisiadau brand.

Teyrngarwch brand

Gall hysbysebion crefftus ennyn emosiynau, gan feithrin cysylltiad dyfnach rhwng y defnyddiwr a delwedd y brand. Gall y cwlwm emosiynol hwn a chael eu hwynebu’n barhaus gan hysbysebion y brand feithrin teyrngarwch brand.

Mwy o werthiant

Gall strategaethau hysbysebu effeithiol hybu gwerthiant a refeniw i fusnesau. Mae hyn yn arbennig o amlwg pan gyflwynir cynhyrchion newydd neu yn ystod digwyddiadau gwerthu.

Yr heriau: effeithiau negyddol hysbysebu ar gwsmeriaid

Ystumio neu dwyll posibl

Mae rhai hysbysebion yn troi at ystumio a thwyll i ddylanwadu ar agweddau defnyddwyr. Gall hyn arwain at benderfyniadau prynu annoeth ac anfodlonrwydd defnyddwyr, ac yn gyffredinol fe’i hystyrir yn anfoesol – neu hyd yn oed yn anghyfreithlon.

Gor-ddefnydd

Gall peledu hysbysebion yn ddidostur – ac effaith ddylanwadol hysbysebion – roi pwysau ar ddefnyddwyr i brynu cynhyrchion nad oes eu hangen arnynt mewn gwirionedd, sydd yn ei dro yn arwain at or-ddefnydd anghynaliadwy.

Pryderon preifatrwydd

Mae hysbysebu ar-lein, yn arbennig, yn codi pryderon am breifatrwydd data. Gall defnyddwyr deimlo’n anghyfforddus â’r graddau y defnyddir eu gwybodaeth bersonol ar gyfer hysbysebu wedi’i dargedu.

Disgwyliadau afrealistig

Mae hysbysebion yn aml yn darlunio fersiynau delfrydol o realiti, a all arwain at ddisgwyliadau afrealistig gan ddefnyddwyr am gynhyrchion neu eu canlyniadau.

Rôl y cyfryngau cymdeithasol

Nid yw’n or-ddweud bod cyfryngau cymdeithasol wedi chwyldroi’r dirwedd hysbysebu. Mae eu nodweddion unigryw a’u cyrhaeddiad eang wedi eu gwneud yn llwyfan cryf ar gyfer dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr. Er enghraifft, maent yn hwyluso:

  • Hysbysebu wedi’i dargedu. Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn casglu data defnyddwyr helaeth, sy’n galluogi hysbysebwyr i dargedu demograffeg a diddordebau penodol yn fanwl gywir.
  • Ymgysylltu a rhyngweithio. Mae cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu ymgysylltu amser real rhwng brandiau a defnyddwyr. Gall y rhyngweithio hwn helpu i lunio canfyddiadau defnyddwyr a meithrin teyrngarwch brand.
  • Marchnata dylanwadwyr. Mae dylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn rym pwerus ym maes rheoli hysbysebu a marchnata. Gallant ddylanwadu ar farn a hoffterau defnyddwyr trwy gynnwys ac ardystiadau sy’n cael eu hystyried yn fwy dilys na chymeradwyaeth hysbysebion traddodiadol.
  • Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr. Erbyn hyn gall y defnyddwyr eu hunain gyfrannu’n uniongyrchol at hysbysebu trwy greu eu cynnwys eu hunain – megis adolygiadau a chymeradwyaeth – a all yn eu tro ddylanwadu ar ddarpar brynwyr newydd.

Dyfodol hysbysebu ac ymddygiad defnyddwyr

Mae technoleg a dewisiadau defnyddwyr yn esblygu, sy’n golygu bod y dirwedd hysbysebu, a’i heffaith sylweddol ar ymddygiad defnyddwyr, yn newid. Yn yr amgylchedd hwn, mae nifer o dueddiadau allweddol – a meysydd ar gyfer ymchwil a dadansoddi data yn y dyfodol – yn dod i’r amlwg:

  • Goruchafiaeth marchnata ddigidol. Rhagwelir yn eang y bydd hysbysebu digidol yn parhau i dyfu mewn pwysigrwydd yn y blynyddoedd i ddod. Bydd angen i hysbysebwyr addasu eu strategaethau hysbysebu a’u strategaethau marchnata yn barhaus er mwyn ymgysylltu â defnyddwyr yn effeithiol yn y maes hwn wrth iddo ddatblygu.
  • Personoli ac AI. Disgwylir i ddatblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial alluogi profiadau hysbysebu hynod bersonoledig sy’n darparu ar gyfer hoffterau ac ymddygiadau unigol, a helpu i sicrhau bod brandiau penodol yn aros ar flaen meddyliau defnyddwyr.
  • Hysbysebu moesegol. Mae ymchwil defnyddwyr yn awgrymu bod yna awydd cynyddol am arferion hysbysebu a marchnata mwy moesegol ochr yn ochr â galw am dryloywder a pharch at breifatrwydd cwsmeriaid.
  • Realiti Estynedig (AR) a Realiti Rhithwir (VR) . Mae’r technolegau hyn yn arf cymharol newydd yn y cymysgedd hysbysebu a marchnata. Maent yn cynnig profiadau trochi a all sbarduno ymatebion emosiynol mewn cynulleidfaoedd targed a helpu i ysgogi ymddygiad defnyddwyr yn fwy cyffredinol.
  • Cynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol. Mae defnyddwyr yn poeni fwyfwy am ymrwymiad byd busnes i gynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol, felly bydd angen i hysbysebwyr alinio eu negeseuon a’u harferion â’r gwerthoedd hyn fel mater o drefn er mwyn taro tant â darpar ddefnyddwyr.

Datblygu’r sgiliau i ddylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr

Dysgwch sut i feddwl yn feirniadol, cynllunio’n effeithiol, a gweithredu cynlluniau strategol i gael yr effaith fwyaf gyda’r Meistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA) 100% ar-lein yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, rhan o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae’r radd MBA hyblyg hon wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol, hunan-gychwynnol sy’n gobeithio rhoi eu gyrfaoedd ar lwybr carlam gyda dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arweinyddiaeth.

Mae un o’r modiwlau sydd ar gael ar y rhaglen hon yn archwilio parhad a thwf cwsmeriaid, ac yn eich galluogi i archwilio’n feirniadol yr offer a’r technegau a ddefnyddir i greu twf cwsmeriaid llwyddiannus ym mhob cyd-destun. Wrth wneud hynny, byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr, ac yn gwerthuso’r llenyddiaeth a’r damcaniaethau perthnasol sy’n esbonio cymhelliant defnyddwyr a pherthnasoedd cwsmeriaid.

Mae cwricwlwm cynhwysfawr y rhaglen MBA hon hefyd yn cwmpasu disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys marchnata, cyllid, rheolaeth strategol, a rheoli adnoddau dynol, a bydd yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth mewn:

  • Dod o hyd i atebion i heriau busnes cymhleth.
  • Creadigrwydd a chynhyrchu syniadau.
  • Sgiliau cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid.
  • Technegau dadansoddol – troi data yn fewnwelediadau gweithredadwy.
  • Deall a throsoli tueddiadau macro.